Americanwr wedi'i ethol fel Pab am y tro cyntaf

Mae Robert Prevost yn hanu o Chicago, ond wedi treulio mwyafrif ei fywyd yn byw ym Mheriw
- Cyhoeddwyd
Mae Robert Prevost o'r Unol Daleithiau wedi cael ei ethol fel Pab newydd yn ninas y Fatican brynhawn Iau.
Fe wnaeth Prevost, 69, ymddangos ar y balconi yn edrych dros sgwâr San Pedr toc wedi 18:15, ychydig dros awr ar ôl i'r mwg gwyn o simne'r Capel Sistinaidd gadarnhau fod Pab newydd wedi'i ddewis.
Mae wedi dewis yr enw Pab Leo XIV.
Mae Robert Prevost yn hanu o Chicago yn yr Unol Daleithiau, ond mae wedi treulio mwyafrif ei fywyd yn byw ym Mheriw.
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd26 Ebrill
- Cyhoeddwyd21 Ebrill
Fe ddechreuodd 133 o Gardinaliaid y broses bleidleisio i ddewis Pab newydd brynhawn Mercher ac fe gafodd Prevost ethol ar y bedwaredd bleidlais.
Roedd miloedd o bobl wedi ymgasglu yn y sgwâr, yn chwifio baneri ac yn cofleidio ei gilydd, yn dathlu'r cyhoeddiad.
Daw'r bleidlais wedi marwolaeth y Pab Ffransis yn 88 oed ar ddydd Llun y Pasg.
'Cyfraniad aruthrol i heddwch'
Dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan ar gyfryngau cymdeithasol: "Llongyfarchiadau o Gymru i'r Pab newydd.
"Gobeithiwn y bydd y Pab Leo XIV yn dod â heddwch a dealltwriaeth."
Ychwanegodd yr Archesgob Mark O'Toole o Archesgobaeth Caerdydd-Mynyw ei fod "ar ben fy nigon" gyda'r newyddion.
"Gyda'i brofiad byd-eang a'i ffydd ddofn, rwy'n gwybod y bydd yn cael ei dderbyn yn dyner, nid yn unig gan Gatholigion, ond gan gyd-Gristnogion a phobl o bob ffydd," meddai.
"Bydd yn gwneud cyfraniad aruthrol i heddwch a sefydlogrwydd yn ein byd."
Dywedodd Esgob Wrecsam, Peter Brignall, ei fod wedi'i "lawenhau" gyda'r penderfyniad i ethol y pab newydd.
"Gwelaf ef yn rhoi parhad ac adnewyddiad parhaol i'r Eglwys," meddai.