Teulu yn cofio'r Gymraes gafodd bedwar trawsblaniad
- Cyhoeddwyd
Allison Angell o Sir Benfro oedd y person cyntaf yn y DU i gael pedwar o'i horganau wedi eu trawsblannu.
Dros gyfnod o 10 mlynedd, cafodd Allison drawsblaniad afu, calon, ysgyfaint ac aren.
Bu farw'n 46 oed ar 18 Rhagfyr, 2024.
Mae ei gŵr, Nathan Angell, yn ei chofio fel person penderfynol oedd yn ei annog i fod yn gryf, er ei bod hi'n dioddef.
Yn ôl ei thad, bydd yn cael ei chofio am helpu eraill oedd yn byw gyda ffibrosis systig.
- Cyhoeddwyd1 Ionawr
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2015
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2023
Roedd Allison Angell o Abergwaun yn chwe wythnos oed pan gafodd ddiagnosis o ffibrosis systig.
Yn 17 oed cafodd lawdriniaeth i gael afu newydd, cyn iddi gael trawsblaniad calon ac ysgyfaint.
Yn 2006, cafodd aren gan ei thad, David.
Eglura mam Allison, Helen John: "Mae rhai pobl yn dweud mai'r salwch wnaeth ei gwneud hi'n gryf.
"Ond dydi hynny ddim yn wir - roedd hi'n gryf o'r dechrau."
Pan gafodd Allison ei geni, doedd dim disgwyl i bobl oedd â ffibrosis systig fyw y tu hwnt i'w harddegau yr adeg hynny.
Ond fe deithiodd Allison dros y byd, fe helpodd hi eraill gyda chyflyrau meddygol a bu'n gweithio fel meddyg teulu.
"Roedd hi eisiau byw gymaint a gwneud gymaint - roedd hi wastad mor bositif," meddai Helen.
"Doedd hi ddim yn hoffi dibynnu ar neb, fe fyddai hi wedi gallu gofyn am help ond doedd hi byth yn gwneud hynny.
"Fe wnaethon ni ei dysgu hi i fod yn annibynnol fel ei bod hi'n gallu byw gyda'i salwch drwy ei bywyd," ychwanegodd.
Beth yw ffeibrosis systig?
Mae ffibrosis systig yn gyflwr genetig, sy'n arwain at broblemau anadlu a threulio.
Mae'n effeithio ar tua un o bob 2,500 o fabanod sy'n cael eu geni yn y DU.
Mae'n effeithio ar allu celloedd i gludo halen a dŵr a all achosi mwcws gludiog i gronni.
Gall effeithio ar sawl organ ond yn enwedig ar yr ysgyfaint a'r system dreulio.
Ers 2015, mae Cymru wedi newid i system ble maen nhw'n cymryd bod cydsyniad i roi organau, oni bai bod person yn dweud yn benodol nad ydyn nhw eisiau gwneud.
Roedd Allison yn rhan allweddol o'r newid hwnnw, gan siarad yn y Senedd ac yn San Steffan am y modd y cafodd fywyd newydd ar ôl cael trawsblaniadau.
"Roedd hi am i bobl gael yr un faint o hapusrwydd o drawsblaniad â'r hyn gafodd hi," dywedodd Nathan.
"Roedd hi mor falch o gael y cyfle i fod yn rhan o hynny," ychwanegodd.
"Fyddai hi ddim wedi bod yma oni bai am y trawsblaniadau gafodd hi."
Cafodd Allison wobr Pride of Britain yn 2010 ac yn ystod yr un cyfnod, cafodd swydd fel meddyg teulu.
Eglura Nathan y byddai'n "treulio 20 munud ar y ffôn gyda chleifion yn hytrach na 10 munud - dyna'r math o berson oedd hi".
"Roedd hi eisiau i bobl deimlo bod rhywun yn gofalu amdanyn nhw," ychwanegodd.
"Roedd hi wastad eisiau bod yn ddoctor ac rydw i mor falch ei bod hi wedi gallu gwneud hynny," dywedodd ei mam, Helen.
Yn ogystal â derbyn trawsblaniad, fe wnaeth hi hefyd roi ei chalon hi i ddyn o'r enw David Hamilton.
Roedd Mr Hamilton yn ffrind i'r teulu am flynyddoedd - gan fynd i briodas Allison a Nathan yn 2001 - gan fyw am 16 mlynedd ar ôl y trawsblaniad.
Wrth edrych yn ôl ar ei bywyd, mae gan rieni Allison atgofion hapus iawn ohoni.
"Wnawn ni fyth ei anghofio hi, sut allai unrhywun anghofio Allison?"
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2023