Pwy yw Regan Grace?

GraceFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae carfan Cymru ar daith yn Awstralia ar hyn o bryd, yn chwarae ddwywaith yn erbyn y Wallabies, ac un gêm yn erbyn y Queensland Reds.

Mae ambell i enw newydd yn y garfan, ac yn eu plith mae'r gwibiwr Regan Grace.

Tydi Grace erioed wedi chwarae rygbi proffesiynol yng Nghymru - mae ei gefndir yn rygbi'r gynghrair yng ngogledd Lloegr.

I ddysgu mwy amdano mae'r gohebydd rygbi Cennydd Davies yn rhannu ei hanes:

'Llwybr anghonfensiynol'

Pan oedd Louis Rees-Zammit yn gwibio’n osgeiddig tuag at y llinell gais lan yn Yr Alban rhai blynyddoedd yn ôl, roedd ‘na seren newydd wedi’i eni, a’r sylw yn amlwg ar dalent aruthrol y gŵr o’r brifddinas, a’r potensial anferthol oedd ganddo i greu penawdau am flynyddoedd i ddod.

Dyna oedd yr ymateb cyffredinol wrth gwrs, ond dwi’n cofio un o’r wybodusion ar y pryd yn dweud wrtha i, “dychmyga cael Rees-Zammit ar un asgell a Regan Grace ar y llall”.

Doedd hynny ddim yn ymddangos yn bosib ar y pryd oherwydd roedd Grace yn y cyfnod hwnnw yn disgleirio i dîm rygbi tri-ar-ddeg St Helens yn y Superleague. Bellach ma’ Rees-Zammit ochr arall Yr Iwerydd yn ceisio creu enw ym myd pêl-droed Americanaidd, felly mae’n bosib na welwn ni fyth yr olygfa yna ar bob ochr y cae i Gymru.

Mae yna sawl ffordd i gyrraedd y copa wrth gwrs, ac mae llwybr Regan Grace wedi bod yn un anghonfensiynol i ddweud y lleia’. Yn hanu o Bort Talbot yng nghysgod y diwydiant dur fe ddechreuodd ei yrfa yng ngêm yr undeb a thîm Cwins Aberafan, yn gyflym iawn mi wnaeth greu argraff ac ymhen dim fe gafodd ei gynnwys yn academi’r Gweilch.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Grace yn gwisgo lliwiau enwog St Helens - ymunodd â'r clwb yn 2014, pan oedd yn 17 oed

Un sy’n cofio’r gŵr ifanc yn ystod y cyfnod hwnnw yw Gruff Rees oedd ar y pryd yn ran o dîm hyfforddi’r tîm cyntaf a bellach yn gweithio gyda academi Rygbi Caerdydd: “Dwi’n cofio Regan yn ymuno â academi’r Gweilch yn ifanc iawn – doeddwn i ddim yn gweithio’n uniongyrchol gyda’r to ifanc ar y pryd ond mi oeddwn yn ymwybodol o’i gyflymder pur a’i sgiliau ymosodol.

"Roedd lot gyda fe i’w ddysgu wrth gwrs, yn enwedig yr elfen amddiffyn a gweithio i gynllun penodol – yn anffodus doedd pethe ddim wedi gweithio iddo fe fel bydde fe wedi dychmygu ac fe ddaeth sgowtiaid St Helens i’w weld ac ma’r gweddill fel ma nhw’n dweud yn hen hanes.”

Creu argraff yn erbyn Wigan

Doedd ei lwyddiant yn rygbi’r gynghrair ddim yn unionsyth chwaith, bu’n rhaid iddo aros tair blynedd cyn cynrychioli’r tîm cyntaf wrth iddo ddysgu gêm ddieithr nad oedd erioed wedi chwarae o’r blaen. Ond ar ôl brwydro a dyfalbarhau cafodd yr amynedd hwnnw ei wobrwyo pan gafodd ei ddewis i gynrychioli St Helens yn y gêm ddarbi fawr yn erbyn eu cymdogion a’i gelynion pennaf, Wigan, ar Ddydd Gwener y Groglith yn 2017, gan sgorio cais ar y dydd.

Ar ôl hynny doedd dim troi nôl ac fe ddaeth yn seren dros nos. Roedd ei gyflymdra pur a’i ddoniau creadigol yn olygfa cyson am y bedair blynedd nesa – cyfnod ble fuodd na lwyddiant ysgubol iddo’n bersonol ac yn ran annatod o lwyddiant St Helens.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Erbyn diwedd tymor 2021 fe enillodd y Superleague deirgwaith ynghŷd â ennill y Cwpan Her yn Wembley – fe groesodd am 88 cais mewn 139 gêm. Ag yntau wedi profi pob llwyddiant yn y gamp doedd symud ‘yn ôl’ i gêm yr undeb ddim yn syndod a’r temtasiwn i brofi her newydd a chlwb Racing 92 ym Mharis yn ormod o demtasiwn i’w wrthod.

Anaf difrifol

Ond yn anffodus roedd ffawd ddim o’i blaid ac ar ôl diodde’ anaf difrifol i’w goes wrth i’w yrfa gyda St Helens ddirwyn i ben fe dreuliodd bron i ddwy flynedd ar yr ymylon, ac roedd rhaid iddo adael Racing yn y pen-draw heb gicio pêl.

Caerfaddon ddaeth i’r adwy a chynnig cyfle iddo ail-danio’i yrfa, ond prin iawn fyddai unrhyw un wedi disgwyl gweld ei enw wedi’i gynnwys yng ngharfan Cymru ar gyfer y daith i Awstralia, gan ei fod heb chwarae un gêm gystadleuol dros ei glwb newydd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Grace eisoes wedi chwarae rygbi dros Gymru. Yma mae'n chwarae rygbi'r gynghrair yn erbyn Iwerddon yn 2017

Un sy’n edmygu’r chwaraewr yn fawr ac wedi bod yn dilyn ei yrfa yw canolwr y Dreigiau, Steff Hughes, ond er yn cydnabod ei dalent rhyfeddol mae’n rhybuddio na ddylai’r cyhoedd ddisgwyl yr un effaith ddramatig yng ngêm yr undeb.

“Does dim dwywaith fod Regan yn wibiwr ac yn rhywun fydde chi’n talu i weld ar y cae rygbi,” meddai Steff, “ond ma techneg y ddwy gêm yn wahanol dros ben, yn enwedig yr amddiffyn."

"Mae patrwm amddiffynnol gêm yr undeb dipyn yn fwy cymhleth ac anfaddeuol, mae ‘na ffyrdd o guddio asgellwyr yng ngêm y gynghrair ond bydd rhaid iddo ddysgu’n gloi nad yw hynny’n bosib wrth perffeithio’r gamp newydd. Yr hyn sydd o’i blaid wrth gwrs yw dyw e ddim yn gwbl ddiarth i’r gamp yma - dyna ble mae ei wreiddiau a dwi’n gobeithio’n fawr y bydd e’n gaffaeliad i Gymru."

Amser a ddengys os daw ei gyfle ar y llwyfan rhyngwladol ond yr hyn sy’n gyffredin rhwng Regan Grace a Louis Rees-Zammit yw creu cyffro annisgwyl a sicrhau fod y dorf yn codi o’i seddi, ac mewn cyfnod sy’n cael ei reoli gan amddiffynfeydd cadarn mae hynny heb os yn rywbeth i’w drysori!