Eisteddfod 'sbesial' Wrecsam yn rhoi 'egni' i gais Dinas Diwylliant

Eisteddfod Wrecsam Ffynhonnell y llun, Aled Llywelyn
  • Cyhoeddwyd

Fe allai dyfodiad yr Eisteddfod Genedlaethol fod yn hwb enfawr i gais Wrecsam i fod yn Ddinas Diwylliant yn 2029, yn ôl swyddogion pwyllgor gwaith y brifwyl.

Maen nhw newydd ffarwelio â'r Eisteddfod, ond maen nhw eisoes yn edrych ymlaen ac yn paratoi i helpu gyda'r cais gan Wrecsam am deitl Dinas Diwylliant.

Yn ôl un o'r trefnwyr, mae 'na awydd mawr i ymwneud â'r Gymraeg yn dilyn yr Eisteddfod, a theimlad bod yr ŵyl eleni yn "rwbeth sbesial".

Dywedodd staff canolfan gelfyddydol Wrecsam bod yr Eisteddfod wedi taflu goleuni ar y celfyddydau yn yr ardal, fydd yn "help anferth".

'Cymryd y bobl gyda ni ar y daith'

Mae'r Eisteddfod wedi "creu egni", meddai Elen Mai Nefydd, is-gadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod Wrecsam 2025, a phennaeth darpariaeth y Gymraeg Prifysgol Wrecsam, ac mae awydd mawr yn lleol i ymwneud â'r Gymraeg.

Er bod y brifwyl wedi dod i ben, dywedodd bod y pwyllgor gwaith yn benderfynol o gynnal y brwdfrydedd yn y fro.

"Mae Llinos Roberts y cadeirydd a finne yn eistedd ar fwrdd y Fenter Iaith yn lleol a 'da ni yn trafod yn barod sut mae cario y gwaith yma ymlaen."

Elen Mai Nefydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae cynnal yr Eisteddfod wedi rhoi "sail arbennig" i bob math o bethau yn yr ardal

Dywedodd bod pawb yn teimlo iddyn nhw "greu rwbeth sbesial" yn ystod yr Eisteddfod eleni, a'u bod am fwrw ymlaen â'r gwaith, gyda bwriad i drefnu digwyddiadau.

Dywedodd hefyd fod y ffaith fod Wrecsam yn cynnig am deitl Dinas Diwylliant 2029 yn bwysig, a hithau wedi ymaelodi â'r bwrdd ymgynghorol.

Mae hynny yn golygu "bwydo y digwyddiadau Cymraeg yma i mewn i raglen y cais ac mae hyn yn hollbwysig".

Wrth ddisgrifio brwdfrydedd pobl yn lleol dros yr Eisteddfod mae hi'n hyderus "y gallwn ni gymryd y bobl yna gyda ni ar y daith yna, rheiny sy' wedi ymgymryd â'r elfennau a'r digwyddiadau gwahanol dros gyfnod y Steddfod".

"Dwi'n teimlo fydd pobl isio g'neud hyn. Da ni wedi creu corau newydd yn yr ardal, dwi 'di bod yn arwain efo Jane Owen, côr llefaru newydd sbon.

"Ma' pawb yn awyddus i gario mlaen. Os cariwn ni mlaen bydd gyda ni sail arbennig ar gyfer pob math o wahanol bosibiliadau yn yr ardal."

Gareth Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Byddai cael statws Dinas Diwylliant yn "andros o fawr" i Wrecsam, meddai Gareth Thomas

Ar faes yr Eisteddfod roedd gobaith bod yr Eisteddfod wedi rhoi "hwb" i'r cais Dinas Diwylliant, gyda "brwdfrydedd mawr yn y ddinas", meddai Jane Thomas o Amgueddfa Wrecsam.

Tebyg oedd teimladau Gareth Thomas, swyddog marchnata y farchnad a chanolfan gelfyddydol, Tŷ Pawb.

Symudodd i Wrecsam oherwydd y diwylliant. Mae'n gitarydd mewn band, a dywedodd mai "dyma lle roedd y gigs gorau".

Mae'n dweud nad yw llawer yn ymwybodol o'r hyn sydd gan y ddinas i'w gynnig, ond bod yr Eisteddfod wedi newid hynny.

"Mae'r Eisteddfod wedi helpu ni i gyrraedd y lefel nesaf yn y byd celf yng Nghymru", meddai.

"Da ni yn gwybod fod pobl sy' 'di bod i'r Steddfod hefyd 'di bod i Tŷ Pawb.

"Mae 'na lot fawr o bobl newydd ni 'di siarad efo nhw am y cais. Mae 'di bod yn help anferth. Bydde hyn yn andros o fawr i Wrecsam."

Yn y gorffennol mae wedi teimlo nad oedd y celfyddydau a diwylliant yn Wrecsam yn y "spotlight fel petai, ond mae wastad 'di bod yna, ma' lot yn grass roots. Mae y Steddfod yn mynd i newid hyn."

"Ma' wythnosau fel hyn yn mynd i 'neud byd o wahaniaeth a newid."

Lynsey Thomas, Ifan Meredith, Hana Morgans Bowen
Disgrifiad o’r llun,

Roedd gan Lynsey Thomas (chw), Ifan Meredith a Hana Morgans Bowen syniadau ei hunain am sut ddylai gwaddol yr Eisteddfod edrych

Wrth i bobl Wrecsam edrych ymlaen at gyfnod cyffrous arall a chanolbwyntio eu hegni ar y dyfodol, roedd ymwelwyr â'r maes yn barod iawn i ddweud eu dweud am beth yw gwaddol Eisteddfodau.

Edrych ymlaen at brifwyl 2026 mae Lynsey Anne Thomas o Landysul, ym mro yr ŵyl.

"Byddwn i'n gobeithio bod unrhyw un sydd yn mynd i'r Eisteddfod am y tro cyntaf pan bydd e yn dod i'w hardal nhw, yn meddwl 'Ooo, nes i joio hwnna. Dwi'n mynd i fynd eto blwyddyn nesaf'."

Dywed Ifan Meredith o Lanbedr Pont Steffan y byddai'n hoffi "proses follow up" er mwyn mesur yr effaith ar ardaloedd sy'n cynnal y brifwyl.

"Creu ffordd o joio'r iaith Gymraeg" ddylai fod y ffocws, yn ôl Hana Morgans Bowen o Aberteifi.

Yn ddiweddar fe wnaeth Ysgrifennydd y Gymraeg "gais newydd" i'r Eisteddfod Genedlaethol i gael "strategaeth ymadael o'r diwrnod y maen nhw'n nodi ardal lle mae'r Eisteddfod i'w chynnal" er mwyn gadael mwy o waddol.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod eu bod "yn edrych ymlaen at weithio gyda phartneriaid... ym mhob ardal sy'n croesawu'r ŵyl er mwyn sicrhau gwaddol ar draws nifer o feysydd gan gynnwys yr iaith, diwylliant, y gymuned a gwirfoddoli".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.