Carcharu dyn am weddill ei oes am lofruddio ei gymydog
- Cyhoeddwyd
Bydd llofrudd oedd wedi ei ryddhau o'r carchar yn treulio gweddill ei oes dan glo am ladd ei gymydog 71 oed.
Daeth yr heddlu o hyd i gorff Wendy Buckney mewn tŷ ar Heol Tanycoed yng Nghlydach, Abertawe ym mis Awst 2022.
Clywodd yr achos bod y cyn-hyfforddwr marchogaeth wedi ei tharo a'i thrywanu i farwolaeth, a bod ei chorff wedi ei guddio dan ddodrefn.
Mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener, cafodd Brian Whitelock ei ddedfrydu i weddill ei oes yn y carchar.
Y gred yw y bydd adolygiad aml-asiantaeth yn cael ei gynnal er mwyn ystyried a gafodd cyfleoedd eu methu gan yr awdurdodau i warchod y cyhoedd.
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd23 Awst 2022
- Cyhoeddwyd24 Awst 2022
Wrth gyhoeddi'r ddedfryd, fe ddywedodd y barnwr Mr Ustus Griffiths na fyddai Whitelcok fyth yn cael ei ystyried ar gyfer parôl.
"Does dim amheuaeth gen i fod yr achos yma mor ddifrifol fel mai'r unig gosb addas yw i'ch cadw chi dan glo am weddill eich oes," meddai.
"Roedd bwriad gennych chi i ladd, o ystyried nifer a natur yr anafiadau... Dydw i chwaith ddim yn credu fod anafiadau i'ch pen wedi chwarae unrhyw ran yn y digwyddiad.
"Fe wnaethoch chi ei disgrifio fel 'ail fam' i chi. Doedd hi'n haeddu dim ond eich diolch, ond fe wnaethoch chi ei lladd hi er gwaethaf hynny, a dydych chi erioed wedi egluro pam.
"Fe laddoch chi hi er eich pleser eich hun."
Rhybudd: Gallai'r cynnwys isod beri gofid i rai
Mewn datganiad dioddefwr, dywedodd chwaer Wendy Buckney, Ann, fod Ms Buckney yn ymwybodol o'i gyfnod yn y carchar, roedd hi'n grediniol fod "pawb yn haeddu ail gyfle".
Cafodd ei lladd mewn ymosodiad gafodd ei ddisgrifio fel un "sadistaidd" gan yr erlyniad, ac roedd ganddi ormod o anafiadau i'w cyfrif.
Dywedodd Ann nad oedd y teulu yn gallu stopio meddwl am y diwrnod hwnnw, ac a oedd hi "yn erfyn arno i stopio".
Yn ôl y ditectif prif arolygydd, Matthew Davies o Heddlu De Cymru, mae'n un o'r safleoedd trosedd gwaethaf iddo ei weld erioed.
Yn ogystal â'r anafiadau niferus i gorff Ms Buckney, dywedodd Mr Davies fod ei chartref wedi ei "chwalu".
Roedd Ms Buckney yn noeth, a chafodd DNA Whitelock ei ganfod ar ei dillad isaf. Roedd yr erlyniad yn dadlau fod y diffynnydd wedi ymosod yn rhywiol arni.
Yn ystod yr achos llys, lle'r oedd yn amddiffyn ei hun, fe wnaeth Whitelock gyfaddef dynladdiad Ms Buckney, ond roedd yn gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth ar y sail nad oedd yn ei iawn bwyll.
Awgrymodd ei fod wedi ymddwyn yn fath fodd wedi iddo ddioddef anaf i'w ben.
Cafodd yr honiadau hynny eu gwrthod gan yr erlyniad, a ddywedodd mai effaith alcohol ac "obsesiwn" Whitelock gyda'r cyffur diazepam oedd achos yr ymddygiad treisgar.
Dim ond chwe munud wnaeth hi gymryd i'r rheithgor yn Llys y Goron Abertawe i'w gael yn euog.
Daeth i'r amlwg yn ystod yr achos nad dyma oedd y tro cyntaf i Whitelock ladd.
Roedd eisoes wedi treulio 18 mlynedd dan glo am lofruddio ei ffrind 27 oed, Nicky Morgan yn ei gartref yn Abertawe ar ôl yfed alcohol a chymryd diazepam.
Fe wnaeth o losgi'r eiddo mewn ymgais i guddio'r drosedd, gan ladd ei frawd Glen oedd yn cysgu yno ar y pryd.
Cafwyd Whitelock yn euog o lofruddiaeth a dynladdiad ac fe dreuliodd 18 mlynedd dan glo, cyn cael ei ryddhau ar drwydded yn 2019.
Dywedodd teulu Nicky Morgan eu bod nhw wedi rhybuddio'r Gwasanaeth Prawf sawl tro fod Whitelock yn teithio i ardaloedd lle'r oedd o wedi ei wahardd, a'i fod yn prynu cyffuriau.
Cafodd Whitelock ei alw yn ôl i'r carchar ym mis Rhagfyr 2020 wedi iddo ymosod ar weithiwr siop.
Wedi hynny, fe gysylltodd teulu Mr Morgan a'r Bwrdd Parôl, yn eu hannog i beidio â'i ryddhau gan ddadlau y byddai'n cyflawni "trosedd erchyll arall".
Ond mewn dogfen sydd wedi ei weld gan y BBC, mae'r Bwrdd Parôl yn dweud eu bod nhw wedi adnabod "ffactorau amddiffynnol".
Cafodd Whitelock ei ryddhau ym mis Medi 2021.
'Byddai hyn wedi gallu cael ei atal'
"O'r diwrnod ddaeth o allan o'r carchar roedd o'n cymryd cyffuriau, yn yfed alcohol ac yn gyrru rownd Abertawe - yn hollol groes i amodau ei drwydded," meddai Melanie Huxley, chwaer Nicky Morgan.
"Byddai hyn wedi gallu cael ei atal pe bai nhw wedi gwrando."
dywedodd y Bwrdd Parôl eu bod nhw wedi cwblhau adolygiad o'r achos ac na fyddai'r canfyddiadau yn cael eu cyhoeddi.
Dywedodd y bwrdd eu bod nhw'n ystyried achosion fel hyn fel "materion difrifol iawn" a'u bod "wedi ymrwymo i ddysgu gwersi".
Mae'r Gwasanaeth Prawf wedi cael cais am ymateb.
'Trais eithafol heb reswm'
Dywedodd Craig Harding o Wasanaeth Erlyn y Goron: "Roedd lefel y trais a gafodd ei achosi gan Whitelock yn wirioneddol ddychrynllyd.
"Fe wnaeth weithred o drais eithafol heb reswm ar fenyw agored i niwed, a oedd bob amser yn garedig tuag ato.
"Roedd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn galw am dystiolaeth i wrthbrofi ei honiadau, a chyflwynodd achos cadarn i'r rheithgor a arweiniodd at yr euogfarn hon.
"Mae teulu a ffrindiau Wendy wedi dangos dewrder drwy gydol yr achos hwn, a bydd ein meddyliau'n aros gyda nhw."