Rheithgor yn ystyried dyfarniad yn achos trywanu Ysgol Dyffryn Aman
- Cyhoeddwyd
Mae rheithgor yn ystyried a yw merch yn ei harddegau a drywanodd tri pherson mewn ysgol yn Sir Gaerfyrddin yn euog neu'n ddieuog o geisio llofruddio.
Cafodd yr athrawon Fiona Elias a Liz Hopkin, yn ogystal â disgybl yn Ysgol Dyffryn Aman yn Rhydaman, eu cludo i'r ysbyty ar ôl cael eu trywanu ar 24 Ebrill.
Mae'r ferch, na allwn ni ei henwi oherwydd ei hoedran, wedi cyfaddef trywanu ond mae'n gwadu ceisio llofruddio.
Yn ei araith grynhoi, dywedodd bargyfreithiwr yr erlyniad, William Hughes KC, fod "pwrpas a grym" i ymosodiad "ffyrnig" y ferch.
Dywedodd bod y lluniau CCTV o'r ymosodiadau gafodd eu dangos i'r rheithgor yn "annifyr a phryderus".
Cyfeiriodd at nodiadau ysgrifenedig a oedd ym mag ac ystafell wely'r ferch, a oedd yn dweud pethau fel "pam ydw i eisiau lladd eraill gymaint ag yr wyf am ladd fy hun", a "Rydw i'n mynd i gyflawni trosedd oes".
"Mae'n un peth i ysgrifennu rhywbeth, ond yn beth arall i wneud beth chi wedi ysgrifennu lawr," meddai Mr Hughes KC.
"Dywedodd y ferch wrth ddisgybl arall ei bod yn casáu Ms Elias ac eisiau ei lladd.
"Dywedodd wrth un arall y byddai'n gwneud rhywbeth twp a fyddai'n ei harwain at gael ei diarddel."
Ar gyfer yr amddiffyniad, dywedodd Caroline Rees KC wrth y rheithgor eu bod "efallai'n teimlo syndod ac arswyd" am y digwyddiad.
Ond fe ddylen nhw "benderfynu ar yr achos yma gyda'u pen ac nid eu calon", meddai.
"Mae hi wedi derbyn ei heuogrwydd drwy bledio'n euog i gario cyllell a thri chyhuddiad o glwyfo gyda bwriad," meddai Ms Rees KC.
“Peidiwch ag anghofio mai plentyn yn unig yw hi.
"Plentyn cythryblus ac anhapus oedd y ferch honno ar y teledu cylch cyfyng a oedd yn 13 oed ar y pryd.”
Gofynnodd i'r rheithgor ystyried a oedd y darlun gafodd ei ddarganfod o Ms Elias o'r enw 'Mrs Frogface Elias' yn arwydd o ferch ifanc "anaeddfed".
Roedd yr amddiffyniad yn dadlau bod sylw'r ferch o "fod yn enwog" yn dilyn yr ymosodiad yn dangos "merch yn sylweddoli beth mae hi wedi ei wneud a pha mor ddifrifol ydyw".
"Nid drama ysgol deledu yw hon, dyma fywyd go iawn, gyda phobl go iawn wrth ei wraidd," meddai Ms Rees KC.
Crynhodd y Barnwr Paul Thomas y dystiolaeth a gafodd ei glywed yn y llys, gan atgoffa'r rheithgor o fanylion yr ymosodiadau ar Ms Elias, Ms Hopkin a'r disgybl.
Roedd y ferch wedi dweud wrth y rheithgor nad oedd hi'n bwriadu defnyddio'r gyllell y diwrnod hwnnw, meddai.
Mae'r ferch yn ei harddegau yn cyfaddef iddi drywanu tri o bobl ac o fod â chyllell yn ei meddiant yn yr ysgol, ond mae'n gwadu ceisio llofruddio.
Mae’r rheithgor nawr yn ystyried eu dyfarniad ac mae'r achos yn parhau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Hydref
- Cyhoeddwyd12 Awst