Ymchwilydd cymorth i farw yn erlyn yr heddlu

Sharon JohnstonFfynhonnell y llun, EMPICS
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Sharon Johnston wedi dweud na fyddai dim yn newid ei meddwl am gael cymorth i farw

  • Cyhoeddwyd

Mae myfyrwraig doethuriaeth sy'n ymchwilio i farw â chymorth yn erlyn yr heddlu am iawndal wedi iddyn nhw ei harestio ar ôl mynd â dynes o Geredigion i Dignitas.

Aeth Miranda Tuckett i glinig yn Y Swistir yn 2022 gyda Sharon Johnston, dynes 60 oed o Aberteifi ag anableddau dwys.

Cafodd Ms Tuckett ei harestio pan gyrhaeddodd hi'n ôl yn Llundain ar amheuaeth o annog hunanladdiad.

Fe wnaeth Heddlu Dyfed-Powys ei chludo hi i'r orsaf heddlu a'i chadw yno am 11 awr.

Dywed y llu nad oes modd iddyn wneud sylw ar honiadau yr Uchel Lys o gamgarcharu, tarfu ar hawliau rhyddid academaidd, ac ymosod a churo.

Cafodd Ms Johnston ei pharlysu ar ôl disgyn lawr y grisiau.

Fe ymunodd hi â nifer o grwpiau hawl-i-farw a siaradodd yn gyhoeddus chwe mis cyn ei marwolaeth am ei bwriad i dalu £14,000 er mwyn teithio i'r Swistir.

Mae cynorthwyo hunanladdiad yn gyfreithiol yn Y Swistir i bobl leol ac o dramor.

Yng Nghymru ac yn Lloegr, gall unigolion sy'n cynorthwyo hunanladdiad rhywun arall - neu sy'n mynd â nhw dramor er mwyn gwneud hynny - wynebu hyd at 14 o flynyddoedd yn y carchar.

Ffynhonnell y llun, Humanists UK
Disgrifiad o’r llun,

Sharon Johnston a Sue Lawford

Dywedodd Ms Tuckett wrth y BBC ei bod hi'n credu fod gan yr heddlu "naratif".

"A oedd wir angen iddyn nhw ddod i fy nhŷ... yng nghanol y nos, a 'nghadw i mewn cell a chymryd fy holl ddeunydd ymchwil am ryw chwe neu saith mis?"

Daeth yr achos i sylw Heddlu Dyfed-Powys wedi i Ms Johnston fynd ar goll o'i chartref.

Esboniodd Ms Tuckett i Ms Johnston gael rhywun i fwcio tacsi iddi, a bu'n ateb galwadau gan yr heddlu a'r cartref gofal ar y ffordd i'r maes awyr.

Fe wnaeth hi hynny gyda chymorth Sue Lawford, cyn-weithiwr GIG oedd yno i oruwchwylio ei thaith i Dignitas.

"Fe wnaeth yr holl alwadau hynny ei phoenydio, ac fe ddywedodd hi wrth sawl person, sawl tro, ei bod hi wedi gwneud ei phenderfyniad hi ei hun."

Fe wnaeth yr heddlu hefyd gysylltu ag awdurdodau yn Y Swistir, meddai, ac fe wnaeth eu swyddogion ymweld â Ms Johnston yn Dignitas.

"Fel y gallwch chi ddychmygu, ar y noson cyn y bu farw Sharon - pan y dylai hi fod wedi adlewyrchu ar ei phenderfyniad i ddod â'i bywyd i ben - roedd hi'n derbyn galwadau ffôn."

Cafodd Ms Lawford hefyd ei harestio wedi iddi gyrraedd 'nôl yn y DU.

Mae hi yn y gorffennol wedi disgrifio ymateb yr heddlu fel un "ymosodol".