Merch yn clywed am ryddhau llofrudd ei mam wrth fynd ar fis mêl

Sandie Bowen yn gwenu wrth gael tynnu ei llun. Mae modd gweld ei hwyneb yn unig. Mae hi'n gwenu, gyda gwallt byr ac yn gwisgo clustdlysau.Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Sandie Bowen wedi diflannu o'i chartref ym mis Awst 1997

  • Cyhoeddwyd

Mae menyw yn dweud iddi gael gwybod bod llofrudd ei mam yn cael ei ryddhau o'r carchar wrth iddi baratoi i fynd ar ei mis mêl.

Cafodd Michael Bowen ei garcharu am oes yn 1998 am lofruddio ei wraig Sandie Bowen a chuddio ei chorff am 20 mlynedd.

Ym mis Ionawr 2015, cafodd ei ryddhau ar barôl, ond ers hynny mae wedi'i alw'n ôl i'r ddalfa ddwywaith.

Dywedodd merch Sandie Bowen, Anita Fox, na ddylai Bowen fod wedi ei ryddhau o'r carchar, ar ôl iddi ddod i'r amlwg ei fod yn cael ei ystyried yn risg uchel yn ystod ei gyfnod ar barôl.

Dywedodd y Bwrdd Parôl fod penderfyniadau i ryddhau carcharorion yn cael eu gwneud "yn drylwyr a gyda gofal mawr", gan ychwanegu taw amddiffyn y cyhoedd ydi'r "flaenoriaeth".

Dywedodd Ms Fox ei bod ym Maes Awyr Heathrow yn paratoi i hedfan i Sbaen ym mis Tachwedd 2024 pan gafodd wybod y byddai Bowen yn cael ei ryddhau eto.

Fe ddiflannodd Ms Bowen, 53, o'r cartref yr oedd hi'n ei rannu gyda'i gŵr yn Llaneuddogwy, ger Trefynwy, ym mis Awst 1997.

Cafodd ei gweddillion eu darganfod yn sownd i sinc cegin ar lannau cronfa ddŵr Coed Gwent, ger Casnewydd, ym mis Chwefror 2017.

Roedd Bowen, 72 - sydd bellach yn defnyddio'r enw Raymond Bowen - wedi gwrthod dweud wrth yr heddlu ble'r oedd ei chorff a dydi e heb gyfaddef ei llofruddio.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Michael Bowen ei ddyfarnu'n euog o lofruddiaeth a'i garcharu am oes yn Llys y Goron Casnewydd yn 1998

Mae dogfennau llys, sydd wedi eu gweld gan BBC Cymru, bellach yn datgelu bod Bowen yn cael ei ystyried yn risg uchel ar adeg ei ryddhau am y tro cyntaf yn 2015.

Dywedodd Ms Fox fod hynny'n golygu na ddylai Bowen fod wedi cael ei ryddhau.

"Fe gymerodd i ffwrdd fy mam, fy nghyfle i heneiddio gyda hi ac i fy wyrion gael cwrdd â hi," meddai.

"Dydw i erioed wedi gallu dod i delerau gyda'r hyn sydd wedi digwydd achos dyw e heb gyfaddef llofruddio fy mam."

Ffynhonnell y llun, Anita Fox
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Anita Fox wedi priodi ei phartner Paul yn ninas Las Vegas, yr UDA

Mae unrhyw garcharor sy'n cael dedfryd oes yn gorfod cydymffurfio ag amodau trwydded am weddill ei oes ar ôl ei ryddhau.

Cafodd Bowen ei alw'n ôl i'r carchar am y tro cyntaf ym mis Rhagfyr 2015 ar ôl torri ei drwydded a bu yno tan fis Medi 2016.

Cafodd ei alw yn ôl eto ym mis Mai 2020 yn dilyn digwyddiad lle cafodd bygythiadau eu gwneud, a bu yn y ddalfa am bedair blynedd a hanner arall.

Wrth benderfynu a ddylid ei ryddhau unwaith eto, dywedodd y panel bwrdd parôl eu bod wedi ystyried ffactorau risg yn ymwneud â'i agwedd at berthnasau, gan gynnwys "eisiau rheoli partner", "cenfigen" a "methu derbyn fod perthynas wedi dod i ben".

Clywodd y panel fod Bowen wedi cwblhau rhaglenni yn y carchar i fynd i'r afael â'i dueddiad i ymddwyn yn dreisgar.

Dywedodd y bwrdd parôl eu bod yn "fodlon nad oedd angen carcharu bellach er mwyn diogelu'r cyhoedd".

Ond dywedodd Anita ei bod yn credu nad yw Bowen "wedi gwneud unrhyw newidiadau i fod yn berson gwell", yn enwedig mewn perthynas â merched.

"Mae e'n gwneud fi'n grac oherwydd cyn belled ag yr ydw i yn y cwestiwn, ddylai e fyth fod wedi cael ei ryddhau yn y lle cyntaf," meddai.

'Bwli treisgar'

Dywedodd Justin O'Keeffe, sy'n gyn-dditectif prif arolygydd gyda Heddlu Gwent, bod gweld fod Bowen wedi cwblhau'r un cyrsiau yn y carchar ag yr oedd wedi eu cwblhau yn ystod ei gyfnod cyntaf yn y carchar yn "ddigalon a siomedig".

"Fe hoffech chi feddwl y byddai rhywun sydd wedi treulio amser sylweddol yn y carchar... y bydden nhw'n edrych ar y ffordd maen nhw wedi ymddwyn," meddai Mr O'Keefee, sydd bellach wedi ymddeol.

Mae rhyddhau Bowen yn ddibynnol ar amodau trwydded gan gynnwys arsylwi "parth gwahardd", gwell monitro a goruchwyliaeth, a datgelu unrhyw berthynas sy'n datblygu.

Dywedodd Mr O'Keeffe fod achos Sandie Bowen yn "unigryw" i lu Gwent, lle'r oedd rhywun yn euog, heb ddarganfod corff.

Disgrifiodd Bowen fel "bwli treisgar, gorfodol a chenfigennus", gan ychwanegu fod yr achos wedi clywed tystiolaeth o ymosodiadau ar bartneriaid blaenorol.

"Dwi'n gallu cofio sut o'dd e'n dweud celwydd wrth bawb," ychwanegodd.

Ffynhonnell y llun, Jaggery/Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd gweddillion Sandie Bowen eu canfod ger cronfa ddŵr Coed Gwent ger Casnewydd

Mae Ms Fox, sy'n byw yn Folkestone, Sir Caint, yn cefnogi Cyfraith Helen, sy'n sicrhau fod lladdwyr yn gallu cael eu carcharu am gyfnod hirach os ydyn nhw'n peidio rhannu gwybodaeth - gan gynnwys datgelu lle mae gweddillion y person.

Dywedodd Ms Fox ei bod hi wedi cadw llwch ei mam yn ei chartref am gyfnod oherwydd bod "angen i fi ei chael hi gyda fi".

Gydag amser, penderfynodd Ms Fox wasgaru llwch ei mam mewn lle yr oedd y ddwy yn ei garu.

"Dyna sut roeddwn i'n gallu gwybod y gallwn i symud ymlaen."

Pynciau cysylltiedig