Y Blaid Werdd yn targedu ei sedd gyntaf yn Senedd Cymru ym mis Mai

Mae Anthony Slaughter'n dweud bod y Blaid Werdd yn disgwyl canlyniad "hanesyddol" y flwyddyn nesaf
- Cyhoeddwyd
Bydd y Blaid Werdd yn ennill ei sedd gyntaf erioed yn y Senedd yn yr etholiad y flwyddyn nesaf, yn ôl arweinydd y blaid yng Nghymru.
Ar drothwy cynhadledd Plaid Werdd Cymru yng Nghaerdydd y penwythnos hwn, dywedodd Anthony Slaughter bod y blaid yn disgwyl canlyniad "hanesyddol" i'r Gwyrddion yng Nghymru.
Ychwanegodd bod aelodaeth y blaid yng Nghymru wedi "treblu" dros y misoedd diwethaf yn dilyn ethol Zack Polanski yn arweinydd ar Blaid Werdd Lloegr a Chymru.
Senedd Cymru yw'r unig ddeddfwrfa drwy'r Deyrnas Unedig ble dydy'r Gwyrddion erioed wedi cael cynrychiolaeth.
Ond mae Prifysgol Caerdydd wedi awgrymu'n ddiweddar y gallai'r blaid ennill un sedd ym mis Mai.
Y Blaid Werdd yn cyhoeddi eu hymgeisydd yn is-etholiad Caerffili
- Cyhoeddwyd25 Medi
Yr etholiad yng Nghaerffili all gael effaith ar Gymru gyfan
- Cyhoeddwyd22 Hydref
Plaid Cymru a'r SNP yn trafod ffurfio 'cynghrair flaengar'
- Cyhoeddwyd30 Hydref
Mae'r Gwyrddion yn gobeithio elwa o'r newidiadau sy'n dod i'r drefn o ethol Aelodau o'r Senedd (ASau).
Bydd y drefn cyntaf-i'r-felin, y'i defnyddir i ethol dau draean o'r aelodau ar hyn o bryd, yn diflannu a bydd yr aelodau i gyd yn cael eu hethol drwy ddefnyddio trefn etholiadol gyfrannol.
Ar yr un pryd bydd nifer yr ASau yn cynyddu o 60 i 96.
Er y byddai'r Gwyrddion wedi dymuno gweld trefn gyfrannol wahanol, mae Slaughter yn dweud bod y newid yn "agoriad i ni".
"Mae'n llawer gwell na'r hen drefn. Mae'n haws i egluro i bobl, 'os ydych chi'n pleidleisio dros y Gwyrddion, mae cyfle da o gael y Gwyrddion'," meddai.
Slaughter fydd prif ymgeisydd y Blaid Werdd ar gyfer etholaeth Caerdydd Penarth, sef yr etholaeth ble mae'r blaid yn fwyaf hyderus o ennill sedd.
Ond mae cyfanswm o dair sedd yn darged "realistig", meddai.
Cysylltwch â ni
Dy Lais, Dy Bleidlais
Dywedodd Slaughter y byddai'r blaid yn dod â "llais ffres a radical" i'r Senedd.
"Rydyn ni'n mynd i siarad am dorri biliau pobl, rhewi rhent, glanhau afonydd, adfer natur.
"Cymaint o faterion pwysig sydd ddim ar yr agenda unrhyw le arall."
Yn is-etholiad Caerffili fis diwethaf pan oedd Plaid Cymru yn fuddugol, daeth y Gwyrddion yn bumed gydag ond 1.5% o'r bleidlais.
Dywedodd Slaughter taw pleidleisio tactegol, gyda'r bwriad o atal Reform oedd yn gyfrifol am berfformiad gwan y blaid.
"Dwi ddim yn meddwl bod e'n adlewyrchiad o'r gefnogaeth i ni yn yr ardal.
"Fe wnaeth llawer o bobl bleidleisio gyda'u pen ac efallai nid gyda'u calon," meddai.
'Ddim am weithio gyda Reform na'r Ceidwadwyr'
Dywedodd Slaughter ei fod yn teimlo "rhyddhad" bod Reform wedi methu ag ennill yr is-etholiad.
Mae polau piniwn diweddar wedi awgrymu taw Plaid Cymru a Reform sy'n cystadlu i fod y blaid fwyaf yn dilyn yr etholiad.
Ond, gan fod y drefn etholiadol yn ei gwneud hi'n anodd iawn i unrhyw blaid ennill mwyafrif, fe allai unrhyw AS o'r Blaid Werdd gael "cryn ddylanwad a phŵer", meddai Slaughter, gan awgrymu y byddai ei blaid yn barod i weithio gyda Phlaid Cymru.
"Plaid fyddai'r dewis amlwg. Yn amlwg dydyn ni ddim yn mynd i weithio gyda Reform na'r Ceidwadwyr.
"Dwi ddim yn meddwl y bydd llawer iawn o'r blaid Lafur ar ôl i feddwl am weithio gyda nhw, ond fel dwi wedi dweud o'r blaen, mae pob math o ffyrdd y gall pleidiau weithio gyda'i gilydd."
Yn dilyn etholiad Senedd yr Alban yn 2021 fe wnaeth Plaid Werdd yr Alban ffurfio clymblaid gyda'r SNP - fe ddaeth hynny i ben yn 2024 ar ôl i Lywodraeth yr Alban ddiddymu targedau newid hinsawdd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.