Dinistrio gwerth £750,000 o fêps gafodd eu canfod mewn lori cludo bwyd
- Cyhoeddwyd
Bydd gwerth dros £750,000 o fêps anghyfreithlon a gafodd eu canfod ym Mhorthladd Caergybi fis Gorffennaf diwethaf yn cael eu dinistrio.
Cafodd 54,560 o'r dyfeisiau electronig eu canfod y tu ôl i gig eidion wedi'i sleisio, mewn lori oedd yn cario bwyd wedi rhewi, meddai Cyngor Sir Ynys Môn.
Honnodd St Rose Solutions Ltd, cwmni o High Wycombe a oedd yn berchen ar y fêps, eu bod wedi'u llwytho mewn camgymeriad.
Nid oedd unrhyw dystiolaeth i gefnogi hynny, yn ôl Cyngor Môn.
Cafodd gorchymyn fforffediad i ddinistrio'r 10 paled o fêps ei gyflwyno yn Llys Ynadon Caernarfon ddydd Mercher.
Mae cwmni St Rose Solutions Ltd wedi cael cais am ymateb.
Doedd y fêps heb eu datgan, eu dogfennu ac nid oedden nhw chwaith yn cydymffurfio â deddfwriaeth y DU.
Roedden nhw y tu hwnt i'r uchafswm maint tanc sy'n cael ei ganiatáu yn gyfreithiol ac nid oedd rhybuddion digonol chwaith.
Rhoddodd Safonau Masnach Ynys Môn gyfle i'r cwmni ildio'i hawliau i'r nwyddau er mwyn eu dinistrio, ond cafodd y cynnig ei wrthod.
Daeth pob cysylltiad i ben gyda'r cwmni pan ddatgelodd swyddogion eu bwriad i geisio fforffediad, meddai'r cyngor.
Cafodd cwmni St Rose Solutions Ltd eu gorchymyn i dalu costau Cyngor Sir Ynys Môn - gwerth £4,725.82 - am gyflwyno'r cais i geisio rhyddhau'r llwyth.
Roedd hyn yn cynnwys storio'r nwyddau a'u dinistrio gan ddefnyddio arbenigwr, oherwydd natur wenwynig y 'sudd nicotin' a'r batris lithiwm.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd29 Ionawr 2024
- Cyhoeddwyd29 Awst 2024