S4C yn penodi Llion Iwan yn brif swyddog cynnwys

Llion IwanFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llion Iwan yn dychwelyd i S4C yn dilyn cyfnod fel rheolwr gyfarwyddwr y cwmni cynhyrchu annibynnol Cwmni Da

  • Cyhoeddwyd

Mae S4C wedi penodi Llion Iwan yn brif swyddog cynnwys y sianel.

Mae'n ymuno â'r darlledwr o'r cwmni cynhyrchu annibynnol Cwmni Da ble y mae'n gweithio ers 2019 ac yn rheolwr gyfarwyddwr ers 2021.

Fe fydd yn dechrau yn ei rôl newydd ym mis Mawrth, gan lenwi swydd a gafodd ei gwneud dros dro gan brif weithredwr newydd S4C, Geraint Evans yn dilyn diswyddiad Llinos Griffin-Williams yn 2023.

Dywedodd: "Rwyf wrth fy modd yn cael y cyfle i wneud un o'r swyddi gorau yn y byd darlledu yng Nghymru.

"Mae gan Gymru gymaint o straeon gwych a gafaelgar i'w rhannu - o bob cwr o'r wlad a phob cymuned.

"Rwy'n edrych ymlaen i gyd-weithio gyda thîm mor greadigol o gomisiynwyr, yr Uwch-dim Arwain a'r staff ehangach yn S4C i ddod â'r cynnwys gorau i sgriniau bach a mawr ar hyd Cymru a thu hwnt."

Ar ôl dechrau ei yrfa fel gohebydd ar bapurau lleol, fe dreuliodd Llion Iwan 10 mlynedd gydag adrannau newyddion a chwaraeon y BBC cyn symud ymlaen i gynhyrchu a chyfarwyddo rhaglenni dogfen ar gyfer BBC1, BBC2 a BBC4.

Yn dilyn cyfnod fel cynhyrchydd llawrydd i sawl cwmni annibynnol yng Nghymru, fe ymunodd â S4C yn 2012 - yn gyntaf fel comisiynydd cynnwys ffeithiol a chwaraeon , ac yna yn bennaeth darlledu cynnwys.

Fe adawodd i gymryd yr awenau gyda Cwmni Da, ac fe gynyddodd trosiant y cwmni dan ei arweiniad.

Mae'r cwmni hefyd wedi torri tir newydd trwy sicrhau cynnwys Cymraeg ar Amazon Prime, a datblygu partneriaethau cyd-gynhyrchu rhyngwladol.

Pencadlys S4C yn Yr Egin, Caerfyrddin

Dywedodd prif weithredwr S4C ers dechrau Ionawr, Geraint Evans, eu bod "yn hynod falch" o benodi Llion Iwan i'r "rôl allweddol hon".

"Mae'n bennod newydd gyffrous i ni yn S4C," meddai, "a bydd cael profiad eang Llion o'r sector gynhyrchu a'i ddealltwriaeth ddofn o'n cynulleidfaoedd amrywiol yng Nghymru yn werthfawr iawn wrth i ni garlamu ymlaen gyda'n trawsnewid digidol."

Mae disgwyl i S4C benodi cadeirydd newydd ar gyfer bwrdd y sianel i olynu'r cadeirydd dros dro, Guto Bebb.

Mae ei dymor yntau yn dod i ben ym mis Mawrth, ac mae'r cyn Aelod Seneddol wedi datgan nad yw eisiau'r swydd yn barhaol.

Pynciau cysylltiedig