Heddlu yn ailagor ymchwiliad i Aelod Ceidwadol o'r Senedd
- Cyhoeddwyd
Mae BBC Cymru ar ddeall bod Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i aelod Ceidwadol o'r Senedd, er eu bod wedi penderfynu cau'r achos yn wreiddiol.
Mae Laura Anne Jones yn destun ymchwiliad ar ôl i negeseuon ddod i'r amlwg, oedd yn ymddangos fel pe bai'n gofyn i weithiwr wneud y mwyaf o'i hawliadau treuliau.
Yn ôl ffynhonnell, roedd yr heddlu wedi penderfynu na fyddai unrhyw gamau pellach yn cael eu cymryd yn erbyn yr aelod, oherwydd nad oedd tystiolaeth o ddrwgweithredu.
Ond rydyn ni'n deall bod gwybodaeth newydd wedi dod i'r amlwg sy'n golygu bod yr achos yn erbyn Ms Jones yn dal ar agor a'i bod hi'n parhau dan ymchwiliad.
Roedd Ms Jones wedi dweud y byddai'n cydweithio'n llawn gydag unrhyw ymchwiliad pan gafodd y stori wreiddiol ei chyhoeddi.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru "nad oedd y llu yn gallu rhoi diweddariad ar hyn o bryd."
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd16 Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd17 Mai 2024
Mae llefarydd ar ei rhan yn dweud bod “Laura wastad wedi gwadu’r honiadau yn ei herbyn".
“Mae hi wedi parhau i weithio fel arfer yn y Senedd ac yn ei rhanbarth, ac mae hi allan yn gweithio i’w hetholwyr heddiw."
Mae BBC Cymru wedi gweld negeseuon testun am dreuliau o ffôn Ms Jones, lle mae'n ymddangos iddi ddweud wrth aelod o'i staff: "Wrth wneud y peth petrol - gwnewch fwy nag oeddwn i bob tro - ychwanegwch stwff i mewn os gwelwch yn dda ok."
Doedd cyd-destun y negeseuon WhatsApp ynglŷn â'i threuliau ddim yn amlwg.
Dywedodd cyfreithiwr ar ei rhan ar y pryd bod "unrhyw honiadau mewn perthynas ag amhriodoldeb ynghylch treuliau yn cael eu cam-dybio yn llwyr".
Mae Ms Jones - Aelod dros Ddwyrain De Cymru - dan ymchwiliad ar hyn o bryd gan y Comisiynydd Safonau Douglas Bain a Heddlu De Cymru.
Yn ôl yr heddlu, y comisiynydd safonau - sy'n gyfrifol am ymchwilio i gwynion yn erbyn aelodau'r Senedd - oedd wedi cyfeirio'r gŵyn atyn nhw.
Y gred ydy bod ymchwiliad y comisiynydd safonau wedi’i ohirio tra bod ymchwiliad yr heddlu’n cael ei gynnal.
Mae arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies, wedi gofyn i Ms Jones gamu'n ôl o'i rôl yn ei gabinet tra bod yr ymchwiliad yn cael ei gynnal, ond mae hi’n parhau i fod yn rhan o grŵp y Ceidwadwyr yn y Senedd.