Noson Gwobrau'r Selar yn dychwelyd ar ôl 5 mlynedd

  • Cyhoeddwyd

Yn 2020 daeth y byd i stop i bob pwrpas a gyda hynny noson wobrwyo Gwobrau'r Selar hefyd.

Ers 2013 bu'r noson wobrwyo yn un o gigs mawr y flwyddyn gyda ffans cerddoriaeth o bob man yn ymgynull yn Aberyswyth i anrhydeddu a dathlu'r gorau o gerddoriaeth gyfoes Gymraeg.

Ffynhonnell y llun, Betsan Haf Evans
Disgrifiad o’r llun,

Y dorf yn mwynhau gwobrau Selar yn 2019, Aberystwyth

Ond er i'r byd cerddoriaeth fyw atgyfodi'n araf bach ar ôl y pandemig, nid felly gig noson wobrwyo Gwobrau'r Selar... tan rŵan!

Er na fu gig Gwobrau'r Selar dros y pum mlynedd ddiwethaf fe fu gwobrwyo blynyddol gydag artistiaid fel Mared, Tara Bandito, Dom & Lloyd, Fleur de Lys, a Sŵnami yn dod i frig pleidlais gyhoeddus.

Cyhoeddodd y cylchgrawn ddydd Mercher 9 Ionawr bod y bleidlais gyhoeddus, dolen allanol ar gyfer gwobrau eleni yn agored, a gyda hynny cyhoeddi y byddai'r noson wobrwyo yn dychwelyd, dolen allanol ac yn cael ei chynnal yn Aberystwyth ym mis Mawrth.

Ffynhonnell y llun, Betsan Haf Evans
Disgrifiad o’r llun,

Paul Jones a Mark Roberts o'r Cyrff a Catatonia'n casglu eu gwobr Cyfraniad Arbennig yng Ngwobrau'r Selar 2019

Dywedodd Owain Schiavone, Uwch-olygydd Y Selar, wrth Cymru Fyw: "Rydan ni wedi bod yn trafod syniadau posib ar gyfer adfer y digwyddiad ar ryw ffurff dros y ddwy flynedd ddiwethaf, jyst bod y cynlluniau hynny heb cweit ddisgyn i'w lle.

"O bosib bod y syniadau hynny braidd yn rhy wahanol ac uchelgeisiol, felly eleni mi wnaethon ni benderfynu i gadw pethau'n syml a mynd yn ôl at rywbeth oedd yn debyg i wreiddiau'r Gwobrau."

Disgrifiad o’r llun,

Cowbois Rhos Botwnnog yn perfformio yn y noson wobrwyo yn Aberystwyth yn 2017. Roedd y band hefyd yn perfformio yn y noson gyntaf un ym Mangor yn 2013

Ychwanegodd: "Un peth wnaeth i mi feddwl o ddifrif am atgyfodi rhywbeth eleni oedd pan ddywedodd Gruffudd, golygydd cyfredol y cylchgrawn, nad oedd o erioed wedi bod i'r Gwobrau gan ei fod o dal yn rhy ifanc pan gynhaliwyd y diwethaf.

"Mi wnaeth hynny i mi feddwl 'mae hi'n bendant wedi bod yn rhy hir'!"

Bydd Noson Gwobrau'r Selar yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Arad Goch, Aberystwyth ar 1 Mawrth 2025.

Pynciau cysylltiedig