Enwi cae hoci Ysgol Ystalyfera ar ôl un o sêr y gamp

Marilyn Pugh yn dal cap hoci Prydain Fawr.Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Marilyn Pugh yn derbyn cap hoci Prydain Fawr yn Ebrill 2022

  • Cyhoeddwyd

Mae cae hoci newydd yn Ysgol Gymraeg Ystalyfera wedi cael ei enwi ar ôl un o gyn-chwaraewyr yr ardal.

Mae ‘Maes Marilyn’ wedi ei enwi ar ôl un o gyn-athrawon yr ysgol.

Enillodd Mrs Marilyn Pugh, o Frynaman 90 o gapiau dros Gymru a bu’n rhan o dîm menywod cyntaf Prydain.

Ers 2015, mae Ysgol Gymraeg Ystalyfera wedi derbyn buddsoddiad gwerth £32m ac mae ganddyn nhw gyfleusterau chwaraeon newydd sy'n cynnwys caeau awyr agored a chaeau 2G.

Bydd tua 170 o blant cynradd yn rhan o ddigwyddiad ddydd Mawrth, i agor y cyfleusterau'n swyddogol.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Mae hoci wedi bod yn rhan annatod o fywyd Marilyn ers iddi hi fod yn ferch ifanc.

Dywedodd bod y penderfyniad i enwi'r cyfleusterau newydd ar ei hôl hi yn "fraint ac anrhydedd" ac yn "meddwl lot fawr" iddi hi.

Ychwanegodd: "Ma' Ysgol Ystalyfera mor agos at fy nghalon.

"Bues i 'na yn dysgu plant talentog felly ma' fe’n meddwl y byd i fi a fy nheulu i gyd."

Bydd y cae yn gyfle i ddisgyblion gael blas ar y gamp a mwynhau chwaraeon o oedran ifanc, meddai.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Dechreuodd Marilyn chwarae hoci yn Ysgol Ramadegol Ystalyfera

Dechreuodd Marilyn chwarae hoci yn Ysgol Ramadeg Ystalyfera.

Eglurodd mai'r "llun cyntaf gyda fy Mam yw fi mewn slippers yn dal raced tenis... na'i gyd o’n i mo’yn 'neud oedd chwarae gyda phêl.

"Roedd gen i ddwy freuddwyd pan o'n i'n ifanc.

"Y cynta oedd bod yn athrawes addysg gorfforol ac yr ail oedd chwarae hoci dros Gymru."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Chwaraeodd Marilyn dros Gymru 90 o weithiau a bu'n rhan o dîm Prydain

Dechreuodd ei gyrfa broffesiynol gyda thîm Cymru ar daith yn India'r Gorllewin yn 1973 ac fe gafodd gyfle i chwarae yn erbyn Jamaica a Barbados.

Dywedodd: "Es i am fis cyfan, wel yr oedran 'ny, o’n i heb fynd mas o Frynaman!

"Ond gethon ni ddim cap am y daith hwnnw ar y pryd."

Daeth ei chap cyntaf dros Gymru yn 1974 mewn gêm yn erbyn Iwerddon ac aeth ymlaen i ennill 90 o gapiau yn ystod ei gyrfa.

'Cyfle i deithio'r byd'

Yn 1978, daeth Marilyn yn rhan o dîm hoci menywod cyntaf Prydain gyda chyfle i gystadlu yng Ngemau Olympaidd Moscow 1980.

Ond penderfynodd y Gymdeithas Hoci na fydden nhw'n teithio fel "boicot yn erbyn yr Undeb Sofietaidd" ar ôl iddyn nhw ymosod ar Afghanistan yn 1979.

O fod yn is-gapten Prydain, i deithio’r byd gyda thîm Cymru, mae gan Marilyn sawl uchafbwynt, gan gynnwys taith i'r Ariannin.

Dywedodd: "Ni oedd y tîm cyntaf rhyngwladol i fynd allan i’r Ariannin ar ôl Rhyfel y Falklands.

"O'dd hwn bach yn scary i fod yn onest, o’n i ddim isie gweud o’n i’n Brydeinwyr a roedd rhaid i’r heddlu fynd â ni nôl ac ymlaen oherwydd bod y berthynas mor fregus rhwng y ddwy wlad yn dilyn y rhyfel.

"Ges i sawl cyfle i deithio’r byd ac yn ffodus iawn i fod yn rhan o’r tîm."

Pynciau cysylltiedig