Effaith adeiladu llwybr beicio yn Sir Gâr yn 'annerbyniol'
![Robert Moore a Charlie Moore](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/1600/cpsprodpb/8500/live/1675d590-eaeb-11ef-a819-277e390a7a08.png)
Mae Richard a Charlie Moore yn dweud bod y llwybr yn wahanol i'r cynlluniau gwreiddiol
- Cyhoeddwyd
Mae rhai tirfeddianwyr yn Nyffryn Tywi yn flin am effaith y gwaith o greu llwybr beicio rhwng Abergwili a Llandeilo yn Sir Gaerfyrddin.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cael £16.7m gan Lywodraeth y Deyrnas Uniedig i gwblhau'r cynllun, sydd yn creu llwybr seiclo a cherdded 20km o hyd trwy ganol y dyffryn.
Dywedodd un tirfeddiannwr wrth BBC Cymru bod y llwybr yn fwy llydan na'r disgwyl mewn mannau ac yn bellach o'r cloddiau, fydd yn creu trafferthion o ran cynnal a chadw.
Yn ôl Cyngor Sir Caerfyrddin mae'r llwybr wedi cadw at y "cynlluniau a'r manylebau y cytunwyd arnynt".
'Bydd e'n wast a'n tyfu trash'
Cafodd yr awdurdod bwerau i feddiannu rhannau o dir ar hyd y llwybr trwy orchmynion prynu tir gorfodol yn dilyn ymchwiliad cyhoeddus.
Mae'r cyngor yn dweud y gallai'r llwybr seiclo newydd rhwng Abergwili a Llandeilo, dolen allanol gyfrannu hyd at £4.4m at yr economi leol bob blwyddyn.
![Richard Lewis](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/2560/cpsprodpb/67d4/live/cb993530-eaf4-11ef-b296-c70114635fc4.jpg)
Mae Richard Lewis yn teimlo na fydd unrhyw fudd i dirfeddianwyr sydd wedi colli eu tir trwy orchmynion prynu gorfodol
Mae Richard Lewis yn ffermio yn Abergwili ac yn cwyno am yr effaith ar ei fferm.
"So ni moyn e 'ma. Maen nhw'n gadael gormod o ddaear ochr draw i'r cycle path. Bydd e'n wast a bydd e'n tyfu trash," meddai.
"Bydd rubbish yn cael ei daflu mewn iddo fe a pwy sydd yn mynd i maintaino fe? Sai'n credu bod y council yn mynd i maintaino fe. "
Dydy Mr Lewis ddim yn teimlo y bydd unrhyw fudd i dirfeddianwyr sydd wedi colli eu tir trwy orchmynion prynu gorfodol.
"Falle bydd e'n dod ag arian i mewn i'r ardal, ond bydd e ddim yn dod ag arian i ni.
"Mae'n mynd â lot o ddaear wrthon ni, a ni moyn e i gynhyrchu bwyd."
Mae'n dweud bod y llwybr yn fwy llydan, mewn mannau, na'r tri medr yr oedd yn ei ddisgwyl yn ôl y cynlluniau.
"Ar y plans roedd e'n dweud mai three metres oedd e. Nawr maen nhw'n mynd â nine metres."
'Nifer o dirfeddianwyr yn flin'
Un arall sydd yn pryderu ydy cymydog Mr Lewis, Charlie Moore, sy'n dweud bod y llwybr yn wahanol i'r cynlluniau gwreiddiol.
"Mae'n hollol wahanol. Dwi'n gwybod bod pethau yn newid, ond dyw pethau ddim yn newid mor fawr â hyn.
"Mae'n annerbyniol os ydych chi yn edrych ar beth sydd wedi mynd ymlaen. Mae cwestiynau gan bawb."
Mae'n dweud bod nifer o dirfeddianwyr yr ardal yn flin.
"Dwi ddim wedi siarad gydag un person sydd yn hapus gyda beth sydd yn mynd ymlaen," meddai.
![Pont newydd sydd wedi cael ei adeiladu ar gyfer y llwybr beicio.](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/3840/cpsprodpb/20f0/live/e984f140-eaec-11ef-a319-fb4e7360c4ec.jpg)
Pont newydd sydd wedi cael ei adeiladu ar gyfer y llwybr beicio
Mae ei dad, Robert, hefyd yn dweud bod y llwybr yn wahanol i'r hyn a amlinellwyd yn wreiddiol.
"Fe roddwyd cynlluniau i ni, yn esbonio beth oedd yn mynd i ddigwydd, ond maen nhw yn wahanol iawn i beth sydd yn cael ei wneud.
"Mae yna fwlch o dair metr rhwng y llwybr a'r ffin.
"Mae'n ddigon gwael fod fy nhir yn cael ei dorri yn hanner. Mae mwy o dir wedi cael ei ddefnyddio yn ddireswm."
![Rhan o'r llwybr beicio newydd yn Abergwili](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/3840/cpsprodpb/c804/live/f1a34d00-eaeb-11ef-8869-4f6068d699cb.jpg)
Mae ffermwyr yn poeni bod gormod o dir yn cael ei ddefnyddio i greu'r llwybr beicio newydd
Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, aelod cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros drafnidiaeth, gwastraff a seilwaith, bod yr awdurdod yn "ymwybodol o'r pryderon a godwyd gan Richard Lewis".
"Rydym yn pwysleisio unwaith eto fod y prosiect wedi'i gyflawni gan gadw at y cynlluniau a'r manylebau y cytunwyd arnynt."
Ychwanegodd eu bod wedi trafod yn rheolaidd ag asiantau a benodwyd gan Mr Lewis ac wedi cyfarfod gydag ef ar y safle i drafod ei bryderon.
"Mae'n bwysig pwysleisio bod y tir, sydd wedi'i gaffael a'i roi'n gyfreithlon, a'r trywydd y cytunwyd arno ar gyfer y llwybr yn gyson â maint y safle presennol ac ôl troed y llwybr.
"Mynegwyd hyn ar y cychwyn i'r tirfeddianwyr yn ystod y broses gynllunio a chaffael tir.
"Cafodd y tir ar gyfer y llwybr beicio ei gaffael trwy broses gorchymyn prynu gorfodol, a oedd yn cynnwys ystyriaeth ac ymgynghori gofalus.
"Rydym yn deall pwysigrwydd lleihau'r effaith ar dirfeddianwyr lleol ac rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i fynd i'r afael ag unrhyw faterion sy'n codi."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mai 2024
- Cyhoeddwyd30 Awst 2024