Eich lluniau: Eira cynta'r gaeaf i rannau o Gymru

Roedd y defaid yn lwcus o'u cotiau gwlân yn Llandegla, Sir Ddinbych
- Cyhoeddwyd
Deffrodd nifer yn y gogledd i olygfa wen drwy'r ffenest y bore 'ma, wrth i eira ddisgyn ar y bryniau am y tro cyntaf y gaeaf yma.
Mae rhagolygon am dywydd rhewllyd ac eira am y deuddydd nesaf wrth i'r tymheredd ostwng.
Dyma rai o'ch lluniau:

Bu'r haul yn disgleirio dros ardal Llanbister ym Mhowys

Cerddwyr wedi lapio ar Ben-y-pass

Y Cnicht yn gwisgo cap gwyn

Haen o eira ym Mryneglwys, wrth edrych am y gorllewin tua'r Bala

Eira cynta'r tymor ar Foel Famau yn Nyffryn Clwyd, ond y plu heb gyrraedd y tir isel heddiw

Roedd hi'n ddechrau oer i'r dydd ar yr A470

Ci defaid yn cael golwg ar y flanced yng Ngilwern

Yn Llangollen hefyd roedd rhai ffyrdd dan flanced o eira

Eira ar fynyddoedd Cefn Du a Mynydd Mawr o fynwent Llanbeblig, Caernarfon

Cader Idris, Mynydd Moel a thuag at Tyrrau Mawr o dan drwch o gymylau ac ysgeintiad o eira cynta'r flwyddyn

Roedd yr Aran Benllyn yn ardal Llanuwchllyn yn wyn

Pentref Glyndyfrdwy yn Sir Ddinbych dan drwch o eira wrth iddi wawrio fore Mercher
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2022
