Merch wnaeth drywanu tri pherson yn cario cyllell ers yr ysgol gynradd

Ysgol Dyffryn AmanFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae merch wnaeth drywanu tri pherson yn Ysgol Dyffryn Aman wedi cyfaddef mynd â chyllell i’r ysgol ers iddi fod yn yr ysgol gynradd

  • Cyhoeddwyd

Rhybudd: Mae'r stori hon yn cynnwys cyfeiriadau at hunan niweidio

Mae merch wnaeth drywanu dwy athrawes a disgybl yn Ysgol Dyffryn Aman wedi cyfaddef mynd â chyllell i’r ysgol ers iddi fod yn yr ysgol gynradd.

Mae'r ferch 14 oed, na ellir ei henwi am resymau cyfreithiol, wedi bod yn rhoi tystiolaeth yn yr achos yn ei herbyn.

Cafodd Liz Hopkin, Fiona Elias a disgybl eu trywanu amser egwyl yn Ysgol Dyffryn Aman ar 24 Ebrill eleni.

Mae’r ferch yn cyfaddef trywanu ond yn gwadu tri chyhuddiad o geisio llofruddio.

Wrth gael ei holi gan Caroline Rees KC ar ran yr amddiffyniad, dywedodd y diffynnydd iddi deimlo’n “bryderus” a’n “ofnus” yn Ysgol Dyffryn Aman am ei bod hi'n cael ei bwlio.

Ffynhonnell y llun, Gwasanaeth Erlyn y Goron
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd lluniau'r gyllell a gafodd ei defnyddio i ymosod ar yr athrawon a'r disgybl eu dangos i'r llys

Wrth siarad yn Llys y Goron Abertawe, dywedodd y ferch iddi niweidio ei hun gyda chyllell ers iddi fod yn ddisgybl ym mlwyddyn tri yn yr ysgol gynradd.

Ychwanegodd iddi fynd â chyllell i Ysgol Dyffryn Aman “drwy’r amser” am ei bod hi ofn plant eraill.

Dywedodd nad oedd hi wedi bwriadu defnyddio’r gyllell i niweidio pobl eraill.

Clywodd y rheithgor i Fiona Elias ganfod cyllell ym mag y diffynnydd ym Medi 2023.

Cafodd y diffynnydd ei diarddel am wythnos ac o ganlyniad i hynny ac ar ôl dychwelyd i'r ysgol, byddai tad y diffynnydd yn chwilio am gyllell yn ei bag bob bore.

Yn sgil hynny, dywedodd y ferch iddi ddechrau mynd â chyllell yn ei phoced.

Ffynhonnell y llun, Lluniau teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr athrawon Liz Hopkin (chwith) a Fiona Elias (dde) eu hanafu yn yr ysgol ar 24 Ebrill

Ychwanegodd y ferch nad oedd hi'n hoffi ei hathrawes, Fiona Elias.

Dywedodd wrth y rheithgor ei bod yn “dymuno iddi gael niwed” gan ychwanegu na fyddai "fyth yn dymuno unrhyw un i farw”.

Wrth gael ei chwestiynu, dywedodd nad oedd hi’n adnabod Liz Hopkin.

Wrth gyfeirio at y disgybl a gafodd ei thrywanu fe ddywedodd y ferch ei bod wedi ysgrifennu geiriau cas amdani mewn darluniau, ar ôl digwyddiad wnaeth ei gwylltio wythnos neu ddwy ynghynt.

Ychwanegodd nad oedd hi eisiau anafu na ladd y disgybl.

Disgrifiad,

Cafodd y fideo CCTV yma o'r digwyddiad ei ddangos i'r llys

Ar ddiwrnod yr ymosodiadau dywedodd iddi roi’r gyllell yn ei phoced cyn gadael y tŷ.

Byddai’n cadw’r gyllell o dan ei gwely heb i’w theulu wybod gan ychwanegu nad oedd unrhyw un wedi edrych yn ei bag y bore hwnnw.

Dywedodd ei bod “wedi blino, yn grac ac mewn hwyliau gwael” ar fore 24 Ebrill.

Dywedodd y ferch iddi ddechrau ei mislif y diwrnod hwnnw ac aeth yn “fwy crac” trwy gydol y bore.

Cadarnhaodd y ferch ei bod yn neuadd yr ysgol y bore hwnnw heb ganiatâd athro, pan ofynnodd Fiona Elias iddi adael.

Ychwanegodd nad oedd hi’n bwriadu anafu unrhyw un “i ddechrau” yn Ysgol Dyffryn Aman.

Mae’r ferch 14 oed wedi cyfaddef trywanu tri ond yn gwadu ceisio llofruddio.

Wrth gael ei chwestiynu gan Caroline Rees KC, dywedodd y diffynnydd ei bod gyda chriw o ffrindiau yn neuadd yr ysgol, heb ganiatâd, funudau cyn yr ymosodiadau.

Wrth sôn am fideo CCTV oedd yn dangos iddi chwarae gyda chyllell yn ei phoced, dywedodd y ferch: “Pan dwi’n mynd yn grac neu’n nerfus dwi’n dueddol o ffidlan gydag e”.

Cadarnhaodd y ferch bod Fiona Elias wedi gofyn iddi adael.

Ychwanegodd ei bod hi’n teimlo’n “grac” ond nad oedd hi eisiau niweidio Fiona Elias ar yr adeg hynny.

'Roeddwn i'n grac iawn'

Yn ôl y ferch wnaeth hi fyth fygwth trywanu Ms Elias wrth ei ffrindiau, ond yn hytrach yn dweud ei bod hi am ei “slapio”.

“Roeddwn i’n mynd yn grac iawn ar y pwynt yma.”

Yn ôl tystion dywedodd y ferch wrth ei ffrindiau ei bod yn mynd i wneud rhywbeth byddai’n arwain at gael ei diarddel.

Dywedodd: “Roeddwn i’n meddwl i’n hun os o’n i’n mynd i fwrw athro bydden i’n cael fy niarddel.”

Gofynnodd y barnwr Paul Thomas os oedd y ferch yn bwriadu ymosod yn gorfforol ar Fiona Elias, ac fe atebodd y ferch: “Oeddwn”.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr ysgol ei chau wedi'r digwyddiad ar 24 Ebrill eleni

Dywedodd iddi gerdded tuag at Fiona Elias a Liz Hopkin yn bwriadu bwrw Ms Elias gyda’i dwylo.

Clywodd y rheithgor y ferch yn disgrifio sut y gwnaeth hi a Ms Elias drafod y neuadd a gwisg ysgol y ferch.

Dywedodd nad oedd hi’n cofio pam iddi dynnu’r gyllell allan o’i phoced.

“Dwi’n cofio symud ymlaen tuag at Ms Elias,” meddai.

Pan ofynnwyd iddi pam iddi wneud hynny, atebodd y ferch: "Sai'n cofio, sai'n gwybod, mae'n ddrwg gennai."

Aeth y ferch ymlaen i egluro: “Dwi’n cofio meddwl i’n hun ‘beth wyt ti’n gwneud, stopia’. Ond dwi ddim yn cofio gweld unrhyw beth."

Clywodd y rheithgor i’r ferch ddweud wrth Fiona Elias: “Dwi’n mynd i dy f****g lladd di."

Mae’r diffynnydd yn dweud nad yw hi’n cofio dweud hyn.

'Panig ac ofn'

Wrth i Caroline KC ofyn sut mae hi'n edrych yn ôl ar y digwyddiad, dywedodd y ferch 14 oed: “Dwi methu, mae jest yn dywyll.” Ychwanegodd: “Dwi’n cofio bod yn boeth iawn."

Dywedodd iddi deimlo “panig ac ofn” a’i bod yn crynu wrth i Darrel Campbell a Stephen Hagget geisio’i thawelu.

"Rwy'n cofio teimlo'n flinedig iawn, yn ofnus ac mewn panig."

Yn ôl y diffynnydd fe redodd at ei ffrind roedd hi’n ymddiried ynddi a bod ei ffrind wedi dweud: “Meddylia am dy dad, meddylia am dy deulu."

Clywodd y rheithgor iddi adnabod llais y disgybl iddi drywanu ar yr iard, a sgrechiodd “[enw’r disgybl], ti sy’ nesa”.

Fe ofynnodd y barnwr wrthi: “Nesaf i beth?” Ateb y ferch oedd: “Dwi ddim yn gwybod”.

Am 11:21 cafodd ei rhwystro gan Mr Campbell a’i thywys i swyddfa Mr Ceri Myers.

Dywedodd y ferch i’r rheithgor ei bod yn teimlo “rhyddhad” ar yr adeg yma, “Doedd dim byd ar fy meddwl bellach”.

Esboniodd: “Doeddwn i ddim yn sylwi beth o'n i wedi ei wneud, roedd fy stumog yn brifo.”

Yn ôl y ferch fe sylweddolodd beth oedd wedi digwydd tra'r oedd yng nghefn y cerbyd heddlu.

Dywedodd: “Doeddwn i ddim yn becso erbyn y pwynt yma” ac ychwanegodd ei bod hi’n teimlo’n “euog”.

Yn gynharach yn yr achos fe glywodd y rheithgor ddeunydd camera corff swyddog heddlu, oedd yn dangos iddi ddweud “oopsies” wedi iddi gyfaddef trywanu disgybl.

Dywedodd: “Doeddwn i ddim yn bwriadu dweud “oopsies” fel byddai rhai yn cymryd e, o’n i’n golygu mod i’n gwybod mod i wedi f****o lan.”

Wrth gael ei chwestiynu am drywanu disgybl dywedodd ei bod hi’n teimlo’n “ofnadwy”.

Dywedodd nad oedd hi eisiau’r tri i farw, ychwanegodd: “Dwi’n difaru sut nes i ymddwyn y diwrnod hwnnw, bydden i’n gwneud unrhyw beth i fynd yn ôl.”

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r achos yn cael ei gynnal yn Llys y Goron Abertawe

Ar ran yr erlyniad fe holodd William Hughes KC y ferch ynglŷn â darluniau gafodd eu canfod yn ei bag ysgol a’i hystafell wely.

Wrth gyfeirio at ddarlun oedd yn dweud: “Dwi eisiau gwneud rhywbeth mae pobl ddim fod i wneud”, dywedodd y ferch ei bod yn bwriadu lladd ei hun ar adeg ysgrifennu’r geiriau.

Roedd rhai darluniau yn cyfeirio at droseddu, dywedodd wrth y rheithgor ei bod yn grefyddol, a byddai’n ystyried hunanladdiad yn drosedd.

Doedd hi ddim eisiau lladd unrhywun arall, meddai.

Mewn darlun arall gyda’r teitl “Pethau amdanaf i”, dywedodd: “Pam dwi eisiau lladd eraill gymaint a dwi eisiau lladd fy hun”.

Nid oedd yn cofio pryd wnaeth hi ysgrifennu hyn, meddai.

Dywedodd ei bod hi’n golygu hyn “fel mwy o derm seicolegol” gan ychwanegu “fy mod i’n teimlo mod i’n niweidio eraill trwy fodoli”.

Yn ôl y ferch doedd neb arall yn gwybod ei bod yn niweidio’i hun.

'Sut oeddwn i’n teimlo ar y pryd'

Fe ofynnodd William Hughes KC os oedd hi’n casáu Fiona Elias, atebodd “Ie”, ond gwadodd ei bod eisiau ei lladd.

Roedd darlun arall yn cyfeirio at y disgybl wnaeth hi drywanu yn llosgi, dywedodd y ferch bod hyn yn "fynegiant o sut oeddwn i’n teimlo ar y pryd".

Fe ofynnodd William Hughes KC pam wnaeth hi barhau i fynd â chyllell i’r ysgol ar ôl iddi gael ei diarddel ym Medi 2023. Ymatebodd: “Doeddwn i ddim yn ymddiried yn y system, na phobl.”

Dywedodd nad oedd hi’n bwriadu trywanu Fiona Elias pan adawodd y tŷ'r bore hwnnw.

Wrth gael ei holi am yr ymosodiadau, wnaeth y ferch gadarnhau bod Fiona Elias wedi gofyn iddi beth oedd yn ei phoced, ond dydy hi ddim yn cofio tynnu’r gyllell allan.

Ni aeth y diffynnydd ymlaen i ailadrodd nad oedd hi’n cofio’r trywanu.

Mae'r achos yn parhau.