Y Cae Ras yn rhan o gais i gynnal Cwpan y Byd y merched yn 2035

Y Cae RasFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Cae Ras yn un o dri stadiwm yng Nghymru sydd wedi eu cynnwys yn y cais

  • Cyhoeddwyd

Mae cymdeithasau pêl-droed Cymru, Lloegr, Yr Alban ac Iwerddon wedi cyflwyno cais ar y cyd i gynnal Cwpan y Byd y merched yn 2035.

Mae'r cais yn cynnwys 22 stadiwm mewn 16 o ddinasoedd - tri yng Nghymru, 16 yn Lloegr, dau yn Yr Alban ac un yng Ngogledd Iwerddon.

Y tri stadiwm allai gael eu defnyddio yng Nghymru yw Stadiwm Dinas Caerdydd, Stadiwm Principality a'r Cae Ras yn Wrecsam.

Mewn datganiad ar y cyd dywedodd y cymdeithasau mai dyma fyddai'r digwyddiad chwaraeon unigol mwyaf i gael ei gynnal yn y DU erioed ac y byddai'n "ddathliad sy'n dod â chymunedau ynghyd".

Noel MooneyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Noel Mooney yn dweud bod Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn benderfynol o gael gemau yn y gogledd a'r de yn 2035

12,600 yw capasiti'r Cae Ras ar hyn o bryd, ond mae cynlluniau eisoes ar waith i ehangu'r stadiwm.

Mae Stadiwm Principality - fydd yn cynnal gêm agoriadol Euro 2028 - yn dal 74,500 o gefnogwyr, tra bod Stadiwm Dinas Caerdydd - cartref timau merched a dynion Cymru - yn dal ychydig dros 33,000.

Ond mae hi'n bosib mai ond dau stadiwm yng Nghymru fydd yn cael eu defnyddio yn y pendraw, yn ôl Noel Mooney, gyda phrif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn awgrymu mai un o'r lleoliadau yng Nghaerdydd fyddai'n colli allan.

'Byddai cynnal gemau yn y gogledd yn arbennig'

"Ry'n ni'n cynnig tri stadiwm ar hyn o bryd, ond dau fydd yn cael eu cyflwyno yn y diwedd a bydd rhaid i ni benderfynu rhwng Stadiwm Dinas Caerdydd a Stadiwm Cenedlaethol Cymru (Stadiwm Principality)," meddai.

"Hoffen ni a Llywodraeth Cymru weld gemau yn y gogledd a'r de.

"Fe fydd Euro 2028 yn gweld chwech o gemau yn cael eu chwarae yma... ond yng Nghwpan y Byd y merched 2035 rydyn ni eisiau sicrhau ei fod wir yn ddigwyddiad cenedlaethol a byddai cynnal gemau yn y gogledd yn arbennig iawn i ni.

"Byddai cynnal gemau Cwpan y Byd yn y Cae Ras yn ychwanegu haen arall ar hanes gwych Wrecsam."

Ehangu Stadiwm Dinas Caerdydd?

Stadiwm Dinas CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Stadiwm Dinas Caerdydd yn dal ychydig dros 33,000 o gefnogwyr ar hyn o bryd

Soniodd Mooney hefyd am gynlluniau posib i ailddatblygu Stadiwm Dinas Caerdydd yn y dyfodol.

"Be' allai fod yn ddiddorol i ni fel cymdeithas bêl-droed yw os ydy'r timau cenedlaethol yn dal i wneud yn dda a bod Caerdydd yn ennill dyrchafiad eleni ac yn mynd yn eu blaenau i wthio tua'r Uwch Gynghrair.

"Dwi'n gobeithio yn y dyfodol ein bod ni, o bosib, yn gallu gweithio gyda Chyngor Caerdydd a pherchnogion CPD Caerdydd i ddatblygu hynny ymhellach.

"Mae 'na le ar ddau ben y stadiwm i ehangu'r capasiti.

"Mae'n rhaid i mi ddweud ein bod ni'n bell o'r pwynt hwnnw ar hyn o bryd, ond mae Stadiwm Dinas Caerdydd eisoes yn cyrraedd y trothwy o ran gallu cynnal gemau Cwpan y Byd.

"Yn amlwg mae Stadiwm Cenedlaethol Cymru, a bydd Wrecsam erbyn 2035 hefyd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.