Y chwilio'n dechrau am 'unigolyn rhagorol' i gadeirio S4C
- Cyhoeddwyd
Mae'r broses wedi dechrau i benodi cadeirydd nesaf S4C.
Fe fydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn olynu cadeirydd dros dro'r sianel, Guto Bebb.
Fe gafodd yntau ei benodi'n gadeirydd ym mis Mawrth wedi i'w ragflaenydd, Rhodri Williams ddatgan ddechrau'r flwyddyn nad oedd eisiau ail dymor yn y swydd.
Daeth ei gyhoeddiad yntau wedi cyfnod cythryblus yn hanes y sianel, a welodd ymchwiliad annibynnol i honiadau o fwlio gan aelodau o dîm rheoli S4C a diswyddiad dau uwch swyddog blaenllaw.
Fe gadarnhaodd Mr Bebb wrth ymgymryd â'i ddyletswyddau na fyddai'n ceisio bod yn gadeirydd llawn amser wedi i gyfnod ei benodiad ddod i ben ym mis Mawrth 2025.
Fe fydd prif weithredwr newydd S4C, Geraint Evans, yn dechrau ar ei waith ym mis Ionawr.
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf 2024
Adran Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU (DCMS), sy'n gyfrifol am apwyntiadau cyhoeddus y sianel.
Wrth hysbysebu am gadeirydd newydd, dywed yr adran eu bod "yn chwilio am unigolyn rhagorol sydd â sgiliau arwain amlwg ar lefel uwch ac ymrwymiad i ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus a datblygu'r Gymraeg".
Fe ddylai hefyd fod "â'r gallu i feithrin diwylliant o gynhwysiant ac ymddiriedaeth ym mhob rhan o'r sefydliad i arwain S4C".
Pedair blynedd fydd tymor cychwynnol y sawl sy'n cael ei benodi, a'r gobaith yw y bydd yn gallu dechrau ar y gwaith yn fuan yn 2025.
Mae'r adran hefyd yn hysbysebu am bump aelod anweithredol newydd i fwrdd y sianel, all gyfrannu at "ystod eang o arbenigedd a gwybodaeth am feysydd penodol sy'n berthnasol i waith S4C".
Ysgrifennydd Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon y DU, Lisa Nandy, fydd yn gwneud y penodiadau i'r bwrdd, ond mae'r adran yn ymgynghori â Llywodraeth Cymru a gweinidogion Llywodraeth San Steffan ar gyfer Cymru "yn ystod camau allweddol y broses".