Eisteddfod: Anrhydeddu'r Prif Lenor Rhyddiaith
Wedi iddi ennill y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Rhondda Cynon Taf yn 2024 dywedodd Eurgain Haf ei bod yn "brofiad gwefreiddiol, arallfydol"
- Cyhoeddwyd
Seremoni anrhydeddu'r Prif Lenor Rhyddiaith fydd y brif ddefod ar lwyfan y Pafiliwn yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam ddydd Mercher.
Mae hi hefyd yn ddiwrnod cyhoeddi enw enillydd cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn ac enillydd Albwm Cymraeg y Flwyddyn.
Eurgain Haf oedd enillydd Medal Ryddiaith Eisteddfod Rhondda Cynon Taf yn 2024.
Mae'r fedal yn cael ei rhoi eleni am gyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y testun 'Ffin' neu 'Ffiniau'.

Mae'r fedal eleni yn rhoddedig gan Ann Tegwen Hughes
Y beirniaid eleni yw Aled Lewis Evans, Bethan Mair ac Elin Llwyd Morgan.
Mae'r fedal wedi'i rhoi gan Ann Tegwen Hughes ac mae'r wobr ariannol o £750 yn rhoddedig gan Brifysgol Bangor.
Fe fydd yr orsedd yn bresennol yn y seremoni - yn wahanol i seremoni cyflwyno Gwobr Goffa Daniel Owen ddydd Mawrth.

Mae Llyfr Glas Nebo, enillydd y gystadleuaeth hon yn 2018, wedi ennyn cryn sylw ac wedi'i chyfieithu i sawl iaith
Cafodd y fedal hon ei chyflwyno am y tro cyntaf yn 1937 - a hynny i J O Williams am ei gyfrol 'Tua'r Gorllewin ac Ysgrifau Eraill'.
Mae'r wobr wedi cael ei hatal droeon - y tro diwethaf i hynny ddigwydd oedd yn Eisteddfod Bro Morgannwg yn 2012.
Mae nifer o gyfrolau'r gystadleuaeth hon wedi cael cryn sylw - yn 2023 fe enillodd cyfieithiad o Lyfr Glas Nebo fedal Yoto Carnegie.
Yn y cyfamser bydd Seremoni Dysgwr y Flwyddyn am 13:30 yn y Pafiliwn a Seremoni Albwm Cymraeg y flwyddyn am 18:10.
Yr albymau sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni yw:
Adwaith - Solas
Bwncath - Bwncath III
Don Leisure - Tyrchu Sain
Elfed Saunders Jones - Cofiwch Roswell
Gwenno Morgan - Gwyw
Gwilym Bowen Rhys - Aden
Pys Melyn - Fel Efeilliaid
Sywel Nyw - Hapusrwydd yw Bywyd
Tai Haf Heb Drigolyn - Ein Albwm Cyntaf Ni
Ynys - Dosbarth Nos
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd7 Awst 2024