Eglwys yn cynnig cinio a chwmni i'r rhai sy'n unig dros yr ŵyl

Llun o set bwrdd
Disgrifiad o’r llun,

Mae pawb sy'n mynd i'r digwyddiad yn cael cinio dau gwrs, anrheg Nadolig a bag o nwyddau pantri i fynd adref gyda nhw

  • Cyhoeddwyd

Mae eglwys yn Aberdâr yn cynnal digwyddiad arbennig ddydd Nadolig ar gyfer pobl fyddai, fel arall, yn treulio'r diwrnod ar eu pen eu hunain.

Dyma fydd y degfed tro i Company at Christmas gael ei gynnal gan Eglwys Sain Ffagan.

Maen nhw'n cynnig cinio Nadolig, adloniant a chludiant i'r rhai sy'n dymuno bod yn rhan o'r diwrnod - a hynny i gyd yn rhad ac am ddim.

Yn ôl un o'r trefnwyr, mae'r digwyddiad wedi tyfu bob blwyddyn diolch i roddion a gwaith caled y gwirfoddolwyr.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Carolyn Walton yn rhan o'r digwyddiad cyntaf nôl yn 2015

Roedd Carolyn Walton, 63 o Aberdâr, yn y digwyddiad cyntaf gyda'i mam 10 mlynedd yn ôl a bellach yn rhan o'r criw sy'n trefnu'r cyfan.

"Doedd gen i a fy niweddar fam unrhyw le arall i fynd, felly roeddem yn meddwl y bydde ni'n rhoi cynnig arni. Ar ôl hynny, rwy'n gwirfoddoli ac yn dod bob blwyddyn," meddai.

Dechreuodd y digwyddiad yn 2015 ar ôl i ddyn ofyn i'r eglwys a oedd unrhyw un yn gallu darparu cinio ar ei gyfer.

"Roedden ni'n meddwl, wel os yw e yn gofyn, mae'n siŵr y bydd eraill yn treulio'r diwrnod ar eu pen eu hunain hefyd," meddai Ms Walton.

Cafodd y cyntaf ei gynnal yn Neuadd yr Eglwys ond wrth i niferoedd gynyddu dros y blynyddoedd, mae'r digwyddiad wedi symud i'r ysgol leol, Ysgol Uwchradd Ioan Fedyddiwr yr Eglwys yng Nghymru.

'Ni wedi tyfu bob blwyddyn'

Roedd 40 o bobl yn y digwyddiad yn 2015, ond eleni fe fydd y criw yn darparu cinio i 130 o bobl.

"Ni wedi tyfu bob blwyddyn, ond ry' ni'n dibynnu ar roddion a phobl yn rhoi eu hamser," meddai.

Eleni mae ganddyn nhw 50-60 o wirfoddolwyr, sy'n cynnwys 15 o yrwyr, ac mae cwmni bysiau mini lleol yn darparu tri bws mini a gyrrwr i sicrhau bod pawb yn gallu mynd a dod yn ddiogel.

Ond mae'r trefnwyr wedi gorfod sefydlu tudalen codi arian ar-lein am y tro cyntaf eleni oherwydd diffyg arian.

Disgrifiad o’r llun,

Eleni fydd yr eildro i Gordon Evans fynd i Company at Christmas

Daeth Gordon Evans, 64 sy'n byw yng Nghwmaman, i'r digwyddiad am y tro cyntaf y llynedd, ac mae'n bwriadu mynd eto eleni.

"Doeddwn i ddim yn gwybod ei fod yn bodoli, soniodd rhywun amdano a meddyliais a ydw i am gysgu trwy ddiwrnod Nadolig arall ar ben fy hun, neu ydw i am roi cynnig arni," meddai.

Dywedodd Gordon ei fod yn "eithaf nerfus" am fynd.

"Am ddau reswm, mynd ar eich pen eich hun a chwrdd â dieithriaid a hefyd y cywilydd o fod ar eich pen eich hun ar ddydd Nadolig, rydych chi'n teimlo'n rhyfedd am y peth."

Ffynhonnell y llun, Company at Christmas
Disgrifiad o’r llun,

Roedd neuadd yr ysgol yn llawn ar ddydd Nadolig y llynedd

Mae Sarah Kochalski a'i theulu yn gwirfoddoli yn y digwyddiad ac mae hi'n ei weld fel cyfle iddyn nhw fwynhau'r diwrnod gyda'i gilydd.

"Mae fy mab yn chwarae'r piano yn y cefndir a fi a'r ferch yn helpu i gyfarch pobl a gweini bwyd," meddai.

Ychwanegodd fod ei phlant yn ddisgyblion yn yr ysgol a bod helpu criw Company at Christmas yn ffordd hyfryd o "roi yn ôl" i'r ysgol.

Mae Peta Maidman yn gwirfoddoli yn y gegin, ac yn dweud ei bod yn crio bob blwyddyn oherwydd yr holl emosiwn.

"Mae'n drist mewn ffordd bod cymaint o bobl ar ben eu hunain ond mae'n anhygoel ein bod ni'n gallu cynnig seibiant bach ar ddydd Nadolig i unrhyw un sydd ei angen mewn gwirionedd," meddai.

Dywed Angela Clark o Aberdâr, sydd wedi bod yn helpu ers y digwyddiad cyntaf, ei bod hi wedi sylweddoli'n fuan iawn fod pobl eisiau "cwmni dros y Nadolig".

"Mae pobl yn dweud wrtha i 'pe na bawn i'n dod yma fyddwn i ddim yn siarad ag enaid nac yn gweld unrhyw un'.

"Rydyn ni wedi cael plentyn 1 oed a pherson 101 oed ar yr un bwrdd, mae'n giplun go iawn o fywyd," ychwanegodd.

Pynciau cysylltiedig