Yw hi'n 'Ddydd y Farn' i ranbarthau rygbi Cymru?

Carwyn Morris
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Carwyn Morris, mae rygbi yng Nghymru yn "tipyn bach o fess ar funud"

  • Cyhoeddwyd

Daeth miloedd o gefnogwyr rygbi ynghyd i gefnogi eu rhanbarthau ar 'Ddydd y Farn' yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn.

Daw yn dilyn cyfnod cythryblus i rygbi yng Nghymru, a llai na phythefnos ar ôl i Rygbi Caerdydd gael ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr.

Fe wnaeth gemau Dydd y Farn ddychwelyd i ganol y brifddinas ddydd Sadwrn, wedi i'r gemau gael eu cynnal yn Stadiwm Dinas Caerdydd y llynedd wrth i gyngherddau Taylor Swift, Bruce Springsteen a'r Foo Fighters hawlio llwyfan y Principality.

Ond gyda chwestiynau yn parhau dros ddyfodol y pedwar rhanbarth, beth sydd i ddod i dimau Cymru, a fydd Dydd y Farn yn parhau yn yr un modd?

Sut all y sefyllfa wella?

Mae Carwyn Morris o Gwm-gors yng Nghastell-nedd Port Talbot yn gefnogwr y Scarlets.

Dywedodd bod rygbi yng Nghymru yn "tipyn bach o fess ar funud".

"Ma' pobl yn dweud mai'r regions sydd ar fai. Ma' pobl yn gweud mai'r Undeb sydd ar fai.

"A sai'n gwbod ble mae gwella yn mynd i ddod.

"Falle dyw Cymru ddim yn 'neud digon o arian, ond i fod yn llwyddiannus ma' angen pedwar rhanbarth, ond os ni'n colli Newport [y Dreigiau], ma' chwaraewyr yn mynd i fynd [o Gymru]."

Diane Owen
Disgrifiad o’r llun,

Mae Diane Owen eisiau gweld rhanbarth yn y gogledd yn y dyfodol

Mae Diane Owen o'r Rhyl yn Sir Ddinbych yn dweud bod angen i bobl ystyried chwaraewyr y gogledd hefyd.

Dywedodd bod sefyllfa'r gêm ar hyn o bryd "ddim yn dda", ond ei bod yn hyderus y bydd pethau'n gwella.

"Yn y gogledd ma' 'na lot o rygbi - mae o yno," meddai.

"Dwi eisiau rhanbarth yn y gogledd wrth bod y gêm yn dechrau gwella."

Colli cefnogwyr os yn torri rhanbarth

Ond yn ôl Keith Collins, ysgrifennydd Clwb Cefnogwyr y Gweilch, rhaid cadw pob rhanbarth neu bydd "bas o gefnogwyr" yn diflannu.

"Fi'n eithaf gobeithiol bydd pethau yn gwella," meddai.

"Ar y foment mae'n amser i newid holl ddiwylliant rygbi yng Nghymru, a symud at sefyllfa sy' mwy proffesiynol a chael y bobl iawn yn rhedeg y gêm, yn hyfforddi a chwarae y gêm.

"Os ni'n colli un rhanbarth, ni mynd i golli bas o gefnogwyr."

Samuel Bastow
Disgrifiad o’r llun,

Mae angen rhanbarth ym mhob rhan o Gymru, yn ôl Samuel Bastow

Mae niferoedd y cefnogwyr yn parhau i ostwng – mewn gemau rhyngwladol a rhanbarthol.

Yn 2016, roedd Dydd y Farn yn amlwg wedi dal dychymyg y cyhoedd gyda thorf o dros 60,000 yn gwylio.

Ond y llynedd, nifer isaf yn hanes y digwyddiad oedd yn gwylio – 21,167.

Yn ôl Samuel Bastow, wrth i gêm y menywod ddatblygu, rhaid gweithio i gael gêm y dynion yr un mor llwyddiannus.

"Mae angen gwella buddsoddiad," meddai.

"Mae'r menywod yn gwneud yn dda felly mae angen i'r dynion fod cystal."

Mae Samuel hefyd o'r farn bod angen "gwasgaru'r rhanbarthau ar draws Cymru gyfan" trwy sefydlu rhanbarth yn y canolbarth a'r gogledd.