Rygbi Cymru: Merched i wisgo cit gwahanol yn sgil pryder misglwyf

Y wisg newyddFfynhonnell y llun, Undeb Rygbi Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y menywod yn gwisgo gwisg wahanol i'r bechgyn ar ôl trafod pryder mislif

  • Cyhoeddwyd

Bydd timau rygbi cenedlaethol Cymru yn gwisgo cit gwahanol am y tro cyntaf y tymor nesaf yn dilyn trafodaethau gyda thîm y menywod am bryder mislif.

Bydd y merched yn gwisgo'r crys coch traddodiadol, ond gyda siorts coch a sanau gwyn, tra bydd y bechgyn yn gwisgo crys coch, siorts gwyn a sanau coch.

Mae Cymru hefyd wedi penderfynu ail gyflwyno crys gwyn amgen, a gafodd ei wisgo ddiwethaf yn ystod tymor 2004-05, wrth i'r byd rygbi geisio osgoi gwrthdaro gwisgoedd, sydd yn cyfyngu ar brofiad cefnogwyr sydd â golwg lliw diffygiol.

Bydd y cit newydd ar gyfer gemau cartref yn cael ei wisgo am y tro cyntaf wrth i fenywod Cymru wynebu Awstralia yn Rodney Parade, Casnewydd, ar 20 Medi.

Y menywod fydd hefyd y cyntaf i wisgo'r cit amgen wrth iddyn nhw chwarae yn erbyn yr Alban oddi cartref ar 6 Medi.

Dywedodd capten y merched, Hannah Jones: "Mae gwisgo'r crys coch wastad yn foment arbennig, yn gwybod ein bod ni'n cynrychioli ein gwlad, ein teuluoedd, ein ffrindiau, cyn-chwaraewyr a chefnogwyr Cymru.

"Mae bod y tîm cyntaf i wisgo'r cit newydd ar gyfer ein gemau yn erbyn yr Alban ac Awstralia ym mis Medi, cyn cystadlu yn ail haen cystadleuaeth y WXV, yn fraint ac yn gyfle cyffrous", meddai.

Bydd dynion Cymru yn gwisgo'r cit gwyn a gwyrdd am y tro cyntaf ar 23 Tachwedd, pan fyddan nhw'n wynebu De Affrica yn Stadiwm Principality.

Dywedodd Dewi Lake, a oedd yn gapten ar y tîm yn ystod eu taith ddiweddar yn Awstralia: "Does dim teimlad fel chwarae dros dy wlad, ac mae wastad yn fraint i wisgo'r crys.

"Dwi'n gwybod bydd y bois yn gyffrous i fod nôl yn Stadiwm Principality yn yr Hydref ac i roi popeth i'n cefnogwyr, ffrindiau a teuluoedd."

Pynciau cysylltiedig