Ffermwyr Cymru i gael eu gwahardd rhag taflu dip defaid ar eu tir
- Cyhoeddwyd
Mae ffermwyr Cymru yn wynebu gwaharddiad ar waredu dip defaid gwastraff ar eu tir, oherwydd pryderon bod y cemegion yn llygru afonydd.
Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) eu bod wedi mesur lefelau uwch o ddiazinon yn cronni mewn afonydd, cemegyn sy'n wenwynig i fywyd gwyllt.
Mae'r corff yn bwriadu diweddu'r arfer o ganiatáu i ffermydd wasgaru dip gwastraff, wedi'i ddyfrhau ar eu tir, gan roi'r gorau i gynnig trwyddedau newydd.
Dywedodd undeb NFU Cymru eu bod wedi'i "synnu" gan y penderfyniad "hynod siomedig", gan alw ar CNC i ail-ystyried y mater.
Mae dip defaid yn cael ei ddefnyddio i warchod defaid rhag parasitiaid a chyflyrau croen.
Er bod dipio defaid yn "bwysig i ddiogelu da byw", dywedodd CNC fod angen newidiadau i'r modd y mae'r hylif sydd dros ben yn cael ei waredu.
Fydd trwyddedau sy'n caniatáu i ffermwyr ei wasgaru ar eu tir ddim yn cael eu caniatáu mwyach.
Yn hytrach, bydd galw ar ffermydd gyflogi cludydd gwastraff cofrestredig i waredu eu dip gwastraff "mewn cyfleuster gwastraff addas", meddai CNC.
Gall y sawl sydd â thrwydded weithredol yn barod barhau i ledaenu ar eu tir "am y tro", er "yn y pen draw bydd angen gwaredu'r holl ddip gwastraff fel hyn", ychwanegodd y rheoleiddiwr.
'Anfantais i ffermwyr ifanc'
Dywedodd Cadeirydd Bwrdd Da Byw NFU Cymru, Rob Lewis, fod yr undeb "wedi'i syfrdanu bod CNC wedi gwneud y penderfyniad yma fydd yn weithredol yn syth heb ystyried yr effeithiau ehangach."
"Mae'r arfer o dipio defaid yng Nghymru yn hanfodol i gynnal statws iechyd uchel y praidd Cymreig," ychwanegodd.
"Mae gan y penderfyniad oblygiadau ar gyfer iechyd a lles anifeiliaid, rheolaeth cynefinoedd allweddol ac mae'n anfanteisio ffermwyr ifanc a newydd ddyfodiaid i'r sector defaid".
Dywedodd fod yr undeb o'r farn nadd oedd "achos gwyddonol i atal gwaredu ar dir", gan nodi bod "ceisiadau newydd am drwyddedau yn dal i gael eu caniatáu yng ngweddill y DU".
"Rydym wedi ysgrifennu at CNC heddiw ac wedi galw am i'r penderfyniad gael ei wyrdroi."
Dywedodd cadeirydd bwrdd materion gwledig yr undeb, Hedd Pugh nad oedd y diwydiant "yn agos at gael cynllun gwaredu dip ymarferol yn weithredol yng Nghymru".
"Mae yna broblemau gwirioneddol yn ymwneud â chasglu a storio ond yn bwysicach fyth, y gost aneconomaidd o losgi dip sydd wedi darfod," meddai.
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd7 o ddyddiau yn ôl
Dywedodd Simon Evans, prif weithredwr Sefydliad Afonydd Gwy ac Wysg, bod diazonin yn "gemegyn peryglus iawn ar gyfer yr amgylchedd", sy'n effeithio pysgod fel eog a sewin yn benodol.
"Ry'n ni'n ei ganfod e yn yr Wysg ar lefelau pryderus yn ystod yr Hydref, sef pryd mae'r pysgod yn trio silio," meddai.
"Yr unig wir ddefnydd iddo bellach yw ar gyfer dip defaid a mae hynny'n dangos bod y ffordd bresennol o waredu ar y dip ddim yn gweithio.
"Ry'n ni'n cefnogi safiad NRW achos mae'n rhaid gwneud rhywbeth."
Ychwanegodd Gail Davies-Walsh, prif weithredwr Afonydd Cymru, bod y corff wedi bod yn "mynegi pryderon ynglŷn â'r arfer o waredu diazinon ar dir ers tro".
"Mae'r cyhoeddiad felly yn newyddion da a ry'n ni'n croesawu'r cam cynta' yma tuag at atal y cemegyn hynod niweidiol hwn rhag cyrraedd afonydd Cymru," meddai.
"Mae'n werth nodi nad oes cyfleusterau i waredu'r cemegyn ar gael yng Nghymru ar hyn o bryd, felly bydd angen gwell cefnogaeth ar ffermwyr i ddelio ag e."
'Gwell dewisiadau ar gael erbyn hyn'
Dywedodd Nadia De Longhi, pennaeth rheoleiddio a thrwyddedu CNC: "Rydym yn gweithio'n gyson i gydbwyso anghenion ffermydd gweithredol gyda'n dyletswyddau i ddiogelu'r amgylchedd ac mae hyn yn aml yn golygu newid graddol i'r ffordd y mae pethau'n gweithio.
"Mae dip defaid wedi cael ei waredu ar dir ers dros 30 mlynedd ond rydym wedi sylwi ar effaith negyddol yn ein hafonydd sy'n achosi i ni fethu â chyrraedd y safonau sy'n ofynnol i ddiogelu'r amgylchedd dŵr.
"Dyma pam rydyn ni wedi penderfynu dileu'r arfer yn raddol gan fod gwell dewisiadau ar gael erbyn hyn.
"Gall y rhai sydd eisoes â chaniatâd i waredu dip defaid ar dir barhau i wneud hynny am y tro, ond byddwn yn gweithio gyda ffermwyr i ddiddymu'r arfer yn raddol yn y pen draw a symud i broses nad yw mor llym ar ein hamgylchedd.
"Er mwyn cefnogi'r newid hwnnw, rydym wedi dileu'r tâl, sydd yn £363 ar hyn o bryd, i ildio'ch trwydded os nad oes ei hangen arnoch erbyn hyn."