Y Blaid Werdd yn cyhoeddi eu hymgeisydd yn is-etholiad Caerffili

Gareth Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gareth Hughes yn gyn-newyddiadurwr

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Blaid Werdd wedi cyhoeddi mai Gareth Hughes fydd eu hymgeisydd yn is-etholiad Caerffili ar gyfer Senedd Cymru.

Mae Mr Hughes, sy'n byw yng Nghaerffili, yn gyn-newyddiadurwr a sylwebydd gwleidyddol.

Dywedodd bod angen "newid gwleidyddol cadarnhaol ar Gymru – newid sy'n rhoi pobl a'r blaned yn gyntaf".

Ei flaenoriaethau, meddai, yw "swyddi gwyrdd i bobl leol, gwell gwasanaethau cyhoeddus – gan gynnwys mwy o fysiau gyda'r nos a thai diogel, cynnes o safon".

Yn gyn-gynghorydd ar hen Gyngor Dosbarth Cwm Rhymni, cafodd yrfa yn y sector tai cymdeithasol.

Fel newyddiadurwr, bu'n ohebydd a chyflwynydd gwleidyddol gydag ITV Cymru, ac yn sylwebydd cyson ar Radio Cymru a Radio Wales ar faterion gwleidyddol.

Yn wreiddiol o Fangor, bu hefyd yn golofnydd gwleidyddol i gyhoeddiadau gan gynnwys Golwg a'r Cymro.

Ychwanegodd: "Y Blaid Werdd yw'r unig blaid asgell-chwith sy'n cyd-fynd â'm gwerthoedd, ac rwy'n benderfynol o roi llais cryf, gonest ac ymroddedig i Gaerffili yn y Senedd."

Ei flaenoriaethau eraill, meddai, yw "cymunedau cryfach gyda lleisiau lleol grymusach" a "dyfodol tecach a gwyrddach drwy fynd i'r afael ag argyfwng yr hinsawdd".

Mr Hughes yw'r seithfed ymgeisydd sydd wedi cael ei gyhoeddi ar gyfer yr is-etholiad, fydd yn cael ei gynnal ar 23 Hydref, yn dilyn marwolaeth yr aelod Llafur o'r Senedd, Hefin David ym mis Awst.

Mae Plaid Cymru wedi dewis cyn-arweinydd Cyngor Caerffili, Lindsay Whittle, fel eu hymgeisydd, tra bod y cyhoeddwr a'r dadansoddwr ariannol o Gaerffili, Richard Tunnicliffe, yn sefyll dros Lafur.

Mae Reform wedi dewis Llŷr Powell - fu'n gweithio fel arbenigwr cyfathrebu i'r blaid yng Nghymru - fel eu hymgeisydd.

Gareth Potter - fu'n gweithio yn y sectorau manwerthu ac elusennol cyn canolbwyntio ar wleidyddiaeth - yw ymgeisydd y Ceidwadwyr.

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cyhoeddi mai Steve Aicheler, sydd wedi bod yn gweithio fel cynghorydd ar Gyngor Cymuned Bedwas, Tretomas a Machen, fydd eu hymgeisydd.

Anthony Cook, sy'n byw yn Ystrad Mynach, yw ymgeisydd Gwlad.