Oedi penderfyniad ar ddyfodol canolfannau ambiwlans awyr

Ambiwlans AwyrFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Byddai'r cynllun i ganoli gwasanaethau yn gweld safle newydd yn cael ei sefydlu yn y gogledd

  • Cyhoeddwyd

Mae adolygiad barnwrol ynghylch penderfyniad i gau dau safle ambiwlans awyr yn y gogledd a'r canolbarth wedi cael ei ohirio am y tro.

Yn wreiddiol roedd disgwyl i'r gwrandawiad ddod i ben ddydd Iau, ond mae'r barnwr nawr wedi caniatáu mwy o amser i dîm cyfreithiol ar ran y gwasanaeth iechyd baratoi datganiadau pellach.

Gobaith ymgyrchwyr yw y bydd yr adolygiad yn gam tuag at rwystro'r cynlluniau i gau'r safleoedd yn Y Trallwng a Chaernarfon, a chanoli'r gwasanaeth mewn lleoliad ar gyd arfordir y gogledd.

Llynedd fe enillon nhw'r hawl i gael adolygiad, gan ddadlau bod camgymeriadau wedi bod ym mhroses cyd-bwyllgor comisiynu'r GIG (CBC) o ddod i'w penderfyniad.

Mae CBC yn herio'r angen ar ei gyfer.

Wrth gloi ei sylwadau ar ail ddiwrnod y gwrandawiad, dywedodd y bargyfreithiwr Joanne Clement KC ar ran yr ymgyrchwyr nad oedd aelodau CBC wedi cael "y wybodaeth lawn" cyn gwneud eu penderfyniad.

Bwriad yr ambiwlans awyr yw cyfuno'r gwasanaeth yn y gogledd a'r canolbarth a sefydlu un safle yn Rhuddlan, Sir Ddinbych – newid na fyddai'n effeithio ar eu safleoedd yn Llanelli a Chaerdydd.

Fe wnaeth adolygiad GCTMB, y gwasanaeth sy'n trosglwyddo cleifion gofal brys ac argyfyngau, i'r casgliad y byddai adleoli'r hofrenyddion yn caniatáu i'r gwasanaeth ymateb i fwy o alwadau brys bob blwyddyn ac i wneud mwy o ddefnydd o'r meddygon arbenigol.

Ond dywedodd Ms Clement fod gwybodaeth "hanfodol" heb gael ei gyflwyno i'r pwyllgor cyn eu penderfyniad, gan gynnwys costau cerbydau ychwanegol fyddai'n ychwanegol at hofrenyddion.

Roedd y costau hynny wedi cael eu hychwanegu at rai opsiynau, meddai, ond nid i'r un gafodd ei ffafrio.

'Proses annheg'

Cyfeiriodd Ms Clement hefyd at lythyr gan Llais, corff sy'n cynrychioli buddiannau cleifion, oedd yn annog oedi cyn y penderfyniad nes bod "darlun mwy llawn o sut fydd y gwasanaeth yn edrych i bobl mewn ardaloedd gwledig".

Nid oedd tystiolaeth fod pawb ar y pwyllgor wedi gweld y llythyr hwn, meddai Ms Clement, na chwaith fod y panel wedi derbyn cyngor cyfreithiol y dylen nhw roi "ystyriaeth sylweddol" i gynnwys y llythyr.

Roedd cyfreithwyr ar ran yr ymgyrchwyr eisoes wedi codi pryderon eraill ddydd Mercher, gan gynnwys diffyg ystyriaeth i'r Ddeddf Gydraddoldeb a'i effaith ar bobl fregus allai gael eu heffeithio.

Ychwanegodd Ms Clement fod nifer o ffactorau wedi gwneud y broses yn un "annheg", gan ychwanegu mai'r barnwr Mr Ustus Turner fyddai'n gorfod penderfynu a oedd hynny'n ddigon i fod yn "anghyfreithlon".

Mae disgwyl i'r gwrandawiad barhau ym mis Chwefror.

Pynciau cysylltiedig