Cymuned angen codi £150,000 i achub tafarn 'chwedlonol' y Ring

- Cyhoeddwyd
Mae gan gymuned yng Ngwynedd bythefnos ar ôl er mwyn ceisio prynu un o dafarndai mwyaf adnabyddus yr ardal.
Mae Menter Gymunedol Tafarn y Ring yn wynebu targed ariannol o £200,000, ar ôl casglu £50,000 drwy gyfranddaliadau hyd yma.
Gyda'r dafarn wedi bod ynghau ers Medi 2024, dywedodd aelod o'r grŵp cymunedol fod y gymuned "angen hyn, mae o am wneud cymaint o wahaniaeth i'n cymuned ni".
Mae'r dafarn wedi wynebu heriau yn y gorffennol yn dilyn y cyfnod clo, ond gobaith y gymuned yw prynu'r les, a'i rhedeg fel tafarn gymunedol.
- Cyhoeddwyd24 Medi 2024
Yn rhan ganolog o'r gymuned ers y 17eg ganrif, mae les tafarn y Brondanw Arms, sy'n cael ei adnabod fel 'Y Ring' yn lleol, ar werth.
'Nôl ym mis Medi 2024 fe wnaeth y gymuned gychwyn ar y broses o geisio codi'r arian er mwyn prynu'r les, ac roedd angen prawf y bydd y gymuned yn medru fforddio rhedeg y dafarn.
Fe esboniodd Melangell Dolma, aelod o'r fenter, "dyna le ddaeth yr alwad am fenthyciadau neu addewid am fenthyciadau" gan ddweud fod hynny wedi "prynu amser" iddyn nhw.
Ond mae'r cyfnod bellach i brynu'r cyfranddaliadau wedi cychwyn, ac mae'r fenter wedi casglu £50,000 o'r £200,000 sydd ei angen.

Dywedodd Melangell y bydd cael y gymuned yn rhedeg y dafarn yn "golygu'r byd" iddi
"Ma' gennym ni lot o waith i'w wneud, ma' gennym ni jyst llai na phythefnos erbyn hyn," esboniodd Melangell.
"'Da ni'n falch iawn o'r gefnogaeth 'da ni wedi ei dderbyn, ond 'da ni'n annog pawb i roi ac i roi yn hael."
Ychwanegodd Melangell ei bod yn "teimlo'n ffyddiog, teimlo bo' ni'n gallu cyrraedd yna".
'Curiad calon plwyf Llanfrothen'
Y enedigol o'r ardal, dywedodd Melangell fod y dafarn wedi bod yn rhan greiddiol o'i magwraeth.
"Y Ring ydy curiad calon plwyf Llanfrothen," meddai.
"Dyna lle mae pawb yn dod ynghyd a thra mae'i wedi bod ynghau yn ddiweddar 'da ni jyst ddim yn gweld pobl - 'da ni'n colli nabod ar ein gilydd achos 'sgynno ni ddim y canolbwynt yna i ddod ynghyd.
"Mae'i go iawn yn dafarn chwedlonol ac yn rhan bwysig o dreftadaeth a diwylliant Cymru."
Dywedodd bydd cael y gymuned yn rhedeg y dafarn yn "golygu'r byd" iddi.
"'Da ni angen hyn, mae o'n mynd i wneud cymaint o wahaniaeth i'n cymuned ni, a'r cymunedau o'n cwmpas, ac i'r Gymraeg."
Mae gan Melangell fab ac mae'n gobeithio y bydd cyfle iddo ef fwynhau treulio amser yn y dafarn yn ystod ei fagwraeth, fel y gwnaeth hi.

Dywedodd 'Chris Bach': "Mae [y dafarn] wedi bod yn bart o'r lle 'ma, mae'n chwith mawr hebddi"
Mae Christopher Davies, neu Chris Bach fel mae'n cael ei adnabod yn lleol, ac un o selogion y Ring, yn dweud fod y dafarn yn "hollbwysig" i'r gymuned.
Dywedodd iddo fod yn mynd i'r Ring ers y 70au cynnar.
"'Da ni gyd yn neud ein gorau i hel y pres 'ma," meddai.
"Mae [y dafarn] wedi bod yn bart o'r lle 'ma, mae'n chwith mawr hebddi."
Aeth ymlaen i ddweud ei fod yn gobeithio y bydd y dafarn yn weithredol er lles y genhedlaeth nesaf.
"Dwi'n 73, i'r genhedlaeth nesaf a'r genhedlaeth ar ei hôl hi fydd hi," meddai.
Gyda dal tri chwarter y ffordd i fynd i gyrraedd y targed, dywedodd mai "dyna 'di'r bwgan mwyaf ar y funud" ac yn annog y gymuned i "fynd i'w pocedi rŵan".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Medi 2024
- Cyhoeddwyd21 Medi 2023