Llofruddiaeth Conall Evans: Dau yn llys y goron

Conall EvansFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Conall Evans ei ganfod yn farw tu allan i ysbyty yn Rhondda Cynon Taf ar Ddydd Calan

  • Cyhoeddwyd

Mae dau ddyn wedi ymddangos yn llys y goron ar gyhuddiad o lofruddio dyn a gafodd ei ganfod yn farw tu allan i ysbyty yn Rhondda Cynon Taf.

Bu farw Conall Evans, 30 oed o ardal Pentre, yn dilyn ymosodiad yn Nhonypandy ar 1 Ionawr.

Mae Dewi Morgan, 24 oed o Drealaw, ac Ashley Davies, 30 oed o Bentre, wedi eu cyhuddo o lofruddiaeth a bod ag eitem finiog yn eu meddiant yn gyhoeddus heb reswm teilwng.

Ymddangosodd y ddau o flaen Llys y Goron Merthyr Tudful ddydd Gwener, oedd yn eistedd yng Nghaerdydd.

Ni chafodd pledion eu cyflwyno, ac nid oedd cais am fechnïaeth.

Cafodd yr achos ei ohirio tan 8 Chwefror.

Pynciau cysylltiedig