Iechyd Powys: Dim newid i batrwm anfon cleifion i Loegr

Meddygon yn cynnal llawdriniaeth mewn ysbytyFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Fydd yna ddim newidiadau i amseroedd aros cleifion o Bowys sy'n cael eu hanfon i Loegr i gael triniaeth.

Fel rhan o gynlluniau i arbed arian, roedd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi ystyried ymestyn amseroedd o hyd at 11 wythnos neu fwy ar gyfer pobl sy'n byw ym Mhowys sydd angen gofal mewn ysbytai yn Lloegr.

Ond roedd yna wrthwynebiad cryf i'r syniad.

Mewn cyfarfod ddydd Mercher, pleidleisiodd mwyafrif aelodau'r bwrdd iechyd o blaid argymhelliad i beidio â gweithredu newidiadau i amseroedd aros cleifion.

'Angen trafod pellach ar sefyllfa ariannol'

Daw'r tro pedol wrth i'r bwrdd iechyd gydbwyso'r effaith ar boblogaeth oedrannus, y rhai sydd i ffwrdd o'r gwaith tra'n aros am driniaeth, a'r pwysau ychwanegol ar ofalwyr.

Mae nifer o gleifion sy'n byw ym Mhowys yn derbyn triniaeth gan y GIG yn Lloegr oherwydd eu bod yn byw yn agos at y ffin, ac am nad oes ysbyty cyffredinol o fewn y sir.

Mae hyn yn gallu bod yn gostus i'r bwrdd iechyd lleol.

Mewn cyfarfod arbennig ar 10 Ionawr, bu'r bwrdd yn ystyried gweithredu oedi, ond fe ddywedwyd bod angen mwy o wybodaeth am effaith y cynnig cyn gwneud penderfyniad terfynol.

Ddydd Mercher, penderfynodd y bwrdd iechyd roi'r gorau i'r cynllun gan nodi bod angen trafodaethau pellach i geisio osgoi sefyllfa ariannol debyg ar gyfer 2025-2026.

Mae yna oedi yn parhau ar recriwtio staff o fewn rhai swyddi gwag, gyda chyfyngiad hefyd ar y defnydd o asiantaethau a staff locwm.

Dywedodd y Prif Weithredwr, Hayley Thomas yn ystod y cyfarfod fod Bwrdd Iechyd Addysgu Powys mewn trafodaethau cynnar gyda Llywodraeth Cymru "i asesu ein proses gomisiynu" yn ystod cyfnod pan fo'r bwrdd iechyd "mewn sefyllfa ariannol ddifrifol."