Y milfeddygon sydd 'ddim yn stopio' yn y Sioe Fawr

Mae Dafydd Jones yn un o bump o filfeddygon sy'n gyfrifol am anifeiliaid y Sioe Fawr
- Cyhoeddwyd
Y Sioe Fawr yw wythnos brysura'r flwyddyn i Dafydd Jones - un o filfeddygon y sioe.
Mae Dafydd a phump arall yn gyfrifol am gadw miloedd o anifeiliaid yn iach wrth iddyn nhw gystadlu yn Llanelwedd.
Dywedodd bod tywydd mwy cymedrol yn ystod sioe eleni wedi gwneud "byd o wahaniaeth" i les yr anifeiliaid.
Mae'n cael ei amcangyfrif bod yr anifeiliaid wedi teithio o tua 30 o wledydd gwahanol er mwyn cymryd rhan yn un o sioeau amaethyddol mwyaf Ewrop.

Mae miloedd o anifeiliaid yn teithio o tua 30 o wledydd i gymryd rhan yn ystod pedwar diwrnod y Sioe Fawr
Wedi bod yn filfeddyg y Sioe Fawr ers bron i 20 mlynedd, mae cyfrifoldebau Dafydd Jones yn ystod y Sioe Fawr yn wahanol iawn i'w ddiwrnodau gwaith arferol yn ôl yn Aberystwyth.
"Dwi'n mwynhau bod yn filfeddyg yn y sioe.
"Mae yna gynnwrf yma, a chyffro a cymaint o bethau yn digwydd.
"'Da chi'n cael eich tynnu o un pen y sioe i'r llall ac mae rhywun yn cael y cyfle i gyfarfod lot o bobl o wahanol ardaloedd.
"Mae'n wythnos brysur iawn, ond dwi'n ei mwynhau hi."
Mae sefydliadau milfeddygol ac amaethyddol yn defnyddio'r Sioe Fawr yn Llanelwedd yr wythnos hon i annog mwy o ddefnydd o'r brechlynnau sydd ar gael i daclo clefyd y tafod glas.
Mae'r sioe wedi gwahardd defaid a gwartheg o Loegr a'r Alban eleni, fel rhan o'r ymdrech i geisio cadw'r feirws allan o Gymru.
Ar alw 'bob awr o bob dydd'
Mae swydd y milfeddygon yn cychwyn cyn i'r sioe agor ei giatiau i'r cyhoedd ddydd Llun, gan edrych ar anifeiliaid wedi iddyn nhw deithio.
Yna, maen nhw ar alw "bob awr o bob dydd" yn ystod dyddiau'r cystadlu ac arddangos.
"'Da chi ddim yn stopio lot, ond dyna yw'r rhan o'r hwyl," meddai Dafydd.
"Mae gennym ni lot o anifeiliaid yma; gwartheg, defaid, ceffylau, moch.
"Felly mae'n lot o swyddi gwahanol mewn un swydd."

Yn ôl Dafydd Jones, mae'r tymheredd yn ystod y sioe eleni yn golygu ei bod yn haws cadw'r anifeiliaid yn iach a diogel
Tra bod rhai ymwelwyr yn gobeithio am dywydd braf, mae Dafydd yn falch bod y sioe eleni wedi cael tywydd mwy cymedrol.
"Tywydd poeth yw un o'n prif broblemau 'da ni'n cael yma," meddai.
"Mae 'na lot o bethau mae'r gymdeithas yn gwneud, a ni fel milfeddygon.
"Mae rhan fwyaf o'r sieds - yn enwedig sieds mawr yn y cefn - mae 'na ffans yn y to ers sawl blwyddyn bellach, ac mae pethau fel 'na yn gwneud dipyn o wahaniaeth."
Er nad oes wedi bod angen hyd yn hyn, mae Dafydd yn dweud bod y sioe yn gallu newid amseroedd y dosbarthiadau cystadlu o adegau poethaf y dydd.
- Cyhoeddwyd22 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd22 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf
Er mai gofalu am anifeiliaid yw'r dasg, mae Dafydd yn aml yn cerdded o amgylch y maes gyda phentwr mawr o waith papur.
"Yr un peth am swydd fi bysa pobl ddim yn gwybod ydi faint o waith papur sy' 'na.
"Mae 'na newidiadau gwleidyddol wedi achosi lot mwy o waith papur 'na oedd 'na.
"Mae 'na lot o geffylau'n dod o Ewrop i gystadlu neu mewn arddangosfa, ac mae gennym ni lot mawr o waith papur i wneud siŵr maen nhw'n cyrraedd nôl adref yn saff."