Newidiadau arwyddocaol i dargedau ambiwlans Cymru

Fe fydd y drefn newydd yn symud i ffwrdd o fesur perfformiad y gwasanaeth ambiwlans yn nhermau cyflymder yn unig
- Cyhoeddwyd
Mae'r ysgrifennydd iechyd wedi cyhoeddi newidiadau arwyddocaol i dargedau'r gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru.
Yn ôl Jeremy Miles, mae hynny er mwyn blaenoriaethu gwell gofal i gleifion sydd wedi cael ataliad y galon neu wedi stopio anadlu.
Ond mae'r newidiadau yn dilyn cyfnod lle mae perfformiad ar amryw o fesurau wedi dirywio'n sylweddol.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, fe fydd y drefn newydd yn blaenoriaethu'r canlyniadau i gleifion - hynny yw, pa mor debygol bod rhywun yn byw neu farw ar ôl digwyddiad, yn hytrach na chanolbwyntio ar gyflymdra yn unig.
Beth fydd yn newid?
Mae rhwng 4,500 a 7,000 o alwadau 999 bob mis o dan y drefn bresennol yn cael eu categoreiddio fel galwadau "coch" - yn cynnwys cleifion sydd wedi cael ataliadau'r galon, yn gwaedu'n ddifrifol neu'n cael trafferth anadlu.
Ar hyn o bryd, mae yna ddisgwyliad bod criwiau ambiwlans yn cyrraedd y rhain o fewn wyth munud mewn 65% o achosion.
Dyw'r targed hwn heb ei gyrraedd ers haf 2020.
O dan y drefn newydd, fe fydd dau gategori mwy cyfyng yn cymryd lle yr hen gategori coch.
Categori porffor (yn cynrychioli tua 20% o'r galwadau coch presennol) lle mae calon rhywun wedi stopio'n ddirybudd neu mae unigolyn wedi stopio anadlu;
Categori brys coch (yn cynrychioli tua 40% o'r galwadau coch presennol) yn cynnwys rhywun sydd wedi cael trawma difrifol neu'n gwaedu yn ddifrifol.

Bydd disgwyl i griwiau ymateb i alwadau yn y ddau gategori yma o fewn chwech i wyth munud ar gyfartaledd, ac i 90% o alwadau fewn 20 munud.
Ond ar gyfer y categori cyntaf - porffor - fe fydd y system yn mesur pa ganran o'r achosion lle mae curiad calon claf wedi cael ei adfer ar ôl ataliad.
Disgwyliad y llywodraeth yw y bydd ffigwr hwn yn gwella dros amser.
Mesur canlyniadau i gleifion
Yn ôl Llywodraeth Cymru, fe fydd hyn yn gam i ffwrdd o fesur perfformiad y gwasanaeth ambiwlans yn nhermau cyflymder yn unig, gan ganolbwyntio mwy ar y canlyniadau i gleifion.
O dan y targedau presennol, os yw ambiwlans yn cyrraedd ar ôl wyth munud i ataliad y galon, a'r claf yn byw, yna mae hynny'n cael ei ystyried yn fethiant.
Mae cyfraddau goroesi pobl sydd wedi cael ataliad y galon y tu allan i ysbytai yn gymharol wael yng Nghymru, gyda dim ond tua 5% yn goroesi, o gymharu â 10% yn Lloegr, 9% yn Yr Alban a thua 25% mewn rhai gwledydd Ewropeaidd a dinasoedd yn yr Unol Daleithiau.
O dan y drefn newydd, fe fydd 'na ymdrech i gynyddu ymwybyddiaeth ac adnoddau yn y gymuned i roi cymorth cyflym i'r cleifion yma.
Dirywiad sylweddol mewn perfformiad
Mae'r newidiadau'n digwydd yng nghyd-destun dirywiad sylweddol ym mherfformiad y gwasanaeth ambiwlans ers i'r targedau gael eu hailwampio ddiwethaf yn 2015.
Yn benodol, mae yna ddirywiad arwyddocaol iawn wedi bod mewn amseroedd ymateb i alwadau oren - galwadau difrifol sy'n cynnwys unigolion sydd wedi cael strôc neu sy'n dioddef poenau yn y frest.
Mae'r amseroedd ymateb ar gyfer y rhain wedi cynyddu o 11 munud ar gyfartaledd yn 2015 i tua dwy awr.
Tra'n cydnabod fod cleifion yn cael niwed oherwydd hyn, does dim targedau wedi'u gosod i wella perfformiad yn y categori hwn, er bod Llywodraeth Cymru a'r gwasanaeth ambiwlans yn mynnu y bydd 'na waith pellach yn digwydd.

Mae cynnydd sylweddol wedi bod o ran oedi yn trosglwyddo cleifion o ambiwlansys i ysbytai
Ond y gwir yw fod llawer iawn o'r oedi sy'n wynebu ambiwlansys y tu hwnt i reolaeth y gwasanaeth ei hun, ac yn digwydd o ganlyniad i ambiwlansys yn ciwio y tu allan i unedau brys ysbytai.
Bu cynnydd sylweddol yn yr oedi hyn yn y blynyddoedd diwethaf, gyda mwy na phedair gwaith cymaint o oriau wedi'u colli yn ystod y 12 mis diwethaf o'i gymharu â 2017.
Ym mis Ionawr eleni, cafodd tua 27,000 o oriau eu "colli" tra bod ambiwlansys a chriwiau yn sownd y tu fas i unedau brys yn aros i drosglwyddo'u cleifion.
Er nad yw'r targedau newydd yn gosod ymrwymiad ar fyrddau iechyd i wella'r sefyllfa, fe fydd tasglu newydd yn cael ei sefydlu i ystyried yr heriau, yn ôl yr ysgrifennydd iechyd.
Targedau presennol 'ddim yn addas'
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae'r newidiadau yn cael eu gwneud mewn ymateb i argymhelliad gan bwyllgor iechyd trawsbleidiol y Senedd - a ddaeth i'r casgliad nad oedd y targedau ambiwlans presennol bellach yn addas i'r diben.
Mae'n dadlau bod y dull newydd yn adlewyrchu'r rhai a ddefnyddir eisoes yn Iwerddon, Yr Alban ac Awstralia - lle mae'r cyfraddau goroesi ar ôl ataliadau'r galon wedi gwella.
Bydd y drefn newydd yn cael ei threialu am flwyddyn o fis Gorffennaf eleni, ac os yn llwyddiannus bydd yn cael ei chyflwyno'n barhaol o fis Awst 2026.
Dywedodd yr ysgrifennydd iechyd Jeremy Miles eu bod "eisiau achub mwy o fywydau a gwella'r siawns y bydd pobl yn goroesi ataliad y galon yng Nghymru".
"Mae'r system bresennol yn trin rhywun sy'n cael ataliad y galon yr un fath â rhywun ag anawsterau anadlu cyffredinol sy'n aml yn gallu cael eu trin yn ddiogel gartref.
"Bydd y newidiadau hyn yn sicrhau bod clinigwyr ambiwlans yn cyrraedd y rhai sydd â'r angen mwyaf yn gyntaf, gan sicrhau bod pawb yn cael y gofal cywir yn ôl eu hanghenion clinigol."

Dywedodd Jason Killens, prif weithredwr Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ei fod yn croesawu'r cyhoeddiad.
"Ers 1974, mae ein gwasanaeth ambiwlans wedi cael ei fesur yn ôl yr amser mae'n ei gymryd i gyrraedd galwadau brys," meddai.
"Mae gwasanaeth ambiwlans heddiw yn darparu gofal llawer mwy soffistigedig, felly mae symud y ffocws i faint o bobl sydd, oherwydd ein hymyriadau, yn goroesi argyfwng lle mae bywyd yn y fantol, yn hytrach na sawl munud mae'n ei gymryd inni gyrraedd yno, yn gam pwysig i adlewyrchu hynny.
"Yn y cyfamser, rydyn ni wedi ymrwymo o hyd i wella canlyniadau cleifion, ac yn benodol, i wella cyfraddau goroesi ataliad y galon yng Nghymru.
"I wneud hynny, byddwn yn cydweithio hyd yn oed yn agosach ag Achub Bywyd Cymru i wella ymwybyddiaeth o CPR a diffibrilio cynnar, ac yn gwneud yr hyn rydyn ni'n ei wneud orau, sef achub bywydau."
Yn siarad yn y Senedd, dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr, Russell George, fod targedau'n bwysig er mwyn "sicrhau atebolrwydd", ond mai'r "gwir broblem" yw'r oedi yn trosglwyddo cleifion i'r ysbyty.
Ychwanegodd Mabon ap Gwynfor o Blaid Cymru fod staff y gwasanaeth yn gwneud "gwaith arwrol", a bod angen mwy o adnoddau cymunedol fel "diffibrilwyr a phencampwyr CPR" er mwyn i'r targedau newydd lwyddo.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Chwefror
- Cyhoeddwyd23 Ionawr
- Cyhoeddwyd31 Rhagfyr 2024