Cau chwe gorsaf Heddlu Dyfed-Powys yn 'ergyd i gefn gwlad'

Bydd gorsaf heddlu Llandeilo yn cau ac yn symud i'r orsaf dân
- Cyhoeddwyd
Bydd Heddlu Dyfed-Powys yn cau a gwerthu chwe gorsaf o fewn yr awdurdod.
Mae'n rhan o gynllun tair blynedd i arbed £10m ac i foderneiddio a gwella gwasanaethau.
Bydd swyddogion yn symud i weithio mewn canolfannau sy'n cael eu defnyddio gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Dywed yr Aelod Seneddol dros Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe na chlywodd ef am y cynlluniau tan iddo dderbyn e-bost yn cadarnhau'r penderfyniad.
Mae David Chadwick AS yn feirniadol o'r llu am beidio â chyfathrebu o flaen llaw ynglŷn â phenderfyniad fydd yn cael effaith ar ei etholaeth - gyda swyddfeydd Crucywel a'r Gelli Gandryll i gau.

Tra'n deall y pryderon, mae'r Comisiynydd Dafydd Llywelyn yn pwysleisio na fydd llai o swyddogion
Mae'r penderfyniad yn rhan o strategaeth sy'n ystyried y defnydd o ystadau'r llu dros gyfnod o 10 mlynedd, yn ôl Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys.
"Mae nifer o'r adeiladau ar draws rhanbarth Heddlu Dyfed-Powys sydd yn ardal eang, yn ddwy rhan o dair o dirwedd Cymru, wedi heneiddio ac mae angen buddsoddiad sylweddol yn rhan o'r ardaloedd yma," meddai Dafydd Llywelyn.
"Felly mae 'na benderfyniad i fynd i gydweithio nawr gyda'r Frigad Dân, i sicrhau bod adnoddau'n dal yn gweithio o fewn y gymuned ond mewn lleoliad gwahanol."
Y gorsafoedd fydd yn cau
Arberth: Symud i orsaf dân Arberth. Os oes angen siarad â rhywun yn bersonol, y cownter blaen agosaf fydd gorsaf yr heddlu yn Hwlffordd;
Llanfyllin: Symud i orsaf dân Llanfyllin. Y cownter blaen agosaf fydd gorsaf yr heddlu yn Y Drenewydd;
Y Gelli Gandryll: Symud i orsaf dân Y Gelli Gandryll. Y cownter blaen agosaf fydd gorsaf heddlu Aberhonddu;
Crucywel: Symud i orsaf dân Crucywel. Y cownter blaen agosaf fydd gorsaf heddlu Aberhonddu;
Llandeilo: Symud i orsaf dân Llandeilo. Y cownter blaen agosaf fydd gorsaf heddlu Caerfyrddin;
Llanymddyfri: Symud i orsaf dân Llanymddyfri. Y cownter blaen agosaf fydd gorsaf heddlu Caerfyrddin.
Er y bydd swyddfeydd yn cau yn Arberth, Llandeilo, Llanymddyfri, Crucywel, Y Gelli Gandryll a Llanfyllin, mae'r heddlu yn tanlinellu y bydd ymuno â chanolfannau'r frigad dân yn cadw presenoldeb o fewn pob un o'r trefi yma a bod gwasanaeth cownter blaen mewn trefi cyfagos.

Mae David Chadwick AS yn feirniadol o'r llu am beidio â chyfathrebu o flaen llaw ynglŷn â phenderfyniad fydd yn cael effaith ar ei etholaeth
Poeni am y diffyg cyfathrebu a'r ergyd i wasanaethau mae David Chadwick AS.
"Ni'n byw mewn ardal wledig ac ry' ni'n gweld ein gwasanaethau yn diflannu o un i un ac mae pobl wedi eu brawychu gan hynny.
"Ond yr hyn sy'n fy mhoeni i fwyaf yw nad yw'r penderfyniad hwn wedi ei drafod gyda ni o flaen llaw," meddai.
Tra'n deall y pryderon, mae Dafydd Llywelyn yn pwysleisio na fydd llai o swyddogion.
"Beth sy'n bwysig i'w ddweud yw bod y swyddfeydd yma ddim yn agored i'r cyhoedd," ychwanegodd.
"Maen nhw'n ardaloedd neu'n fan gwaith i swyddogion timau plismona bro a bydd y swyddogion hynny'n dal yn weithgar yn y gymuned ac yn weledol yn y gymuned ond yn gweithio allan o ganolfan wahanol gyda'r Frigad Dân ac yn cydweithio gydag asiantaeth arall yn y gymuned."
Ychwanegodd Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys, Richard Lewis y byddai cau'r swyddfeydd yn "gam ymlaen i foderneiddio a gwella gwasanaethau, er mwyn galluogi swyddogion i barhau â'u gwaith yn fwy effeithlon".
Yn ôl comisiynydd y llu, mae 85% o'r gyllideb flynyddol sy'n agos at £150m yn mynd ar aelodau staff.
Dywedodd bod 'na gynnydd wedi bod yn nifer y swyddogion rheng flaen yn ystod ei gyfnod wrth y llyw.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd18 Medi 2024