Ymchwilio i'r broses o gymeradwyo cynllun tai Porth-y-rhyd
- Cyhoeddwyd
Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cyhoeddi ei bod yn ymchwilio i'r broses ddilynodd Cyngor Sir Caerfyrddin wrth benderfynu cymeradwyo cais cynllunio ar gyfer cynllun tai dadleuol.
Cafodd cynllun i adeiladu 42 o dai ym mhentref Porth-y-rhyd ei ganiatáu ym mis Ebrill er i bobl leol fynegi pryder am yr effaith bosib ar y Gymraeg.
Dywedodd y Comisiynydd, Efa Gruffudd Jones, eu bod yn ymchwilio i'r broses ac yn ystyried a wnaeth y cyngor gydymffurfio gyda’r safonau llunio polisi.
Pan gafodd y cais ei gymeradwyo, dywedodd Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd y cyngor fod sylwadau gan y gymuned wedi eu hystyried.
Ddydd Mercher fe ddywedodd llefarydd ar ran y cyngor y byddan nhw'n cydweithio â'r comisiynydd.
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2024
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2022
Er mai ond rhyw 80 o dai sydd ym mhentref Porth-y-rhyd, cafodd y cais ei gyflwyno gan Grŵp Pobl i adeiladu 42 o dai newydd ar dir fferm Wern Fraith.
Mae’r datblygiad yn gymysgedd o dai - 13 i'w gwerthu ar y farchnad agored, 10 ar ffurf rhan-berchenogaeth, ac 19 i'w rhentu.
Bydd 68% o’r tai, yn ôl y datblygwyr, yn dai fforddiadwy.
Roedd galw mawr am oedi'r cynllun yn lleol, yn sgil ffigyrau ynghylch yr iaith Gymraeg yng nghyfrifiad 2021.
Mewn datganiad, dywedodd Ms Jones: “Yng nghyd-destun y datblygiad ym Mhorth-y-rhyd bu fy swyddogion mewn cyswllt â’r cyngor yn gofyn a oedd asesiad wedi ei gynnal o effaith y cais ar y Gymraeg.
“Yn eu hymateb nododd y cyngor fod asesiad effaith wedi ei gynnal ar Gynllun Datblygu Lleol y sir yn ei gyfanrwydd, a gan fod cymeradwyo’r cais hwn yn gyson â’r Cynllun Datblygu Lleol, nad oedd rheidrwydd arnynt i asesu’r effaith.
“Serch hynny, gan fod y cais hwn yn ymwneud â nifer sylweddol mwy o dai na’r bwriad gwreiddiol, fe wnaethom ofyn iddynt weithredu ar fyrder i gynnal asesiad o effaith y cynnig ar y Gymraeg, gan rannu canfyddiadau’r asesiad ymlaen llaw gyda’r rhai hynny a fyddai yn penderfynu’r cais.
“Ni weithredwyd yr argymhelliad hwnnw ac o ganlyniad rwyf wedi penderfynu agor ymchwiliad i’r mater."
Ychwanegodd Ms Jones y byddai'r ymchwiliad yn ymwneud â’r broses ddilynodd y cyngor wrth benderfynu cymeradwyo'r cais cynllunio, ac yn ystyried a wnaeth y cyngor gydymffurfio gyda’r safonau llunio polisi wrth wneud hynny.
“Mae safonau’r Gymraeg yn creu dyletswydd ar gynghorau, wrth lunio neu addasu polisi, i ystyried effeithiau penderfyniad polisi ar y Gymraeg," meddai.
“Byddwn yn gwneud cyhoeddiad pellach pan fydd yr ymchwiliad wedi ei gwblhau.”
Mae Grŵp Pobl, sy'n gyfrifol am y cais, wedi dweud yn y gorffennol eu bod am "ddatblygu polisi o roi blaenoriaeth i bobl leol sydd am rentu" gan "gydweithio gyda'r cyngor i weithredu rhannau o'r Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg".
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig, Cydlyniant Cymunedol a Pholisi Cynllunio - y Cynghorydd Ann Davies: “Rydym wedi derbyn gohebiaeth ysgrifenedig gan Gomisiynydd y Gymraeg, ac mi fyddwn yn cydweithio yn llawn gyda’r ymchwiliad.”