Diffynnydd achos herwgipio Môn 'wedi mygu mewn cell carchar'

Carchar y Berwyn, WrecsamFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Robert Frith ei ddarganfod yn farw yn ei wely yng Ngharchar y Berwyn

  • Cyhoeddwyd

Cafodd dyn 65 oed oedd wedi ei gyhuddo o fod yn rhan o gynllwyn i herwgipio plentyn ei ddarganfod wedi ei fygu yn ei wely mewn carchar, mae cwest wedi clywed.

Bu farw Robert Frith o Gaergybi, Ynys Môn yng Ngharchar Berwyn, Wrecsam ym mis Tachwedd 2020.

Roedd yn cael ei gadw yn y ddalfa fel rhan o ymchwiliad troseddol yn ymwneud â chynllwyn honedig i herwgipio plentyn ar yr ynys.

Dywedodd y crwner wrth y rheithgor nad oedd awgrym bod person arall yn gysylltiedig â'r farwolaeth.

Ym mis Medi 2021, cafodd chwech o bobl eu carcharu ar ôl i blentyn gael ei gipio oddi ar ei ofalwr maeth ar Ynys Môn.

Yn ystod yr achos yng Nghaernarfon, roedden nhw wedi honni bod y plentyn wedi dioddef camdriniaeth satanaidd, a'u bod nhw'n credu eu bod nhw'n ei helpu.

Ond doedd dim tystiolaeth bod y plentyn yn cael ei gamdrin, yn ôl yr heddlu.

'Dim arwydd o drais'

Dywedodd patholegydd y Swyddfa Gartref, Dr Brian Rodgers bod swyddogion wedi dweud wrtho bod Mr Frith yn cael ei gadw ar ei ben ei hun mewn cell unigol, pan gafodd ei ddarganfod yn ei wely ar fore 14 Tachwedd.

Dywedodd Dr Rodgers wrth y cwest yn Rhuthun bod ei ddillad gwely yn ei orchuddio.

"Doedd dim arwydd o unrhyw drais," dywedodd Dr Rodgers.

Dangosodd profion tocsicoleg nad oedd ffactorau eraill wedi cyfrannu at ei farwolaeth.

Nododd y patholegydd mai mygu drwy ddefnyddio bag plastig oedd achos ei farwolaeth.

Llun o swyddog carcharFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd swyddogion carchar fod Mr Frith yn garcharor "cwrtais" ac "nad oedd unrhyw bryder" am ei gyflwr meddyliol

Mewn datganiad gafodd ei ddarllen i'r rheithgor, dywedodd brawd Robert Frith, Peter Frith bod ei frawd yn gweithio fel nyrs seiciatryddol yn y gwasanaeth iechyd.

Dywedodd ei fod yn credu bod ei frawd yn cael cyfnodau o iselder a'i fod yn ddibynnol ar alcohol.

"Doedd ganddo ddim llawer o hunan-hyder neu hunan-barch," ychwanegodd Mr Frith.

"Roedd yn ddyn annwyl, gofalgar a doedd ddim yn haeddu marw mewn cell carchar," dywedodd.

Dywedodd ei fod yn credu bod ei frawd yn berson "bregus" a bod "posibilrwydd y gallai benderfynu dod â'i fywyd ei hun i ben".

Chafodd manylion am ran honedig Mr Frith yn y cynllwyn herwgipio ddim eu datgelu yn y cwest, a dywedodd y crwner cynorthwyol, David Lewis wrth y rheithgor "nad oedd unrhyw un ar brawf" yn y gwrandawiad.

Dywedodd swyddog diogelwch carchardai wrth y cwest fod Mr Frith wedi cael ei asesu fel carcharor newydd ac "nad oedd unrhyw wybodaeth ei fod mewn perygl".

Dywedodd dau swyddog carchar arall fod Mr Frith yn garcharor "cwrtais" ac "nad oedd unrhyw bryder" am ei gyflwr meddyliol.

Mae'r cwest yn parhau.

Pynciau cysylltiedig