Panel yn achos camymddwyn heddwas yn ystyried eu penderfyniad

Gary Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gary Davies yn gwadu bod ei weithredoedd yn gyfystyr â chamymddwyn difrifol

  • Cyhoeddwyd

Mae cadeirydd panel gwrandawiad camymddwyn yn erbyn uwch-arolygydd heddlu wedi dweud nad oedd y menywod wedi gwneud "unrhyw beth i roi eu hunain mewn sefyllfa anghyfforddus" pan gyffyrddwyd â nhw yn amhriodol mewn parti Nadolig gwaith.

Mae Uwch-arolygydd Heddlu Dyfed-Powys, Gary Davies, yn wynebu pum cyhuddiad yn dyddio rhwng 2017 a 2021 - gan gynnwys creu diwylliant misogynistaidd a chymharu menywod i geir fel 'Porsche' a 'Rolls Royce'.

Yn ystod y gwrandawiad, fe wnaeth y dyn 58 oed o Ben-y-bont a'r Ogwr wadu fod ei weithredoedd honedig yn gyfystyr â chamymddwyn difrifol.

Bydd y panel, sy'n cael ei gadeirio gan Oliver Thorne, nawr yn penderfynu ar ddifrifoldeb y cyhuddiadau ac a ydyn nhw'n gyfystyr â chamymddwyn difrifol.

Yn ystod y gwrandawiad, a ddechreuodd ddiwedd Mawrth, clywodd y panel honiadau fod yr Uwch-arolygydd Davies wedi cyffwrdd â dwy gydweithwraig yn ystod parti Nadolig ym mis Rhagfyr 2017, heb eu caniatâd na'u gwahoddiad, gan wneud iddyn nhw "deimlo'n anghyfforddus".

Honnodd un tyst, na ellir ei henwi am resymau cyfreithiol, fod yr Uwch-arolygydd Davies yn cael ei alw'n "octopws" - a bod ganddo enw am "gyffwrdd".

Cyfaddefodd yr Uwch-arolygydd Davies ei fod o dan ddylanwad alcohol yn y parti ac fe ymddiheurodd am ei ymddygiad.

Dywedodd cadeirydd y panel, Oliver Thorne, yn ei ganfyddiadau, nad oedd y menywod "wedi gwneud unrhyw beth i roi eu hunain mewn sefyllfa anghyfforddus heblaw mynychu parti Nadolig gwaith".

Ychwanegodd mai "dyma'r math o ymddygiad fyddech chi'n disgwyl i swyddog stopio ar noson allan".

Fe glywodd y panel hefyd fod yr Uwch-arolygydd Davies wedi anfon negeseuon testun honedig at gydweithwraig benywaidd yn gofyn iddi redeg i ffwrdd gydag ef.

Cyfaddefodd yr Uwch-arolygydd Davies ei fod wedi anfon y negeseuon testun, gan ddweud ei fod wedi ei ysbrydoli gan Thelma & Louise - drama drosedd Americanaidd am ddwy fenyw sy'n ffoi rhag yr heddlu.

Gary Davies
Disgrifiad o’r llun,

Honnir i'r Uwch-arolygydd Davies anfon negeseuon testun at gydweithwraig benywaidd yn gofyn iddi redeg i ffwrdd gydag ef

Dywedodd Mr Thorne fod y panel yn teimlo fod "ffiniau proffesiynol wedi cael eu gwneud yn niwlog ac nad oedd y negeseuon yn 'blatonig'".

Yn ystod y gwrandawiad, clywodd y panel honiadau fod yr Uwch-arolygydd Davies wedi ymddwyn mewn ffordd oedd yn gwneud i gydweithwyr benywaidd deimlo wedi'u heithrio yn y gweithle.

Roedd yr ymddygiad honedig yn cynnwys cymryd rhan mewn grŵp WhatsApp gwrywaidd yn unig, gwahardd aelodau benywaidd o staff o gyfarfodydd, bod yn ddiystyriol o farn aelodau benywaidd o staff, rhoi gwaith a oedd yn is na lefel eu harbenigedd i gydweithwyr benywaidd a rhoi ffafriaeth i ddynion o ran dyrannu a chydnabod gwaith.

Clywodd y panel honiadau fod yr uwch-arolygydd hefyd wedi gwneud sylwadau am ymddangosiad corfforol cydweithwyr benywaidd gan eu cymharu i geir fel "Rolls Royce" neu "Porsche".

'Wedi fy llorio'

Yn ei amddiffyniad, dywedodd yr Uwch-arolygydd Davies fod hyn wedi ei selio ar "ansawdd a'i dibynadwyedd" ac nad oedd yn gweld Rolls Royce fel rhywbeth rhywiol.

Dywedodd Mr Thorne, serch hynny, fod y panel "yn gwrthod fod hyn yn seiliedig ar waith yn hytrach nag ymddangosiad corfforol" ond yn seiliedig ar y ffaith fod yr Uwch-arolygydd Davies wedi cyfeirio at gydweithwyr fel "yr un rhywiol" a "phert".

Yn ystod y gwrandawiad, fe wnaeth yr Uwch-arolygydd Davies ddweud wrth y panel ei fod wedi eisiau bod yn swyddog heddlu ers yn ifanc.

Fe ymunodd â'r llu yn 2002 a chael dyrchafiad yn uwch-arolygydd yn 2019.

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Davies ei fod wedi'i lorio wedi iddo dderbyn papurau camymddwyn yn 2022, gan achosi i'w briodas chwalu.

Dywedodd Mr Davies ei fod ers hynny wedi cael therapi i ddelio â'i bryder ac wedi ailbriodi.

Bydd panel y gwrandawiad camymddwyn ym Mhencadlys Heddlu Dyfed-Powys yn Llangynnwr, Sir Gaerfyrddin, yn penderfynu ar ddifrifoldeb y cyhuddiadau ac a yw yr hyn a wnaeth Mr Davies yn gyfystyr â chamymddwyn difrifol.

Mae'r gwrandawiad yn parhau.

Pynciau cysylltiedig