Achub cannoedd o geffylau yn Sir Gâr 'yn deyrnged i Ginny'

Bu farw Ginny Hajdukiewicz o ganser y fron yn 1994 pan oedd hi'n 38 oed
- Cyhoeddwyd
Mae elusen achub ceffylau yn Sir Gâr yn dweud eu bod yn hynod o falch eu bod wedi gallu achub bron i 400 o geffylau, a hynny er cof am y ddynes a sefydlodd yr elusen 40 mlynedd yn ôl.
Bu farw Ginny Hajdukiewicz o ganser y fron yn 1994 pan oedd hi'n 38 oed.
Ond mae ei chariad at anifeiliaid yn fyw, medd ei ffrindiau, wrth i'r gwaith o achub ceffylau barhau yn Llangadog.
"Hi oedd fy arwres, ro'n i'n ei haddoli ac eisiau bod yn union fel hi," meddai Dionne Schuurman, a gafodd ei hyfforddi gan Ginny i farchogaeth yn naw oed.
Dywedodd Dionne, sydd bellach yn rheolwr elusen Ymddiriedolaeth Ceffylau a Merlod Lluest yn Llangadog, y byddai Ginny yn hynod o falch o weld yr elusen yn dathlu ei phen-blwydd yn 40.
"Roedd hi'n ddynes fer ond yn bwerus, a dwi'n meddwl bod ei stori yn haeddu cael ei chlywed," meddai ei ffrind Stella Gratrix, oedd yn un o ymddiriedolwyr cyntaf yr elusen.

Sefydlodd Ginny yr elusen wedi iddi weld cyflwr rhai ceffylau mewn arwerthiannau
Yn Coombe yn Sir Gaerloyw y sefydlodd Ginny ei chanolfan farchogaeth gyntaf ac yn y fan honno y gwnaeth hi gyfarfod Barbara Metcalfe wrth iddi fynd â'i merch yno.
"Roedd Ginny yn poeni llawer mwy am les y ceffylau na gwneud arian," meddai Barbara.
Atgof tebyg sydd gan Stella ohoni.
Fe ddaeth hi i'w hadnabod wedi i Ginny symud i Drefenter yng Ngheredigion yn 1982, ac mae'n cofio amdani yn bwyta dim ond bara a thatws drwy'r gaeaf er mwyn talu am fwyd i'r ceffylau.

Ginny (chwith) a'i ffrind Stella - sydd wedi bellach wedi casglu straeon Ginny
Pan sefydlodd Ginny yr elusen ym 1985, Stella, Barbara a'i gŵr Brian oedd yr ymddiriedolwyr.
Yr hyn oedd hi eisiau ei wneud oedd creu lloches a hafan ddiogel i ferlod a cheffylau wedi iddi gael ei syfrdanu gan gyflwr a'r ffordd yr oedd merlod mynydd gwyllt ac ebolion yn cael eu trin mewn arwerthiannau ceffylau lleol.
"Roedden ni'n arfer mynd i farchnadoedd ceffylau gyda chamera, ac wrth i bobl ddeall be' oedden ni'n ei wneud byddai dŵr oer yn cael ei daflu drosom ym mis Chwefror," meddai Stella.
"Byddai merlod yn llithro oherwydd nad oedd y llawr yn lân a byddai cefnau ebolion eraill yn cael eu taro a hwythau yn nerfus yn gadael eu mamau," ychwanegodd Barbara.

"Roedd Ginny yn poeni llawer mwy am les y ceffylau na gwneud arian," medd Barbara Metcalfe (chwith)
Yn ystod ei hoes fer fe achubodd Ginny 77 o geffylau drwy ei helusen, a rhoi cymorth i ragor.
Cafodd Ginny ddiagnosis o ganser y fron yn 1992 ac ar ddiwedd ei hoes cafodd aduniad annisgwyl gyda 22 o'r merlod yr oedd hi wedi'u hachub dros y blynyddoedd.
Bu farw yn ei chartref ar 13 Medi 1994 wedi strôc, ac mae wedi'i chladdu ar y fferm gydag un o'i merlod.
Erbyn hyn mae'r elusen, sy'n dal i gael ei hariannu'n gyfan gwbl gan roddion, wedi achub mwy na 450 o geffylau a merlod.
Mae'n cyflogi tri gwastrawd (groom) llawn amser a dau yn rhan amser, ac yn croesawu gwirfoddolwyr gydol y flwyddyn.

Jack Sparrow - ceffyl a gafodd ei achub gan yr elusen fis Gorffennaf 2024
Roedd Ginny yn awdur brwdfrydig, yn aml yn ysgrifennu am ei bywyd a'i gwaith mewn llyfrau nodiadau neu hyd yn oed ar gefn amlenni.
I gyd-fynd â phen-blwydd yr elusen yn 40 oed, mae Stella a Barbara wedi casglu a golygu ei straeon.
Dywedodd Barbara a Stella, wnaeth gyfarfod Ginny pan oedden nhw yn eu 30au ac sydd bellach yn eu 70au, fod Ginny yn parhau i gael effaith ar eu bywydau.
Ond beth fyddai Ginny yn ei wneud o'i gwaddol?
"Gwelais [gŵr Ginny] Peter y diwrnod o'r blaen a dywedodd y byddai hi mor falch," meddai Barbara.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Chwefror
- Cyhoeddwyd22 Ionawr