Toriadau Trump yn cadw crwban prin rhag dychwelyd i'r UDA o Gymru

Rhossi yn nofio yn pwll y sw mor
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhossi yn math o grwban prin iawn

  • Cyhoeddwyd

Mae math o grwban môr prin a gafodd ei ddarganfod ar un o draethau Cymru yn wynebu rhwystr annisgwyl rhag cyrraedd adref – Arlywydd yr UDA, Donald Trump.

Cafodd Rhossi, sy'n grwban Kemp's Ridley, ei olchi i'r lan ar draeth ar Ynys Môn yn 2023.

Wedi cyfnod yn cryfhau yn Sw Môr Môn, mae Rhossi bellach yn ddigon iach i gael ei ryddhau yn ôl i'r gwyllt oddi ar arfordir yr UDA.

Ond wedi i'r Arlywydd Trump lofnodi sawl gorchymyn gweithredol yn y Tŷ Gwyn mae dyfodol y crwban yn ansicr.

'Mae'n broblem enfawr'

Ym mis Ionawr fe wnaeth yr Arlywydd Trump rewi holl gymorth datblygu tramor America am o leiaf dri mis.

Mewn ymateb i hynny, fe wnaeth y corff cadwraeth ffederal, Gwasanaeth Pysgod a Bywyd Gwyllt yr Unol Daleithiau rewi cyllideb sawl sefydliad, ac atal peth o'r gwaith mae'n ei oruchwylio.

Roedd hynny'n cynnwys gwaith y Gronfa Cadwraeth Crwbanod Môr, a oedd ynghyd â'r gwasanaeth bywyd gwyllt ac asiantaethau eraill, yn gysylltiad allweddol ar gyfer cael Rhossi adref a'i ryddhau i Gwlff Mecsico – neu Gwlff America fel y mae arlywydd yr UDA wedi mynnu y dylid ei alw.

Donald Trump yn dangos un o'i gorchmynion gweithredol wedi iddo ei lofnodi wrth sefyll o flaen podiwm
Disgrifiad o’r llun,

Dechreuodd Donald Trump ei arlywyddiaeth gan lofnodi sawl gorchymyn gweithredol

Mae Gwasanaeth Pysgod a Bywyd Gwyllt yr UDA hefyd wedi denu sylw Elon Musk - mae'r biliwnydd yn arwain Adran Effeithlonrwydd Llywodraeth yr Arlywydd Trump, neu Doge.

Mae Mr Musk wedi gwneud toriadau ysgubol i sawl un o gyrff ffederal y wlad - gan gynnwys y gwasanaethau bywyd gwyllt, lle mae mwy na 400 o swyddi wedi'u torri.

Mae polau piniwn yn awgrymu bod y mwyafrif o Americanwyr yn gefnogol o'r toriadau.

"Mae'n broblem enfawr ac mae'n rhwystredig iawn," meddai Frankie Hobro, perchennog a chyfarwyddwr Sŵ Môr Môn.

"Tydi anifeiliaid ddim yn deall gwleidyddiaeth, dydyn nhw ddim yn deall ffiniau."

Mae crwbanod Kemp's Ridley yn cael eu hystyried fel rhywogaeth mewn perygl difrifol. Y gred yw mai dim ond tua 7,000 o fenywod sy'n bodoli yn y Gwlff.

Rhossi yw'r ail o'r math yma o grwban i gael ei achub gan y sw môr, gyda'r cyntaf - Tally – wedi'i ddanfon yn ôl i Texas cyn cael ei ryddhau yn ôl i'r môr yn 2023.

"Roedden ni wedi dechrau ar gynllun dychwelyd gwirioneddol lwyddiannus, meddai cyfarwyddwr y sŵ.

"O'n i'n meddwl bod ni efo system mewn lle oedd yn gweithio'n dda.

"Mae'n rhwystredig iawn, bod hynny wedi cael ei effeithio oherwydd gwleidyddiaeth, a'r math hwn o benderfyniad ysgubol sy'n cael effaith bellgyrhaeddol y tu hwnt i'r Unol Daleithiau."

Frankie yn sefyll o flaen mynedfa Sŵ Môr Môn
Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r ail grwban i Frankie Hobro geisio ei ddanfon yn ôl i'r Unol Daleithiau

Ond dywedodd cyn-gyfarwyddwr y gwasanaeth fod yr effaith ar brosiectau cadwraeth yn yr Unol Daleithiau ac yn fyd-eang - gan gynnwys achos Rhossi - yn "dorcalonnus".

"Doeddwn i ddim yn disgwyl i'r weinyddiaeth hon fod yn gyfeillgar tuag at gadwraeth. Ond dwi wedi synnu at y cyflymder a'r graddau y maen nhw wedi tanseilio degawdau o ewyllys da a gwaith yn y maes cadwraeth," meddai Martha Williams.

Frankie a'i chydweithiwr Elis yn sefyll o flaen tanc dŵr Rhossi yn y sŵ môr
Disgrifiad o’r llun,

Mae danfon Rhossi yn ôl i Fecsico yn lle'r UDA yn un opsiwn mae Frankie yn ystyried

Ms Williams oedd dewis gwleidyddol y cyn-arlywydd Joe Biden i redeg yr asiantaeth yn ystod ei bedair blynedd ef fel arweinydd y wlad.

Penderfynodd hi ymddiswyddo pan ddechreuodd Trump ar ei ail dymor yn y Tŷ Gwyn.

"Roedd gwaith rhyngwladol yn costio cyn lleied o arian o'i gymharu â'r pethau mawr costus yn y byd hwn. Chi'n sôn am grantiau bach oedd yn cael effaith enfawr ar gymunedau."

Disgrifiodd y toriadau i gyllid ar gyfer prosiectau fel cadwraeth crwbanod môr fel rhai "creulon".

Martha Williams
Disgrifiad o’r llun,

Martha Williams oedd yn gyfrifol am brosiectau cadwraeth dan lywodraeth Joe Biden

Ond ble mae hyn i gyd yn gadael Rhossi?

Neges Martha Williams oedd i "beidio â rhoi'r gorau iddi".

"Siaradwch allan - adroddwch y straeon, eglurwch pam mae'r gwaith hwn mor bwysig, a'i fod yn effeithio ar bobl mewn ffordd gadarnhaol," meddai.

Mae'n gyngor y mae Frankie Hobro wedi'i gymryd – ac mae hi'n benderfynol o gael y crwban yn ôl adref un ffordd neu'r llall.

"Mae 'na opsiynau eraill. Mi allwn ni falle gweithio trwy Fecsico er enghraifft.

"Ond byddai hynny'n drueni oherwydd mae gennym ni berthynas arbennig yn barod gyda'r rhaglenni cadwraeth gwych yma ar gyfer y crwbanod yn Texas.

"Mae'n fater o geisio darganfod pa mor hir y bydd pethau yn parhau fel ma' nhw nawr a gweld os allwn ni wthio hwn trwyddo. Os ddim bydd rhaid ailddechrau'r broses o gael Rhossi adref ryw ffordd arall."