Menyw fu farw ym mreichiau ei mab wedi 'ei methu' gan y GIG

Sandra Bartlett gyda'i hwyres, Deanna Ellis
Disgrifiad o’r llun,

Sandra Bartlett (chwith) gyda'i hwyres, Deanna Ellis

  • Cyhoeddwyd

Mae teulu menyw fu farw yn dweud ei bod “wedi ei methu” ar ôl cael ei hanfon adref o’r ysbyty gyda phoenau yn ei brest.

Cafodd Jade Ellis, 36 o Gwmafan yng Nghastell-nedd Port Talbot, ei hanfon i'r ysbyty ar ôl ffonio 111 ym mis Mawrth 2020.

Dywed ei theulu iddi gael ei rhyddhau o Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr o fewn hanner awr.

Ar ôl cyrraedd adref, cafodd drawiad ar y galon oherwydd ceulad gwaed, a bu farw ym mreichiau ei mab 18 oed.

Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Jade Ellis, 36 wedi iddi gael trawiad ar y galon oherwydd ceulad gwaed

Mae'r GIG wedi talu £160,000 i'r teulu ac mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi ymddiheuro.

Dywedodd Deanna Ellis, 20, na fydd hi byth yn anghofio’r “sioc” o weld ei mam yn gorwedd yn farw ar lawr yr ystafell wely.

“Rhedais i fyny'r grisiau i'w gweld, a chwympo i’r llawr,” meddai.

“Fe gymerodd ddau neu dri o bobl i fy nhynnu oddi arni oherwydd doedd hi ddim yn dihuno.”

Roedd Jade Ellis wedi teithio adref o'r ysbyty mewn tacsi ar ôl cael ei rhyddhau yn ystod oriau mân 28 Mawrth 2020.

Yn fuan ar ôl cyrraedd adref, gwaethygodd y poenau yn ei brest, a chafodd drawiad ar y galon.

“Roeddwn i’n meddwl fy mod i’n edrych ar fywyd rhywun arall,” meddai ei mam, Sandra Bartlett, 61.

Dechreuodd mab Jade roi CPR iddi wrth iddo siarad â pharafeddyg ar y ffôn ac aros am ambiwlans, ond roedd yn rhy hwyr.

'Fe wnaethon nhw fethu fy merch'

“Pan aeth hi i mewn i’r ysbyty, fe ddylai hi fod wedi cael prawf gwaed,” ychwanegodd Ms Bartlett.

“Fe allai hi fod wedi cael rhywbeth i deneuo’r gwaed, gallen nhw fod wedi rhoi stentiau i mewn, ond yn fwy na hynny, fe allen nhw fod wedi ei chadw yn yr ysbyty.”

Dywedodd Ms Bartlett fod dau feddyg annibynnol o Lundain wedi asesu achos Jade yn drylwyr.

Ychwanegodd: “Mae’r GIG yn wasanaeth anhygoel, ond fe wnaethon nhw fethu fy merch. Fe wnaethon nhw ei methu trwy rywbeth mor syml â phrawf gwaed.”

Disgrifiad o’r llun,

Deanna a Sandra o flaen murlun o Jade, gafodd ei baentio gan yr artist graffiti lleol, Steve Jenks

Mae plant Jade wedi cael £130,000 o arian iawndal gan y GIG. Mae £30,000 wedi mynd tuag at ffioedd cyfreithiol.

Dywed Ms Bartlett fod y boen y mae'r teulu wedi'i dioddef yn ddi-droi'n-ôl.

“Ces i gyfarfod gyda’r ysbyty ac fe ddywedon nhw’r frawddeg na wna’ i fyth anghofio: ‘mae camgymeriadau’n digwydd’.

“Fe gostiodd y camgymeriad hwn fywyd menyw ifanc.”

Bwrdd iechyd 'wedi dysgu' o'r achos hwn

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg fod eu “cydymdeimlad diffuant” gyda theulu Jade.

“Fel bwrdd iechyd, rydym wedi ymddiheuro i deulu Jade am yr achosion lle na chyrhaeddodd ei gofal y safonau uchel yr ydym yn eu disgwyl ar gyfer ein holl gleifion, ac wedi sicrhau bod dysgu o’r achos hwn wedi llywio gwelliannau mewn gofal ar gyfer y dyfodol.”

Doedd Llywodraeth Cymru ddim am wneud sylw.