'Dim tystiolaeth' fod dyn a laddodd cariad ei fab wedi'i dwyllo

Bu farw Sophie Evans yn fuan ar ôl dychwelyd adref ar ôl mynd â'i dau blentyn i'r ysgol
- Cyhoeddwyd
Mae llys wedi clywed fod dyn sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio cariad ei fab "ddim yn ei iawn bwyll" ar adeg y digwyddiad.
Cafodd corff Sophie Evans ei ddarganfod mewn adeilad ar Ffordd Bigyn yn Llanelli, Sir Gar, ar 5 Gorffennaf 2024.
Mae Richard Jones, 50 oed o Borth Tywyn, wedi cyfaddef dynladdiad gyda chyfrifoldeb lleiedig, ond mae'n gwadu ei llofruddio.
Pan gafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i'r tŷ yn Llanelli, cafodd Ms Evans ei chanfod yn noeth yn y gegin a'i hwyneb at y llawr.

Cafwyd hyd i gorff Sophie Evans yn ei chartref yn Ffordd Bigyn ar 5 Gorffennaf 2024
Roedd y rheithgor eisoes wedi clywed bod Ms Evans a Mr Jones yn adnabod ei gilydd gan fod Ms Evans mewn perthynas â mab Mr Jones, Jamie Davies.
Clywodd y llys fod Richard Jones yn credu iddo gael ei "sgamio" gan y cwpl, wedi iddyn nhw ei "dwyllo" i arwyddo cytundeb er mwyn trosglwyddo tŷ ei fam iddyn nhw.
Dywedodd David Elias KC, bargyfreithiwr yr amddiffyn, nad oedd "briwsionyn o dystiolaeth" i ddangos fod hyn wedi digwydd, ac mai "credoau anghywir" oedd y rhain, gan nad oedd Mr Jones yn ei iawn bwyll.
Fe wnaeth Mr Elias atgoffa'r rheithgor o'r dystiolaeth rhoddodd y seiciatrydd ymgynghorol, Dr Dilum Jayawickrama - wnaeth gyfweld Richard Jones ar ôl y digwyddiad.
Mwy o'r achos
- Cyhoeddwyd21 Ionawr
- Cyhoeddwyd24 Ionawr
Yn dilyn ei asesiad, dywedodd Dr Jayawickrama fod Mr Jones yn "credu 100%" ei fod wedi cael ei sgamio.
Clywodd y llys fod Mr Jones, ar ôl cael ei arestio, wedi dweud wrth swyddogion fod Ms Evans wedi mynd ag ef i swyddfa cyfreithwyr i arwyddo ffurflenni, a wnaeth iddo gredu ei fod wedi arwyddo cytundeb yn rhoi tŷ ei fam iddyn nhw.
Dywedodd Mr Elias KC wrth y rheithgor "nad oes un briwsionyn o dystiolaeth i ddweud fod hynny'n wir."
Ychwanegodd fod aelod staff o swyddfa'r cyfreithwyr a fu'n delio gyda Ms Evans a Mr Jones, wedi dweud fod y "cyfarfod wedi para am bump i 10 munud, ac arhosodd Richard yn dawel trwy gydol hynny".
Ychwanegodd: "Ni wnaeth Richard arwyddo unrhyw ddogfennau."
'Ffiws byr'
Yn ystod araith yr erlyniad yn cloi'r achos, dywedodd Mr Jones KC wrth y rheithgor fod y diffynnydd wedi cyfaddef fod ganddo "ffiws byr", ac ar ddiwrnod y digwyddiad ei fod wedi "colli ei dymer, wedi ymosod ar Sophie, ac wedi ei chrogi".
Aeth ymlaen i atgoffa'r rheithgor o'r fideo CCTV, lle'r gellir gweld Mr Jones yn "cerdded i ffwrdd o'r tŷ yn hamddenol" ble cafodd Ms Evans ei lladd.
Dywedodd Mr Elias KC nad oedd Richard Jones wedi rhoi tystiolaeth yn ystod yr achos gan ei fod wedi rhoi ei fersiwn o ddigwyddiadau i'r heddlu ac mewn cyfweliadau seiciatrig.
Mae'r achos yn parhau.