Ymateb cymysg i droi adeilad yn ganolfan i bobl sy'n gaeth i gyffuriau

Y ganolfan
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr adeilad ei adeiladu gan yr Arglwyddes Forester yn 1902 fel cartref i lowyr sâl

  • Cyhoeddwyd

Mae ymateb cymysg i gynlluniau i droi canolfan i gyn-filwyr yn Llandudno yn ysbyty i bobl sy'n gaeth i gyffuriau ac alcohol.

Yn gynharach eleni fe gadarnhaodd elusen Adferiad Recovery eu cynlluniau i gymryd rheolaeth o'r Ganolfan i Gyn-filwyr Dall yn ardal Craig-y-don.

Bwriad yr elusen ydy cynnig gofal tymor byr i gleifion mewn ysbyty annibynnol, gan greu "70 o swyddi o safon uchel".

Byddai tua 40 o gleifion yn aros yno am gyfnodau o hyd at bythefnos, ond mae rhai trigolion yn codi cwestiynau am gael cyfleuster o'r fath mor agos at gartrefi.

Cafodd cyfarfod cyhoeddus ei gynnal nos Fawrth lle roedd cyfle i bobl leol leisio eu barn.

'Cadw meddwl agored'

Cafodd yr adeilad ei adeiladu gan yr Arglwyddes Forester yn 1902 fel cartref i lowyr sâl.

Dros y blynyddoedd mae'r adeilad wedi bod yn ysbyty ymadfer, yn ganolfan feddygol breifat ac yn fwy diweddar yn llety i gyn-filwyr dall - tan y gwanwyn eleni.

Un o amodau'r adeilad ydy ei fod yn gorfod cael ei ddefnyddio at ddibenion meddygol.

Mae elused Adferiad yn y broses o brynu'r safle i'w droi'n ysbyty 40 gwely, fyddai'n cynnig gofal dros dro i gleifion.

Mae Adferiad wedi dweud y bydd cleifion yn cael eu harchwilio pan yn cyrraedd y safle.

Pe bai unigolion yn cyrraedd gyda chyffuriau neu alcohol yn eu meddiant, yna fe fydden nhw'n cael eu gyrru adref.

Adeilad
Disgrifiad o’r llun,

Byddai'r ganolfan yn cartrefu tua 40 o gleifion am gyfnodau o hyd at bythefnos

Ond, nid pawb yn lleol sy'n gefnogol o'r newid yn nefnydd yr adeilad, dyma oedd yr ymateb ar stryd fawr Llandudno ddydd Mawrth.

Dywedodd un dyn lleol a oedd arfer gweithio fel gwirfoddolwr i'r Blind Veterans, er gwaethaf ei bryderon, ei fod am "gadw meddwl agored" am y sefyllfa.

Dywed unigolyn arall yn dweud ei fod yn "rhwystredig achos mae rhai o'n cynghorwyr wedi gwybod am hyn ers cryn amser a heb ddweud dim nes tridiau cyn y cyfarfod cyntaf".

Ychwanegodd y gŵr: "Dwi ddim yn cytuno efo hwn. Mae 'na dai drud iawn fan 'na, treth cyngor uchel."

Dywedodd ei fod yn ymdebygu i "garchar o fewn ysbyty" wrth ddarllen y cynlluniau.

'Dim amser i roi opsiwn neu farn'

Dywedodd un fenyw bod y cynlluniau yn "swnio fel eu bod eisoes wedi sortio'r cyfan, maen nhw'n gwybod beth maen nhw eisiau".

"Maen nhw wedi gwneud e mor sydyn, dyw e ddim yn teimlo'n iawn. Dwi ddim yn teimlo bod neb wedi cael yr amser i roi opsiwn neu farn."

Ond roedd rhai yn croesawu'r newid.

Dywedodd un dyn lleol: "Dwi'n cytuno [gyda'r newid].

"Mae'n adeilad hardd iawn a dylai gael ei ddefnyddio at ddibenion y gymuned."

Clive Wolfendale
Disgrifiad o’r llun,

Mae Clive Wolfendale yn dweud fod yr elusen yn deall pryderon pobl leol

Dywedodd Clive Wolfendale, is-gadeirydd Adferiad, ei fod yn "deall pryderon" y bobl leol, ond bod y cyfarfod nos Fawrth yn gyfle i esbonio bwriad yr elusen.

Dywedodd fod gan Adferiad "50 mlynedd o brofiad i daclo problem dibyniaeth".

Esboniodd y "bydd pobl leol yn aros 'ma ella am 10 neu 14 diwrnod, cyn mynd yn ôl i'r gymuned".

Dywedodd Mr Wolfendale ei fod yn "adeilad ffantastig, ein hamcan ydy i gadw statws yr adeilad, i weithio efo'r gymuned".

Cyfarfod
Disgrifiad o’r llun,

Daeth trigolion lleol ynghyd nos Fawrth i wrando ac i leisio eu barn ar y cynlluniau

Dywedodd llefarydd ar ran Adferiad: "Mae Adferiad wedi gweithio'n agos â Blind Veterans UK i geisio cadw'r safle fel lle i barhau i ddarparu cefnogaeth.

"Mae Adferiad yn bwriadu datblygu'r cynnig yn Llandudno ymhellach drwy gofrestru'r safle fel Ysbyty Annibynnol o dan reoliadau Arolygiaeth Iechyd Cymru ar gyfer darparu gofal meddygol i bobl sydd angen gofal cleifion mewnol tymor byr ar eu taith i adferiad."

Nododd eu bod eisoes wedi cynnal cyfarfod gyda rhai pobl leol a swyddogion etholedig ac maen nhw nawr yn cynnig cyfle pellach i bobl leol, "i gwrdd â ni fel ein bod yn medru esbonio'n cynllun yn fanylach ac i ateb unrhyw gwestiynau".

Pynciau cysylltiedig