Rhybudd dynes o Gaernarfon am sgamiau ar gyfrifon Cymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae dynes o Gaernarfon yn rhybuddio pobl i fod yn ofalus rhag sgamiau ar-lein - yn benodol ar grwpiau Cymraeg ar wefannau cymdeithasol.
Mae Debbie Jones o Gaernarfon yn credu y gallai hi fod wedi colli cannoedd o bunnau ar ôl iddi weld rhywun yn gwerthu tocynnau i gyngerdd Oasis ar dudalen Facebook Rhwydwaith Menywod Cymru.
Dywedodd iddi gysylltu â'r gwerthwr a'i bod yn barod i dalu, ac mai dim ond un cyfieithiad chwithig a wnaeth iddi amau ei bod yn cael ei sgamio.
Dywedodd un o weinyddwyr tudalen Rhwydwaith Menywod Cymru ei bod yn "ddrwg iawn gennym glywed fod yna sgamiau yn cael eu rhannu ar y rhwydwaith", ond ei bod yn "anodd iawn gwirio popeth sy'n cael ei bostio".
Dywed llefarydd ar ran Facebook bod y cwmni yn "buddsoddi'n barhaus mewn dulliau sy'n amddiffyn pobl rhag twyll".
'Ateb yn ôl yn Gymraeg'
Wrth rannu ei hanes â Cymru Fyw dywedodd Debbie Jones ei bod wedi gweld rhywun yn hysbysebu tocynnau Oasis yn Saesneg ar dudalen Rhwydwaith Menywod Cymru.
"'Nes i jyst meddwl bod o'n genuine gan bod o ar dudalen Rhwydwaith," meddai.
"Felly dyma fynd amdani. Ro'n i'n gweld bod gen i a'r person oedd yn gwerthu ffrindiau yn gyffredin - ryw bedair neu bump ffrind - ac felly roedd y cyfan yn edrych yn oce.
"Dyma yrru neges i'r person a dyma hi'n ateb yn ôl yn Gymraeg.
"Hogan yn byw yng Nghaerdydd oedd hi a dwi'n meddwl i fi feddwl 'falla bod hi'n dysgu Cymraeg gan bod yr hysbyseb am y tocynnau yn Saesneg.
"Rhywsut roedd y ffaith bod o ar wefan Gymraeg wedi 'neud fi beidio amau."
Ychwanegodd: "Ar ôl sgwrs nôl a 'mlaen ar Messenger dyma fi'n cael neges yn Gymraeg yn gofyn sut ro'n i isio talu.
"Ro'n i eisoes wedi rhoi fy ebost ond dyma'r gair 'ffrindtaliad' yn ymddangos am PayPal, ac ymhen ychydig fe aeth popeth yn ddu - a dyma boeni go iawn.
"Trwy lwc doeddwn i ddim wedi 'neud y taliad ond fues i'n agos iawn iawn i 'neud."
Dywedodd Debbie Jones ei bod yn awyddus i rybuddio eraill gan fod neges debyg i'w gweld yn ddiweddar ar dudalen Rhwydwaith Menywod Cymru - unwaith eto yn gwerthu tocynnau Oasis.
"Be' oedd wedi digwydd pan 'nes i bron cael fy nal oedd bod rhywun wedi dwyn profile rhywun arall ac mae'n debyg bod hynny wedi digwydd eto," meddai.
"Does gan y bobl yma ddim syniad a dim eu bai nhw na bai Rhwydwaith Menywod ydy o."
'Mor anodd gwirio cyfrifon'
Mae gan gyfrif Rhwydwaith Menywod Cymru, a gafodd ei greu yn 2018, dros 20,000 o aelodau bellach ac mae'n denu degau o negeseuon bob dydd.
Wrth siarad â Cymru Fyw dywedodd un o'r gweinyddwyr: "Mae’n ddrwg iawn gennym glywed fod yna sgamiau yn cael eu rhannu ar y rhwydwaith, ac rydyn yn ddiolchgar i Debbie Jones am dynnu sylw at y peth.
"Gyda dros 20,000 o aelodau mae’n anodd iawn gwirio popeth sy’n cael ei bostio.
"Byddwn yn edrych eto ar beth allwn wneud i warchod rhag sefyllfaoedd tebyg yn y dyfodol."
- Cyhoeddwyd18 Mehefin
- Cyhoeddwyd17 Mehefin
Mae Tegwen Morris, cyfarwyddwr Merched y Wawr yn cytuno.
Yn ystod y cyfnod clo fe sefydlodd Merched y Wawr sawl cyfrif - yn eu plith Curo'r Corona'n Coginio, sy'n "gyfrif cyfeillgar" i bobl rannu ryseitiau.
Mae gan y cyfrif hwnnw hefyd bron i 20,000 o ddilynwyr.
"Mae'n cymryd lot fawr o amser i weinyddu cyfrifon o'r math yma," meddai.
"Mae Merched y Wawr wrth eu bodd bod nifer y dilynwyr yn parhau i gynyddu ac ry'n yn falch iawn fod pobl yn cael blas ar rannu ryseitiau ond mae cyfrifon fel hyn yn agored i dwyll.
"Mae'n dipyn o waith rheoli pwy sy'n cael mynediad i'r cyfrif.
"Unwaith chi wedi caniatau mynediad i bobl, maen nhw'n rhydd wedyn i bostio fel y mynnant, a rhaid cadw golwg fanwl ar yr hyn sy'n mynd fyny."
Mae hacio cyfrifon ar wefannau cymdeithasol - ar Facebook er enghraifft - ar gynnydd.
Yn gynharach eleni fe ddywedodd Banc Lloyds bod eu cwsmeriaid wedi colli oddeutu £1m wedi iddyn nhw gael eu twyllo i brynu tocynnau i gyngherddau Taylor Swift oedd ar daith yn y DU.
Dywed llefarydd ar ran Facebook bod y cwmni yn "buddsoddi'n barhaus mewn dulliau sy'n amddiffyn pobl rhag twyll".
"Ry'n ni'n annog pobl i gael cyfrinair cryf, i alluogi prawf dilysu dau gam ac i fod yn amheus o e-byst neu negeseuon sy'n gofyn am fanylion personol," meddai.
"Mae gennym ni hefyd rhywbeth sy'n cael ei alw yn Archwiliad Diogelwch sy'n helpu pobl i gadw eu cyfrifon Instagram a Facebook yn ddiogel."
Beth ddylwn i wneud os ydy fy nghyfrif yn cael ei hacio?
Os ydych wedi cael eich hacio, y cyngor yw i newid cyfrinair yn syth. Mae angen cysylltu â'r cwmni, e.e. Facebook, i roi gwybod a gwirio cyfrifon eraill.
Mae yna gyngor hefyd i geisio rhoi gwybod i ddilynwyr.
Yn gyffredinol y cyngor yw peidio gwasgu ar unrhyw ddolenni sy’n edrych yn ddieithr.
Os yn prynu tocynnau mae angen gwneud ychydig o waith ymchwil ar y cwmni neu’r person sy’n gwerthu a defnyddio porwr gwe diogel.
Y cyngor yw i dalu drwy gerdyn credyd neu wefan fel PayPal - yn enwedig os yn prynu gan rywun nad ydych yn ei adnabod.
Rhaid bod yn wyliadwrus o ebyst, neu negeseuon ffôn sy’n dangos cynigion da ar docynnau - yn aml iawn, cyfrifon ffug yw’r rhain.