Dynes o Fôn mor falch o'r 'arwr' roddodd ei organau i bedwar arall
Dywedodd Delyth Owen ei bod hi'n ofnadwy o falch o benderfyniad Macauley i roi ei organau
- Cyhoeddwyd
Mae dynes o Ynys Môn yn dweud ei bod hi'n "ofnadwy o proud" o'i diweddar bartner, ac mae gwybod fod "rhan fach ohono yn dal i fynd yn rhywle yn gysur mawr".
Bu farw Macauley Owen, 26, mewn damwain ar fferm ym mis Ionawr 2023, ond mae Delyth Owen yn dweud ei fod yn "dal i fyw ymlaen" wedi i'w organau gael eu rhoi i bedwar o bobl.
Dywedodd Delyth fod Macauley wedi achub pedwar bywyd, ond ei fod o hefyd wedi cael effaith enfawr ar deuluoedd y bobl hynny hefyd, "mae o’n rhywbeth arbennig" meddai.
Bellach, mae Delyth yn annog pobl eraill i drafod y mater gyda'u hanwyliaid, wrth i ffigyrau ddangos mai Cymru sydd â'r gyfradd isaf o wledydd y DU o ran pobl sydd wedi rhoi caniatâd i roi organau.

Bu farw Macauley Owen wedi damwain wrth weithio ar fferm yn 2023
Cafodd Macauley Owen ei anafu yn ddifrifol ar ôl i gefn trelar agor a'i daro yn ei ben ar 3 Ionawr 2023, gan achosi anafiadau difrifol i'w ymennydd a'i frest.
Bu farw dridiau yn ddiweddarach ar 6 Ionawr - pen-blwydd Delyth.
Pan ddaeth yn glir nad oedd Macauley am oroesi, fe wnaeth nyrsys arbenigol drafod y posibilrwydd o roi organau gyda'i rieni a Delyth.
Doedd y mater ddim yn rhywbeth yr oedden nhw wedi ei drafod yn y gorffennol, ond heb iddyn nhw wybod, roedd Macauley wedi arwyddo'r gofrestr rhoi organau.
'Dy fywyd yn newid mewn eiliad'
"Fe ddaeth y doctor trwodd ac egluro’n union beth oedd yr anafiadau, ac wedyn oedd na specialist nurse yna a 'naeth hi ddechrau sôn am yr organ donation… dweud wrthon ni bod Macauley di arwyddo’r register dwywaith a gofyn be oedd ein teimladau ni fel teulu," meddai Delyth.
"Mae’r ffaith ei fod o wedi arwyddo’r rhestr dwywaith ohono ei hun… i fi ac i’w deulu fo, oeddan ni’n teimlo bod o’n rhywbeth oedd o’n hapus i’w wneud.
"Mi oedd o’n ymwybodol o be' oedd o wedyn... ac mi oedd o jyst yn gwneud y penderfyniad ychydig bach yn haws.
"Ti mewn stafell yn cael y newyddion mwyaf afiach ac mae dy fywyd di i gyd yn newid mewn eiliad… ti’m yn gwybod pa ddiwrnod ydy hi na’m byd, wedyn i orfod gwneud y ffasiwn benderfyniad mewn ffasiwn sefyllfa.
"Mae o’n anodd, ond mae’r ffaith bod o ar y rhestr - oedd o jyst yn gwneud y penderfyniad yna yn haws i ni fel teulu."

Cafodd organau Macauley eu rhoi i bedwar o gleifion eraill, ac fe wnaeth un o'r bobl hynny gysylltu â Delyth er mwyn diolch.
Dywedodd "nad oes geiriau i allu diolch yn ddigonol am yr hyn wnaethoch chi i mi" a bod "pobl fel chi yn gwbl ysbrydoledig".
Ychwanegodd y person ei bod yn gwella ac yn cryfhau bob dydd, ac y byddai wastad yn cadw Delyth a'i theulu yn ei meddyliau.
Eglurodd Delyth fod y llythyr yn rhywbeth mae hi'n ei drysori.
"Mi oedd hi'n fam oedd wedi bod yn rhy sâl i fedru chwarae gyda'i phlentyn.
"Mae hi'n sôn am sut wnaeth yr organ ei gwneud yn gryfach, yn iachach a bod hi bellach yn gallu gwneud pethau fel mam arferol... felly mewn ffordd, mae Macauley wedi achub, neu wedi gwella dau fywyd yn yr achos yma."
Ychwanegodd: "Pedwar o’i organau gafodd eu rhannu, felly pedwar bywyd, ond dwi’n teimlo bod teuluoedd y bobl yma hefyd wedi elwa… felly pedwar bywyd ond pedwar teulu hefyd."
- Cyhoeddwyd16 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd22 Medi 2024
Fel rheol, mae tua 1% o bobl sy'n marw yn y DU bob blwyddyn yn gallu rhoi eu horganau wedi iddyn nhw farw.
Mae'r gyfradd - o ran pobl sydd wedi rhoi caniatâd i roi organau ar ôl cael eu holi - yn 56% yng Nghymru, 60% yn Lloegr, 61% yn Yr Alban a 66% yng Ngogledd Iwerddon.
Rhwng 1 Ebrill 2023 a 31 Mawrth eleni, fe wnaeth 154 o bobl yng Nghymru dderbyn organ gan roddwr, tra bod 65 o bobl wedi rhoi eu horganau ar ôl marw.
Ar hyn o bryd mae 270 o bobl ar y rhestr aros am drawsblaniad yng Nghymru.
Ers 2015, mae pob oedolyn sydd wedi byw yng Nghymru am dros flwyddyn yn cael ei ystyried yn barod i roi organau, oni bai ei fod yn datgan gwrthwynebiad.
Ond, fe allai'r penderfyniad terfynol gael ei wneud gan deuluoedd os nad yw dymuniadau'r unigolyn yn glir.

Dydy pawb ddim o reidrwydd yn deall y drefn rhoi organau, meddai Phil Jones, ond mae o'n credu bod y mwyafrif yn ymwybodol ei fod wedi newid
Yn ôl Phil Jones, nyrs arbenigol ym maes rhoi organau, mae'r cyfraddau yn y gogledd "ychydig yn isel ar hyn o bryd", a dywedodd bod difaterwch o bosib wrth wraidd hynny.
"Mae hynny'n rhywbeth sy'n codi wrth siarad gyda theuluoedd - yn enwedig yng Nghymru," meddai.
"Mi oedd yna ymgyrch hysbysebu mor gryf ar ôl cyflwyno'r drefn yn 2015.
"Dwi'n teimlo bod angen mynd yn ôl i'r arfer o rannu'r wybodaeth yma gyda'r cyhoedd eto, ac yn egluro pa mor bwysig ydy hi i deuluoedd siarad am farwolaeth, am farw, ac am roi organau."
'Mi oedd o'n arwr'
Mae Delyth yn rhan o dîm fydd yn dringo'r Wyddfa yn ystod wythnos rhoi organau (23-29 Medi) er mwyn codi ymwybyddiaeth, ac mae hi'n annog pobl i arwyddo'r gofrestr ac i drafod y mater gyda ffrindiau a theulu.
"Fyswn i jyst yn dweud, os ydy o’n rhywbeth 'da chi’n meddwl 'neud, i jyst sgwrsio efo’ch teulu a’ch ffrindiau a dweud bod o’n rhywbeth 'da chi’n fodlon ac yn hapus i wneud petai rywbeth yn digwydd," meddai.
"Achos pan 'da chi mewn sefyllfa fatha oedda' ni fel teulu yn y stafell fach 'na yn derbyn newyddion ofnadwy… oedd o jyst yn gwneud y penderfyniad yna yn haws."
Wedi marwolaeth Macauley fe wnaeth Delyth dderbyn calon aur - rhywbeth y mae teuluoedd pob person sy'n rhoi organau yn ei gael.
"Dwi wrth fy modd yn ei wisgo, a pan mae pobl yn gofyn 'be 'di hwnna?' dwi wrth fy modd yn dweud: mi oedd o'n arwr."