Y Cymry hŷn oedd ar dop eu gêm yn y byd chwaraeon

Ray ReardonFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Record Cymro arall, Ray Reardon wnaeth Mark Williams ei thorri eleni

  • Cyhoeddwyd

Yn hanner cant, y Cymro Mark Williams bellach yw'r chwaraewr hynaf erioed i gyrraedd rownd derfynol Pencampwriaeth Snwcer y Byd.

Ond mae 'na Gymry eraill wedi parhau ar dop eu gêm ymhell ar ôl i'r rhan fwyaf roi'r gorau iddi.

Snwcer

Fe ddechreuwn ni gyda snwcer - oherwydd mai record cyd-Gymro wnaeth Mark Williams ei thorri pan chwaraeodd yn erbyn Zhao Xintong yn y bencampwriaeth eleni.

Tan hynny Ray Reardon oedd yn dal y record, a hynny ers 1982 pan gyrhaeddodd o'r ffeinal ac yntau'n 49 oed. Colli oedd ei hanes o.

Ond yn 1978, ac yntau'n 45 mlwydd a 203 diwrnod oed, Reardon oedd y person hynaf i ennill y gystadleuaeth. Fe barhaodd y record hyd nes i Ronnie O'Sullivan ennill y teitl yn 2022.

Pêl-droed

John Charles oedd un o fawrion y bêl gron yng Nghymru, ac oherwydd ei ddoniau a'i goliau roedd amddiffynwyr timau eraill yn troseddu yn ei erbyn yn aml.

Er hynny - ac er bod y gêm yn fwy corfforol yn ystod ei gyfnod o - fe wnaeth o barhau i chwarae tan oedd o yn ei 40au.

John Charles yn derbyn medelFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

John Charles yn casglu ei fedal fel chwaraewr-reolwr Henffordd ar ôl colli i Gaerdydd yn rownd derfynol Cwpan Cymru yn 1968 pan oedd o'n 36

Fe enillodd ei gap olaf i Gymru yn 1965 ac yntau yn ei 30au - ond fe barhaodd i chwarae am saith mlynedd arall.

Ar ôl dod i enwogrwydd gyda Leeds, Juventus, Roma a Chaerdydd, yn 1966 derbyniodd swydd chwaraewr-rheolwr i Henffordd cyn gwneud yr un rôl ym Merthyr - lle chwaraeodd ei gêm olaf pan oedd o'n 42 oed.

Fe wnaeth Ryan Giggs ymddeol yn 40 oed ym mis Mai 2014 - a hynny tra roedd o'n dal i chwarae ar y lefel uchaf gyda Manchester United.

Roedd wedi addasu ei gêm ers ei ddyddiau fel asgellwr chwim ac wedi dechrau chwarae yng nghanol y cae - a bu'n gwneud yoga er mwyn cadw'n ystwyth wrth fynd yn hŷn.

Un fu'n cyd-chwarae i Gymru gyda Giggs oedd Neville Southall - ac roedd gôl-geidwad Cymru fis i ffwrdd o'i ben-blwydd yn 39 pan enillodd ei gap olaf, a hynny yn erbyn Twrci fis Awst 1997.

Jess FishlockFfynhonnell y llun, FAW
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jess Fishlock - enillodd ei chap gyntaf yn 2006 - wedi sgorio mwy o goliau dros Gymru nag unrhyw chwaraewr arall - gwrywaidd neu fenywaidd

Ond y gŵr sy'n dal y record fel y pêl-droediwr hynaf i chwarae dros Gymru ydy Billy Meredith. Fe enillodd 48 cap - yr olaf yn 1920 pan oedd o'n 45 mlwydd a 229 diwrnod oed.

Mae'n anodd gweld neb yn y gêm fodern yn torri record Billy Meredith... ond pwy a ŵyr.

Mae un o sêr presennol Cymru, Jess Fishlock yn parhau i chwarae ar y lefel uchaf - ac fe fydd hi'n 38 oed yng Nghwpan y Byd eleni yn y Swistir.

Rygbi

Tra'i bod yn anodd i barhau ar y lefel uchaf mewn pêl-droed gan fod cyflymder mor bwysig yn y gêm fodern, mae elfen gorfforol rygbi yn ei gwneud hi'n anodd chwarae wrth heneiddio - heb son am osgoi anafiadau.

Ond mae sawl un wedi gallu chwarae tan eu hwyr 30au.

Yn 2023 fe wnaeth Alun Wyn Jones, oedd yn 37 ac wedi ennill 170 cap rhyngwladol, gyhoeddi ei fod yn ymddeol o'r gêm ryngwladol.

Fe wnaeth o roi'r gorau i rygbi yn llwyr ychydig fisoedd yn ddiweddarach ac yntau'n 38 oed.

Alun Wyn JonesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Alun Wyn Jones yn chwarae am y tro olaf yng Nghymru - i'r Barbariaid yn erbyn Cymru yn 2023

Fe chwaraeodd Gethin Jenkins ei gêm rygbi proffesiynol olaf pan oedd o'n 37 mlwydd ac 11 mis. Roedd o'n 36 yn ennill ei gap olaf i Gymru.

Un oedd yn yr un tîm ag o oedd Martyn Williams, wnaeth ymddeol o rygbi rhyngwladol am y tro cyntaf yn 2007... cyn cael ei berswadio i ddod nôl gan yr hyfforddwr Warren Gatland. Fe wnaeth o barhau tan 2012 – ac ennill y Gamp Lawn yn 2008 – pan wnaeth o ymddeol yn 36 oed.

Yn 2001, fe wnaeth Allan Bateman chwarae dros Gymru yn erbyn yr Eidal pan oedd o'n 35 a 33 diwrnod.

Chwaraewyr rygbi CymruFfynhonnell y llun, WME/Getty
Disgrifiad o’r llun,

Tony 'Charlie' Faulkner (trydydd o'r chwith) gyda'r chwe Chymro arall oedd yn ennill eu cap gyntaf yn yr un gêm yn erbyn Ffrainc yn1975. Gydag o, o'r chwith i'r dde, mae Ray Gravell, Graham Price, Trevor Evans, Steve Fenwick a John Bevan

Ac roedd Charlie Faulkner - oedd yn rhan o rheng flaen enwog Cymru yn yr 1970au gyda'i gyd-chwaraewyr o Bont-y-pŵl, Bobby Windsor a Graham Price - yn 34 oed pan enillodd ei gap cyntaf.

Erbyn iddo ennill ei gap olaf - 19 gêm ryngwladol yn ddiweddarach - roedd o'n agosau at ei ben-blwydd yn 38.

Criced

Robert CroftFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Robert Croft

Yn y byd criced, roedd y troellwr Robert Croft yn ei 40au pan wnaeth o ymddeol.

Fe chwaraeodd ei gêm gyntaf i dîm cyntaf Clwb Criced Morgannwg yn 1989, a rhoi'r gorau iddi 23 mlynedd yn ddiweddarach yn 2012 ac yntau'n 42 oed.

Roedd ei gyd-chwaraewr Matthew Maynard yn 39 pan chwaraeodd am y tro olaf ar yr haen uchaf, cyn iddo ddod yn hyfforddwr.

Pynciau cysylltiedig