Diffynnydd achos herwgipio Môn wedi lladd ei hun - cwest

Llun carchar berwynFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Fe wnaeth dyn 65 oed oedd wedi ei gyhuddo o fod yn rhan o gynllwyn i herwgipio plentyn, ladd ei hun, mae rheithgor cwest wedi penderfynu.

Cafodd Robert Frith, 65, ei ganfod yn farw yn ei gell yng Ngharchar Berwyn, Wrecsam ym mis Tachwedd 2020.

Roedd hynny bum niwrnod ar ôl cael ei gadw yn y ddalfa fel rhan o ymchwiliad troseddol yn ymwneud â chynllwyn honedig i herwgipio plentyn ar Ynys Môn.

Roedd disgwyl i'r tad i ddau o Gaergybi ymddangos yn Llys y Goron Caernarfon ar 7 Rhagfyr 2020.

Mewn gwrandawiad yn Rhuthun, dywedodd swyddogion carchar nad oedd Frith wedi ceisio hunan niweidio ac felly yn cael ei weld fel "risg arferol".

Roedd pobl yn cadw golwg arno yn ystod ei gyfnod yn ei gell unigol, ond roedden nhw'n gwirio fod y carcharorion yn bresennol, yn hytrach na gwirio eu lles.

Cafodd Frith ei ddisgrifio fel unigolyn "galluog, caredig a gofalgar" gan ei frawd, gan ychwanegu fod Frith yn isel yn dilyn marwolaeth eu mam, a'r ffaith fod gan eu brawd ganser.

Frith wedi marw ers rhai oriau

Fe wnaeth y swyddog carchar John O'Sullivan ganfod Mr Frith pan aeth i mewn i'w gell ar fore 14 Tachwedd.

Clywodd y cwest yn gynharach mai mygu gan fag plastig oedd achos ei farwolaeth.

Roedd y bag wedi ei ddefnyddio mewn bin yn y gell.

Dywedodd patholegydd y Swyddfa Gartref, Dr Brian Rodgers fod rigor mortis eisoes wedi ei gofnodi yn ei gorff, gan ddangos bod Frith wedi marw ers rhwng tri a chwe awr.

Cafodd y cwest yn Rhuthun ei agor ddydd Mercher, ac ar ôl trafodaeth am awr ddydd Iau, fe ddaeth y rheithgor i ganlyniad mai hunanladdiad oedd achos y farwolaeth.

Pynciau cysylltiedig