12 trobwynt yn hanes pêl-droed merched Cymru

  • Cyhoeddwyd

Mae tîm merched Cymru yn Y Swistir ar gyfer yr Euros, eu tro cyntaf erioed yn un o'r prif gystadlaethau rhyngwladol. Mae hyn yn gam enfawr ymlaen o feddwl eu bod wedi eu gwahardd rhag chwarae ar gaeau pêl-droed tan 1970.

Felly wrth i'r tîm gamu ar y cae ar 5 Gorffennaf - dros ganrif ers dechrau'r gwaharddiad - dyma 12 trobwynt yn hanes gêm y merched sy'n dangos bod nifer fawr wedi haeddu medalau dros y degawdau am frwydro i gael cydraddoldeb.

1. Y gwaharddiad - 3 Mawrth 1922

Dros ganrif yn ôl roedd 'na filoedd yn gwylio pêl-droed merched a'r gêm ar ei hanterth. Gyda chymaint o ddynion yn brwydro yn y Rhyfel Byd Cyntaf a newidiadau cymdeithasol ar droed, roedd timau merched wedi eu sefydlu yn y ffatrïoedd lle'r roedden nhw'n gweithio - fel y ffatrïoedd arfau.

Newport Ladies AFC 1921.Ffynhonnell y llun, Kathryn Wilkins
Disgrifiad o’r llun,

Newport Ladies AFC 1921. Kathryn Wilkins, wyres y gôl-geidwad (Dolly Johns, yn y crys gwyn), ddaeth o hyd i'r llun wedi i'w nain farw - doedd ganddi ddim syniad tan hynny ei bod hi'n chwarae pêl-droed

Roedd torfeydd mawr yn gwylio rhai gemau, sefydlwyd cynghrair yn 1917 a thîm cenedlaethol yn 1921.

Ymateb Cymdeithas Bêl-droed Cymru ar 3 Mawrth 1922 oedd gwahardd unrhyw gemau merched ar eu caeau. Roedd penderfyniad tebyg wedi ei wneud yn Lloegr rai misoedd ynghynt, ac mae'n debyg mai poblogrwydd gêm y merched, ac o bosib newid agweddau ar ddiwedd y rhyfel, oedd y rheswm.

2. Gemau elusennol - 1922-ymlaen

Er bod y gwaharddiad wedi cael effaith fawr ar ddatblygiad y gêm, wnaeth o ddim ei stopio.

Roedd timau yn gofyn caniatâd i chwarae gemau i godi arian at achosion da, yn cynnwys ar gaeau oedd ddim yn dod o dan awdurdod y Gymdeithas, fel caeau criced a rygbi a pharciau chwarae.

Er enghraifft, fe wnaeth Marcwis Biwt adael i gêm elusennol gael ei chwarae ar Barc yr Arfau ar 22 Mawrth 1922. Daeth 15,000 i wylio tîm enwog Dick, Kerr Ladies o dref Preston yn erbyn Olympic de Paris o Ffrainc.

Kerr Ladies yn chwarae pêl droedFfynhonnell y llun, Hulton Archive
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth tîm enwog Dick, Kerr Ladies (mewn gwyn yn y llun mewn gêm yn erbyn y Ffrancwyr yn Llundain yn 1925) chwarae nifer o gemau elusennol yng Nghymru yn y degawdau wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf

3. Cryfhau'r gwaharddiad - 1939

Ar drothwy'r Ail Ryfel Byd, cryfhawyd y gwaharddiad gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru - oedd wedi bod yn rhoi caniatâd arbennig i rai gemau elusennol rhwng timau merched.

Mae munudau'r Gymdeithas o 29 Awst 1939 yn ei gwneud hi'n glir na ddylai clybiau, swyddogion, chwaraewyr na dyfarnwyr wneud unrhyw beth gyda gemau rhwng timau merched, o bosib i arbed arian gan fod swyddogion yn hawlio treuliau i fynd i weld rhai o'r gemau merched.

Ddegawdau yn ddiweddarach, pan geisiodd Ken Hughes gael caniatâd y Gymdeithas i gynnal gêm elusennol ar gae pêl-droed y Rhyl yn 1962 derbyniodd lythyr yn gwrthod oherwydd: "We think that football is a man's game and that there is no place for lady players."

4. '1966 and all that'… diddordeb yn cynyddu

Prestatyn LadiesFfynhonnell y llun, Phil Micheu/NWPA
Disgrifiad o’r llun,

Prestatyn Ladies - un o dimau mwyaf llwyddiannus gogledd Cymru yn yr 1970au

Gyda Chwpan y Byd yn cael ei chynnal dros y ffin yn 1966, sefydlwyd nifer o dimau merched mewn ffatrïoedd - er enghraifft Johnson Rangers (Port Talbot) a J.R. Freemans (Caerdydd). Sefydlwyd timau annibynnol hefyd - fel Llanrwst Ladies a Prestatyn Ladies, fyddai'n cael llwyddiant mawr dros y blynyddoedd nesaf.

Ar ddiwedd 1969, sefydlwyd y Ladies Football Association of Great Britain (gafodd ei ailenwi yn Women's Football Association) yn Llundain i weinyddu a hyrwyddo'r gêm - er bod diffyg arian a chefnogaeth yn gyffredinol. Roedd aelodau'r gymdeithas yn dod o Loegr, Iwerddon a Chymru.

5. Pwysau gan FIFA ac agweddau'n dechrau newid - 1970

Mis Mawrth 1970, gofynnodd FIFA - gweinyddwyr y gêm yn rhyngwladol - i'w holl aelodau os oedden nhw'n cydnabod pêl-droed merched. Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru eu bod nhw - er fod eu gwaharddiad yn dal i sefyll tan ddiwedd Mai.

Yna gofynnodd gweinyddwyr y gêm yn Ewrop, UEFA, i'w haelodau gydnabod gêm y merched a sicrhau ei fod yn cael ei reoli'n iawn. Roedd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn fodlon i'r WFA barhau i wneud hynny yng Nghymru. Ar 29 Mai, 1970, fe gafodd y gwaharddiad rhag chwarae ar gaeau aelodau'r gymdeithas ei godi.

6. Cynghrair Cymru a gemau ryngwladol - 1972/73

Cam ymlaen wrth sefydlu Cynghrair Merched Cymru gyda 10 o dimau, ond i gyd yn y de. Yn y gogledd roedd timau fel y Prestatyn Ladies yn chwarae mewn cynghreiriau dros y ffin.

Ac fe sefydlwyd tîm cenedlaethol gyda'r gyntaf mewn nifer o gemau dros y ddegawd nesaf yn cael ei chwarae ar 13 Mai 1973 - yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yn Llanelli. Oherwydd diffyg arian - problem barhaus i gêm y merched - roedd Cymru yn gwisgo crysau wedi eu benthyg gan Abertawe gan mai coch oedd ail liwiau'r Elyrch.

Dechreuodd y gêm gael ei gweinyddu yng Nghymru pan sefydlwyd Wales Women's International Football i wneud gwaith y WFA.

7. Llanedeyrn Ladies… a chwalu Cynghrair Cymru - 1975

Un cam ymlaen, a dau yn ôl…

Sefydlwyd Llanedeyrn Ladies yn 1975 - rhagflaenydd Cardiff City Ladies, tîm sydd wedi meithrin rhai o chwaraewyr gorau Cymru dros y blynyddoedd yn cynnwys Jess Fishlock, Kath Morgan, Gwennan Harries a Loren Dykes.

Llanedeyrn LadiesFfynhonnell y llun, Karen Jones
Disgrifiad o’r llun,

Rhwng newid enw o Llandeyrn Ladies i Cardiff City Ladies, Inter Cardiff oedd enw'r tîm yn 1993. Mae'r sgwad yma o'r flwyddyn honno yn cynnwys cyn chwaraewyr Cymru Karen Jones (golgeidwad), Laura McAllister (penwisg coch) a Michelle Adams (nesaf i'r chwith i Laura McAllister). Mae'r dair wedi chwarae rôl bwysig yn natblygiad y gêm - fel y gwelwch yn rhif naw isod

Ond ar ôl tri mis yn chwarae yng Nghymru roedd yn rhaid i Llanedeyrn Ladies chwarae o fewn system Lloegr wrth i Gynghrair Cymru ddod i ben oherwydd diffyg gemau cystadleuol.

8. Sefydlogrwydd… ond dim arian - 1978 a'r 80au

Ar ôl nifer o reolwyr gwahanol dros gyfnod, ym mis Chwefror 1978 fe wnaeth Ida Driscoll, cadeirydd y WWFI, benodi Sylvia Gore.

Byddai cyn-chwaraewr Lloegr, Manchester Corinthians, Foden a Prestatyn Ladies yn rheoli am gyfnodau am y ddegawd nesaf.

Tîm rhyngwladol Cymru 1979Ffynhonnell y llun, Mai Griffith
Disgrifiad o’r llun,

Sylvia Gore (ar y dde, mewn côt ledr) gyda'r tîm rhyngwladol ar 22 Ebrill 1979 mewn gêm yn erbyn Yr Alban yn Dundee

Roedd arian yn dal yn broblem. Doedd Cymru methu chwarae yn y gystadleuaeth merched gyntaf i UEFA ei threfnu yn 1982/83 oherwydd diffyg arian; fe wnaeth Sylvia Gore fuddsoddi £5,000 o'i harian ei hun yn y gêm ac roedd y chwaraewyr yn aml yn talu i fedru chwarae.

9. Ymuno â'r Gymdeithas - 1992

Gyda thîm y dynion yn llewyrchu o dan Terry Yorath, ac yn agos at gyrraedd Cwpan y Byd, doedd 'na dal ddim diddordeb yng ngêm y merched o fewn Cymdeithas Pêl-droed Cymru

Felly fe ofynnodd y chwaraewyr rhyngwladol Laura McAllister, Michelle Adams a Karen Jones am gyfarfod gydag ysgrifennydd y Gymdeithas, Alun Evans, a lobïo'r Gymdeithas i fod yn gyfrifol am dîm cenedlaethol y merched.

Ar ôl gwylio gêm a thrafod… fe gytunodd, gan ddechrau'r cyfnod modern.

10. Cwpan FA a phencampwriaeth UEFA - 1993

Un o'r pethau cyntaf wnaeth y Gymdeithas oedd dechrau Cwpan FA Merched Cymru gyda'r gêm derfynol yn cael ei chwarae cyn gornest y dynion yn y Stadiwm Genedlaethol fis Mai 1993. Pilkington, Llanelwy (newidiodd i'r Rhyl ar ôl symud yn fuan wedyn) aeth a hi.

Tîm Cymru yn 1993Ffynhonnell y llun, Su Young
Disgrifiad o’r llun,

Dechrau cyfnod newydd - gêm Cymru v Gwlad yr Iâ yn Afon Lido, Port Talbot ar 6 Medi 1993

Penodwyd Lyn Jones (o dîm dynion Inter Cardiff) yn rheolwr ar y tîm cenedlaethol i geisio am le ym mhencampwriaeth UEFA y merched. Fel rhan o'u paratoadau, fis Medi 1993 chwaraewyd gêm gyntaf y cyfnod modern ym Mhort Talbot - gêm gyfeillgar yn erbyn Gwlad yr Iâ. Colli wnaeth Cymru 0-1.

Colli eu gemau nesaf i gyd wnaeth Cymru a methu mynd i'r bencampwriaeth. Roedd ffordd bell i fynd, ond roedd yn gam mawr i'r cyfeiriad iawn.

11. Rheolwr cyflogedig llawn amser ac ymgyrch Cwpan y Byd

O'r diwedd, 2010 a phenodi'r rheolwr cyflogedig llawn-amser cyntaf i dîm merched Cymru - Jarmo Matikainen o'r Ffindir, wnaeth gyflwyno syniadau newydd a chodi ffitrwydd eto.

Un o chwaraewyr mwyaf llwyddiannus Cymru, Jayne Ludlow, wnaeth gymryd yr awenau yn 2015, ac roedd hi'n gyfrifol am 53 gêm gan ddod yn agos i gyrraedd Cwpan y Byd 2019 ac Ewro 2021.

Fe wnaeth Gemma Grainger gymryd yr awennau ar gyfer ymgyrch Cwpan y Byd 2023, a boddi wrth ymyl y lan ar ôl mynd â Chymru i rownd derfynol y gemau ail gyfle ar gyfer Cwpan y Byd 2023, cyn colli yn erbyn y Swistir.

Wedi iddi hi adael yn annisgwyl i reoli Norwy fe benodwyd Rhian Wilkinson, sy'n dod o Ganada ond gyda'i gwreiddiau yng Nghymru a dechrau ar yr ymgyrch nesa... Euro 2025.

12. Creu hanes - Euro 2025

Tim merched Cymru yn dathluFfynhonnell y llun, PA Wire
Disgrifiad o’r llun,

Dathlu cyrraedd Euro 2025 gyda buddugoliaeth yn Nulyn yn 2024

Roedd 3 Rhagfyr 2024 yn ddiwrnod hanesyddol i bêl-droed Cymru wrth i dîm y merched gyrraedd pencampwriaeth fawr am y tro cyntaf yn eu hanes.

Gyda lle yn Euro 2025 yn y fantol, fe lwyddodd Cymru i ddal eu gafael yn arwrol yn y munudau olaf yn Stadiwm Aviva, Dulyn, i guro Gweriniaeth Iwerddon.

Ac roedd yn noson llawn hapusrwydd ac emosiwn wrth i'r Cymry ddathlu llwyddiant y sgwad bresennol a'r holl bobl fu'n brwydro ers degawdau am degwch.

Ac ar 5 Gorffennaf fe fydd tîm Rhian Wilkinson, gafodd eu rhoi yn y grŵp anoddaf gyda'r Iseldiroedd, Ffrainc a Lloegr, yn chwarae eu gêm gyntaf.

Bydd miloedd o Gymry yn eu cefnogi yn y Swistir a nôl adref a'r ffaith bod y tîm wedi cyrraedd y bencampwriaeth yn hwb enfawr i'r gêm fydd yn cael effaith ar genedlaethau o blant a phobl ifanc.

  • Cyhoeddwyd fersiwn o'r erthygl yma yn wreiddiol yn 2022.