Gwasanaeth Ambiwlans Cymru'n datgan 'digwyddiad argyfwng' prin

Sawl ambiwlans mewn ciw
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd rheolwyr nos Lun bod dros 90 o ambiwlansys yn aros i drosglwyddo cleifion tu allan i ysbytai Cymru a 340 o alwadau 999 yn aros i gael eu hateb

  • Cyhoeddwyd

Mae Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi datgan "digwyddiad argyfwng" prin gan fod gymaint o alw am wasanaethau.

Dywed y gwasanaeth bod dros hanner ambiwlansys yr ymddiriedolaeth yn aros i drosglwyddo cleifion tu allan i ysbytai Cymru.

Mewn datganiad nos Lun yn ymddiheuro am y sefyllfa, dywedodd yr ymddiriedolaeth bod 340 o alwadau 999 yn aros heb eu hateb.

Wrth siarad â'r BBC ddydd Mawrth, dywedodd y prif weithredwr Jason Killens bod disgwyl i'r pwysau ar y gwasanaeth barhau gydol y dydd a thros nos.

Mae wedi apelio ar bobl i "yfed yn synhwyrol" wrth ddathlu'r flwyddyn newydd er mwyn osgoi rhoi mwy o bwysau fyth ar y GIG.

Mae'r gwasanaeth a Llywodraeth Cymru yn apelio ar bobl i osgoi ffonio 999 oni bai bod bywyd mewn perygl.

Nos Lun, yn ôl Pennaeth Gwasanaeth yr ymddiriedolaeth, Stephen Sheldon, roedd "mwy na 90 o ambiwlansys yn aros i drosglwyddo cleifion tu allan i ysbyty [ac o'r herwydd] mae ein gallu i helpu cleifion wedi cael ei effeithio".

"Yn anffodus, mae hyn yn golygu y bydd rhai cleifion yn aros yn hirach cyn i ambiwlans gyrraedd ac i'w galwadau gael eu hateb.

"Am hynny, mae'n wir ddrwg gennym oherwydd nid dyma lefel y gwasanaeth rydym eisiau ei ddarparu."

'Un o'r cyfnodau gwaethaf i mi ei weld'

Mewn cyfres o gyfweliadau ddydd Mawrth, mae'r prif weithredwr Jason Killens hefyd wedi "ymddiheuro i gleifion a wnaeth aros yn rhy hir ddoe ac sy'n parhau i ddisgwyl heddiw".

Dywedodd mai "dyma un o'r cyfnodau gwaethaf i mi ei weld".

"Does dim amheuaeth, yn anffodus, y gallai rhai cleifion sydd wedi aros yn hirach, fod wedi dioddef niwed oherwydd yr oedi yna.

"Rydym wastad yn blaenoriaethu bob galwad frys ac yn ymateb i'r cleifion mwyaf sâl gyntaf.

"Mae'n deg dweud bod rhai cleifion wedi aros yn rhy hir o lawer am ambiwlans frys ac wrth gwrs rwyf eisiau ymddiheuro."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Jason Killens bod y Gwasanaeth Ambiwlans yn barod am noson brysur nos Galan

Eglurodd wrth raglen BBC Wales Breakfast bod datgan sefyllfa o argyfwng yn "rhoi signal i weddill y GIG bod problem gyda ni, ein bod dan bwysau eithriadol ac mae angen help arnom.

"Mae'n ein galluogi ni i alw am y gefnogaeth a help yna o ar draws y system.

"Gall pobl ar draws Cymru ein helpu ar yr adeg gwirioneddol anodd yma trwy ond ein ffonio os oes gwir argyfwng."

Dywedodd Mr Killens bod disgwyl noson brysur i'r gwasanaeth ac y gallai tywydd gwael "greu cymhlethdodau ychwanegol i ni".

Mae'r ffactorau hynny ar ben prysurdeb arferol y gaeaf ac achosion o gyflyrau anadlol fel y ffliw.

Ond fe ddywedodd wrth BBC Breakfast y gall pobl sy'n dathlu'r flwyddyn newydd "ein helpu heno trwy gael amser da ond wrth yfed yn synhwyrol, bwyta cyn mynd allan a gofalu am eu ffrindiau".

'Cyfnod heriol iawn ar draws y GIG'

Daeth datganiad nos Lun wrth i nifer cleifion â heintiau gynyddu mewn ysbytai ar draws Cymru.

Mae rhai byrddau iechyd yn cymryd camau ychwanegol, gan gynnwys gorfodi pobl i wisgo masgiau a chaniatâu llai o ymwelwyr i geisio atal lledu heintiau.

Fel rhan o'i gynllun digwyddiad argyfwng, dywed yr Ymddiriedolaeth Ambiwlans bod camau ychwanegol wedi eu cymryd i sicrhau eu bod yn gallu parhau i wasanaethu'r cyhoedd a lleihau pwysau ar y gwasanaeth.

Maen nhw'n gofyn i'r cyhoedd osgoi ffonio 999 oni bai bod perygl i fywyd claf, a cheisio cael cymorth yn hytrach mewn fferyllfa, meddygfa, uned mân anafiadau neu drwy ffonio llinell 111 y GIG.

Ychwanegodd y gwasanaeth: "Mae ein staff a gwirfoddolwyr yn gwneud gwaith ardderchog dan amgylchiadau anodd, ac ni allwn eu diolch ddigon am eu gwaith caled yn ystod cyfnod heriol iawn ar draws y gwasanaeth iechyd."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai byrddau iechyd yn cymryd camau ychwanegol, gan gynnwys gorfodi pobl i wisgo masgiau a chaniatâu llai o ymwelwyr i geisio atal lledu heintiau

Mae'r Gwasanaeth Ambiwlans yn pwysleisio mai "anaml iawn" y mae sefyllfaoedd mor ddifrifol â hyn yn codi.

Cafodd digwyddiad argyfwng ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2020 oherwydd y galw mawr ar y pryd, yn enwedig yn ne ddwyrain Cymru.

Cafodd digwyddiad arall - sefyllfa o amgylchiadau eithriadol - ei alw yn 2023 ar ôl i ambiwlans dreulio mwy na 28 awr y tu allan i ysbyty.

Wrth ymateb i'r hynny, fe ddywedodd y Prif Weinidog ar y pryd, Mark Drakeford, fod datgan digwyddiad o'r fath yn sicrhau mwy o gymorth i wasanaethau mewn argyfwng.

Rhybuddiodd hefyd fod mwy yn debygol o gael eu galw.

'Lefelau uchel o alw'

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn apelio ar bobl i osgoi ffonio 999 oni bai bod bywyd mewn perygl wrth i wasanaethau iechyd a gofal Cymru "barhau i weld lefelau uchel o alw y gaeaf yma".

Dywedodd llefarydd fod cynnydd yn nifer yr achosion ffliw "wedi ychwanegu mwy o bwysau dros gyfnod y Nadolig" gan orfodi byrddau iechyd i gymryd camau pellach i atal a rheoli heintiau.

Cyfeiriodd at yr ymgyrch 50-diwrnod presennol "i gyfuno gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a helpu gwella llif cleifion trwy ysbytai a mynd i'r afael ag oedi trosglwyddo cleifion o ambiwlansys".

Ychwanegodd hefyd eu bod wedi rhoi dros £180m yn ychwanegol eleni at drin mwy o bobl yn y gymuned a lleihau'r angen i fynd i'r ysbyty "trwy ganolbwyntio ar y gofal cywir yn y lle cyntaf y tro cyntaf".

Pynciau cysylltiedig