Cip cyntaf tu ôl i'r llenni ar waith y Gwasanaeth Prawf

Ar BrawfFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Mae’r gyfres Ar Brawf yn dilyn troseddwyr yn y gymuned yn ogystal â’r swyddogion prawf sydd yn eu cefnogi

  • Cyhoeddwyd

Am y tro cyntaf erioed mae camerâu wedi cael mynediad at y Gwasanaeth Prawf yng Nghymru.

Mae’r gyfres Ar Brawf yn dilyn troseddwyr yn y gymuned yn ogystal â’r swyddogion prawf sydd yn eu cefnogi.

“Roedden ni’n gwybod y byddai cael mynediad i’r Gwasanaeth Prawf yn her,” meddai Anna-Marie Robinson, cynhyrchydd y gyfres ar S4C.

Treuliodd gwmni cynhyrchu Darlun dair blynedd yn perswadio’r Weinyddiaeth Gyfiawnder i adael criw teledu i mewn i swyddfa Gwasanaeth Prawf Gwynedd a Môn.

“Mae o’n bortread warts and all – dyna beth oedd y gytundeb,” meddai Anna-Marie.

“’Dan ni ddim yno i feirniadu. ‘Dan ni ddim ond yna i adlewyrchu a dysgu a dangos.”

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yna drafodaethau hir cyn i'r cynhyrchwyr gael caniatâd i ffilmio gwaith y gwasanaeth

Yn ôl cynhyrchwyr y rhaglen, mae 30% o’r troseddwyr yn y system yn debygol o droseddu eto.

“Mae’r mwyafrif o’n gwaith ni fel Swyddogion Prawf yn digwydd y tu ôl i’r llenni ac yn aml yn gallu cael ei gamddeall gan y cyhoedd,” meddai Elin Gaffey, un o’r swyddogion yn y rhaglen.

“Weithiau mae ein gwaith ni’n cynnwys gweithio gyda phobl o gefndiroedd cymhleth sy’n ei gwneud hi’n heriol iawn.”

Dau o’r bobl dan y chwyddwydr yn y gyfres ydy Martin a Dei, gyda’r camerâu yn dyst i’w hapwyntiadau gyda’r Gwasanaeth Prawf dros gyfnod o wythnosau.

I Martin, sydd ar fin dod yn daid am y tro cyntaf, y nod ydy osgoi dychwelyd i’r carchar wedi iddo fod yn y system gyfiawnder am dros 20 o flynyddoedd.

Mae’r camerâu hefyd yn dilyn Dei wrth iddo gwblhau 200 awr o waith di-dâl yn lleol am greulondeb i anifeiliaid.

Mae’r troseddwyr sydd yn y system yn gorfod gorffen eu cyfnodau prawf gan ddilyn rheolau ac amodau penodol eu dedfrydau.

Os ydyn nhw’n torri’r rheolau, mae gan Swyddogion Prawf yr hawl i hala nhw yn ôl i’r llys neu yn syth i’r carchar.

'Dan ni fel MI5'

Mae eraill yn y rhaglen yn rhannu eu profiadau o ddelio gyda heriau iechyd meddwl a dibyniaeth i sylweddau.

I’r tîm cynhyrchu, roedd trin y bobl yma yn gywir yn flaenoriaeth o’r cychwyn cyntaf yn ôl Anna Marie Robinson.

“Dwi’n newyddiadurwr ers 30 o flynyddoedd a dwi erioed wedi gweithio ar unrhyw beth mor heriol â hyn mewn bulk o’r blaen.

“Doedden ni ddim yna i feirniadu beth oedden nhw wedi ei ‘neud. Mae’r llys wedi gwneud hynny. Mae’r ddedfryd wedi cael ei gosod.”

Yn ôl Anna Marie, roedd y “buddsoddiad” yn enfawr wrth baratoi i ffilmio gyda’r troseddwyr a’r swyddogion er mwyn a sicrhau eu bod nhw’n cael eu cefnogi a’u hadlewyrchu’n deg ar y sgrin.

Ychwanegodd: “Ges i lein ffantastig gan un o'r swyddogion prawf cyn i ni ddechrau ffilmio, pan o’n i’n gofyn ac yn trio dysgu be’ maen nhw’n neud, a dyma hi’n ‘deud: ‘Dan ni fel MI5, mae pawb yn gwybod bo’ ni’n bodoli ond does neb yn gwybod be’ ‘da ni’n ‘neud.”

Bydd y gyfres chwe phennod yn dechrau ar S4C nos Fawrth 2 Ebrill am 21.00.

Pynciau cysylltiedig