Cyhuddo Mark Drakeford o dorri’r cod gweinidogol
- Cyhoeddwyd
Mae Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, wedi’i gyhuddo o dorri’r cod gweinidogol drwy wneud sylw gwleidyddol mewn datganiad ar wefan Llywodraeth Cymru.
Ar ddiwrnod Cyllideb llywodraeth y Deyrnas Unedig, cafodd datganiad ei gyhoeddi yn enw'r ysgrifennydd cyllid yn dweud ei fod yn nodi "y camau cyntaf i'r cyfeiriad cywir ar ôl 14 mlynedd o gamreoli economaidd gan lywodraethau blaenorol y DU".
Yn ôl yr Aelod Ceidwadol o'r Senedd, Laura Anne Jones, mae cyhoeddi "datganiad gwleidyddol o'r fath ar wefan sy'n cael ei hariannu'n gyhoeddus, ac sy'n cael ei rheoli gan weision sifil" yn mynd yn erbyn y cod ymddygiad ar gyfer gweinidogion.
Mae llefarydd ar ran y llywodraeth wedi ymateb gan ddweud bod gan “Weinidogion Cymru yr hawl i fynegi eu barn am weithredoedd llywodraethau eraill ar draws y Deyrnas Unedig, a’r cyd-destun y maen nhw’n gwneud eu penderfyniadau”.
Mae aelod Dwyrain De Cymru wedi codi’r mater gyda’r prif weinidog ac wedi gofyn i Eluned Morgan i gael cyngor ynghylch a yw'r cod wedi ei dorri neu beidio.
Yn ei llythyr mae Ms Jones yn dweud bod y datganiad i’w weld yn mynd yn groes i ganllawiau’r llywodraeth ac mae'n nodi “y dylai cyfathrebu fod yn wrthrychol ac yn esboniadol, gan osgoi rhagfarn neu dôn feirniadol a allai danseilio perthnasoedd adeiladol gyda'r gwrthbleidiau”.
Mae’n rhaid i weinidogion Cymru ddilyn y cod ymddygiad ac mae'n dweud “y dylai cyfathrebu’r llywodraeth geisio egluro penderfyniadau llywodraeth y dydd mewn ffordd gytbwys a gwrthrychol.
"Ni ddylai cyfathrebu'r llywodraeth ymosod ar grwpiau a allai wrthwynebu penderfyniad neu bolisi na bod yn feirniadol ohonynt".
- Cyhoeddwyd30 Hydref
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd
Roedd datganiad Drakeford, a gafodd ei bostio ar wefan Llywodraeth Cymru gan weision sifil, yn canmol cyhoeddiad y Canghellor fel cam cyntaf tuag at "atgyweirio'r difrod a achoswyd dros y 14 mlynedd diwethaf gan lywodraethau blaenorol y DU".
Dywedodd hefyd ei fod "yn nodi'r camau cyntaf i'r cyfeiriad cywir ar ôl 14 mlynedd o gamreoli economaidd gan lywodraethau blaenorol y DU a'r effaith y mae ei benderfyniadau wedi'i chael ar bobl a chymunedau".
Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth fod “gan weinidogion Cymru’r hawl i fynegi eu barn ar weithredoedd llywodraethau eraill ar draws y Deyrnas Unedig, a’r cyd-destun y maen nhw’n gwneud eu penderfyniadau.
“Bydd yr aelod yn cael ymateb i’w llythyr maes o law.”