'Byw mewn ofn y gallai Foden gael ei ryddhau'n gynnar'

Llun yr heddlu o Neil Foden wedi iddo gael ei arestioFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Neil Foden ei garcharu am 17 o flynyddoedd ym mis Gorffennaf

  • Cyhoeddwyd

Mae dioddefwyr y pedoffeil Neil Foden "yn byw mewn ofn" y bydd yn cael ei ryddhau yn gynnar, yn ôl Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd.

Fe gafodd y cyn-brifathro o'r gogledd ei garcharu am 17 o flynyddoedd ym mis Gorffennaf wedi i lys ei gael yn euog o gam-drin pedair merch dros gyfnod o bedair blynedd.

Wrth ddedfrydu Foden, fe ddywedodd y barnwr y byddai'n rhaid iddo dreulio dau draean o'i ddedfryd - tua 11 mlynedd - dan glo cyn bodd modd ystyried ei ryddhau.

Ond wrth godi'r achos yn Nhŷ'r Cyffredin dydd Mawrth, dywedodd Liz Saville-Roberts ei bod bellach ar ddeall y gallai fod yn gadael y carchar yn gynt na'r disgwyl yn wreiddiol.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ms Saville-Roberts wedi gofyn i'r Gweinidog Cyfiawnder gwrdd â hi i drafod y mater

"Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn dweud wrtha'i nawr y bydd Foden, yn hytrach, ond yn treulio hanner ei ddedfryd mewn carchar oherwydd 14 mlynedd yw'r ddedfryd yn achos ei droseddau mwyaf difrifol," meddai'r AS Plaid Cymru yn ystod sesiwn holi'r Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Gofynnodd a fyddai'r Gweinidog Cyfiawnder, Alex Davies-Jones, "yn cwrdd â mi i drafod sut i ddiogelu'r dioddefwyr, oherwydd maen nhw'n byw dan ofn ei ryddhau yn gynnar".

Atebodd Ms Davies-Jones, AS Pontypridd, ei bod yn gyfarwydd â'r achos "brawychus".

"Mae'n ddychrynllyd ac mae fy holl feddyliau gyda dioddefwyr y troseddau yma," meddai.

Ychwanegodd fod dedfrydu yn fater i'r farnwriaeth annibynnol, ond y byddai'n edrych ar fanylion yr achos a'i bod yn fodlon cwrdd â Ms Saville-Roberts i drafod.