Cynnal gwasanaethau Sul y Cofio ar draws Cymru
- Cyhoeddwyd
1 o 7
Mae gwasanaethau wedi cael eu cynnal ar draws Cymru ddydd Sul i nodi aberth y rhai a fu farw a'r rhai a anafwyd mewn rhyfeloedd byd.
Cafodd dwy funud o dawelwch ei gynnal am 11:00 i anrhydeddu cyfraniad y rhai a wasanaethodd yn y ddau ryfel byd a rhyfeloedd ers hynny.
Ymunodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan â gwleidyddion a chynrychiolwyr eraill mewn gwasanaeth ger y Gofeb Ryfel Genedlaethol yng Ngerddi Alexandra ym Mharc Cathays, Caerdydd.
Dywedodd Ms Morgan ei bod yn "bwysig i gydnabod yr effaith y gall rhyfel ei gael ar bob aelod o gymdeithas".
Roedd yna wasanaethau tebyg ar draws Cymru - gan gynnwys rhai yn Abertawe, Wrecsam, Caernarfon, Porthmadog ac Aberystwyth.
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd
- Cyhoeddwyd6 Mehefin
- Cyhoeddwyd19 Medi
Ychwanegodd y Prif Weinidog ei bod hi'n "hanfodol i gofio'r rhai sydd wedi rhoi eu bywydau yn y gorffennol, ond hefyd i gofio'r rhai sy'n dal i wasanaethu yn ein lluoedd arfog".
"Maen nhw'n rhoi cymaint i'n cymunedau, mae'n bwysig ein bod ni'n cydnabod yr effaith y gall rhyfel ei gael ar bob aelod o gymdeithas," meddai.
Dywedodd Eluned Morgan ei bod hi'n "awyddus iawn i sicrhau ein bod yn tanlinellu'r rôl y mae menywod yn ei chwarae wrth gefnogi'r lluoedd arfog a gwasanaethu yn y lluoedd arfog".
"Mae'n bwysig i ni gydnabod ein bod mewn byd ansefydlog iawn ar hyn o bryd gyda rhyfel yn Wcráin, gwrthdaro yn y Dwyrain Canol. Mae'n rhaid i ni barhau i weithio tuag at heddwch.
"Allwch chi ddim mynd trwy ddigwyddiad trawmatig fel rhyfel heb gael eich effeithio, ac mae'n bwysig iawn ein bod ni'n sefyll gyda phobl sydd wedi bod trwy'r trawma hwnnw."